2015 Rhif 1867 (Cy. 274)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 6(4)1, 16(1)2, 17(1)3, 26(1) a (3)4, 315 a 48(1)6 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19907 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19728.

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi ystyriaeth i’r cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19909.

Cafwyd ymgynghoriad yn ystod llunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn, fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar gyfer materion diogelwch bwyd10.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 197211 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn gyfleus i gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at yr Atodiadau i Offerynnau’r UE a restrir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.