xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
19. Ni chaiff neb botelu dŵr yfed oni bai bod y dŵr hwnnw yn bodloni gofynion Atodlen 7.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 19 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
20. Ni chaiff neb botelu dŵr yfed a’i labelu gyda—
(a)dynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, llun neu arwydd arall, pa un a yw’n arwyddlun ai peidio, y gallai’r defnydd ohonynt beri dryswch rhwng y dŵr yfed a dŵr mwynol naturiol, neu
(b)y disgrifiad “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 20 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
21. Ni chaiff neb hysbysebu dŵr yfed wedi’i botelu o dan—
(a)unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, llun neu arwydd arall, pa un a yw’n arwyddlun ai peidio, y gallai’r defnydd ohonynt beri dryswch rhwng y dŵr a dŵr mwynol naturiol, neu
(b)y disgrifiad “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 21 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
22. Ni chaiff neb werthu dŵr yfed wedi’i botelu—
(a)sydd wedi’i botelu yn groes i reoliad 19;
(b)sydd wedi’i labelu yn groes i reoliad 20; neu
(c)sy’n cael ei hysbysebu yn groes i reoliad 21.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 22 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)