ATODLEN >2Cyfalaf sydd i’w ddiystyru

8

Unrhyw asedau a ddiystyrid o dan baragraff 6 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (asedau busnes), ond fel pe rhoddid, yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw, yn lle’r geiriau o “the claim for income support” hyd at ddiwedd yr is-baragraff—

a

pan fo A yn breswylydd ac eithrio darpar breswylydd, y geiriau “the accommodation was initially provided or secured”;

b

pan fo A yn ddarpar breswylydd, y geiriau “the local authority began to assess A’s ability to pay for, contribute, or make reimbursements towards the cost of their accommodation under these Regulations and the Care and Support (Charging) (Wales) Regulations 2015”.