xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
23. Yn achos dŵr mwynol naturiol, rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol i sicrhau—
(a)bod cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn parhau’n sefydlog o fewn terfynau anwadaliad naturiol;
(b)heb leihau effaith paragraff (a), nad yw cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn cael eu heffeithio gan unrhyw amrywiad yng nghyfradd y llif;
(c)bod y cyfrif cytref hyfyw wrth y ffynhonnell (cyn i’r dŵr gael unrhyw driniaeth) yn rhesymol gyson, gan gymryd i ystyriaeth gyfansoddiad ansoddol a meintiol y dŵr a ystyriwyd wrth roi cydnabyddiaeth i’r dŵr a pha un a yw’n parhau i fodloni gofynion Rhan 1 o Atodlen 1; a
(d)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni mewn perthynas â’r dŵr.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 23 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
24.—(1) Yn achos dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ansawdd y dŵr yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr—
(a)ei fod yn bodloni gofynion Cyfarwyddeb 98/83 ac yn cydymffurfio’n benodol â’r gwerthoedd paramedrig a osodir yn unol ag Atodlen 7; a
(b)pan fo diheintiad yn ffurfio rhan o’r broses o baratoi neu ddosbarthu dŵr yfed wedi’i botelu, bod y driniaeth ddiheintio a ddefnyddir yn effeithlon a bod unrhyw halogiad o sgil-gynhyrchion diheintio yn cael ei gadw cyn ised â phosibl heb beryglu’r diheintio.
(2) Er mwyn cydymffurfio â pharagraff (1), rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni—
(a)monitro yn unol ag Atodlen 8 er mwyn canfod a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a
(b)monitro yn unol ag Atodlen 9 er mwyn canfod a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.
(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni monitro ychwanegol, yn ôl bob achos yn unigol, mewn perthynas ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb ar wahân i baramedr a bennir yn Atodlen 7, os oes gan yr awdurdod bwyd reswm i amau y gallai fod yn bresennol yn y dŵr dan sylw mewn maint neu nifer sy’n golygu perygl posibl i iechyd pobl.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 24 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
25.—(1) At ddiben monitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni—
(a)samplu a dadansoddi yn unol ag Atodlen 10 er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a
(b)samplu a dadansoddi yn unol ag Atodlen 11 er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig ar gyfer y dogn dangosiadol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.
(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd gymryd samplau ar yr adeg y potelir y dŵr.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 25 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
26.—(1) Os bydd awdurdod bwyd yn penderfynu nad yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd paramedrig a bennir yn Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd—
(a)ymchwilio ar unwaith i’r diffyg cydymffurfio er mwyn canfod yr achos;
(b)asesu a yw’r diffyg cydymffurfio yn peryglu iechyd pobl gan olygu bod angen camau gweithredu;
(c)ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y busnes gymryd camau adferol cyn gynted ag y bo modd er mwyn adfer ansawdd y dŵr pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd pobl;
(d)mewn cysylltiad ag unrhyw baramedr a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7, hysbysu’r cyhoedd o’r camau adferol a gymerir, oni bai bod yr awdurdod bwyd yn ystyried bod y diffyg cydymffurfio â’r gwerth paramedrig yn ddibwys; ac
(e)mewn cysylltiad ag unrhyw baramedr a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, hysbysu’r cyhoedd o’r risgiau a’r camau adferol a gymerir a rhoi cyngor i’r cyhoedd am unrhyw fesurau rhagofal a allai fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd pobl mewn cysylltiad â sylweddau ymbelydrol.
(2) Os yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn golygu perygl posibl i iechyd pobl, boed yn bodloni’r gwerthoedd paramedrig perthnasol yn Atodlen 7 ai peidio, rhaid i’r awdurdod bwyd—
(a)atal neu gyfyngu ar gyflenwad y dŵr hwnnw yn ei ardal neu gymryd camau eraill fel y bo’r angen er mwyn diogelu iechyd pobl; a
(b)hysbysu’r cyhoedd yn ddi-oed o’r ffaith a rhoi cyngor pan fo angen.
(3) Nid oes rhaid i awdurdod bwyd atal neu gyfyngu ar gyflenwad dŵr o dan baragraff (2)(a) os yw’n ystyried y byddai gwneud hynny yn arwain at risg annerbyniol i iechyd pobl.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 26 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
27.—(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol ar unrhyw driniaethau tynnu fflworid a awdurdodwyd ganddo er mwyn sicrhau bod gofynion paragraff 3 o Atodlen 2 yn parhau i gael eu bodloni.
(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol ar unrhyw driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn a awdurdodwyd ganddo er mwyn sicrhau bod gofynion paragraff 4 o Atodlen 3 yn parhau i gael eu bodloni.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 27 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
28. Rhaid i’r awdurdod bwyd sicrhau bod pob sampl yn cynrychioli ansawdd y dŵr dan sylw a yfir drwy gydol y flwyddyn y cymerir y sampl ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 28 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
29.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o’r Ddeddf ac y mae’n ofynnol iddo roi rhan o’r sampl hwnnw i’r perchennog yn unol â rheoliad 7(3)(c) o’r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013(1) fynd â’r sampl hwnnw—
(a)yn uniongyrchol i’r perchennog neu asiant y perchennog; neu
(b)drwy bost cofrestredig neu wasanaeth dosbarthu cofnodedig.
(2) Os na fydd y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymchwilio’n rhesymol, yn gallu canfod enw a chyfeiriad y perchennog, caiff y swyddog awdurdodedig ddal gafael ar y sampl.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “perchennog” yr un ystyr ag a roddir iddo yn y Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 29 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
30.—(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl dŵr o dan adran 29 o’r Ddeddf at y diben o’i ddadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) os ymddengys bod y dŵr wedi ei ddatblygu neu ei botelu gan berson (ar wahân i’r perchennog) y mae ei enw a’i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig wedi eu harddangos ar y botel.
(2) Rhaid i’r swyddog awdurdodedig anfon yr hysbysiad i’r person hwnnw o fewn 3 diwrnod i gaffael y sampl, sy’n ei hysbysu—
(a)bod y sampl wedi ei gaffael gan y swyddog; a
(b)ymhle y cafodd y sampl ei gymryd neu, yn ôl y digwydd, gan bwy y’i prynwyd.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os bydd y swyddog awdurdodedig yn penderfynu peidio â chael dadansoddiad o’r sampl.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 30 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
31.—(1) Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys pan fo rhan o sampl a gafodd ei gaffael o dan adran 29 o’r Ddeddf wedi ei chyflwyno i gael ei dadansoddi a bod rhan arall o’r sampl wedi ei chadw yn unol â rheoliad 7(3)(e) o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 a—
(a)bod hysbysiad gwella wedi ei gyflwyno i berson o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir gan reoliad 33, fel y’i darllenir gydag Atodlen 12, am dorri darpariaeth y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r sampl hwnnw;
(b)bod apêl yn erbyn yr hysbysiad gwella hwnnw wedi ei gwneud gan y person hwnnw i lys yr ynadon; ac
(c)bod y swyddog awdurdodedig yn bwriadu cyflwyno canlyniad y dadansoddiad a grybwyllwyd uchod fel tystiolaeth.
(2) Caiff swyddog awdurdodedig anfon y rhan o’r sampl a gedwir i Gemegydd y Llywodraeth i’w dadansoddi ond rhaid ei anfon—
(a)os gofynnir hynny gan lys yr ynadon; neu
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (6), os gofynnir hynny gan dderbynnydd yr hysbysiad gwella.
(3) Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi, neu gyfarwyddo dadansoddwr bwyd i ddadansoddi, y rhan o’r sampl a anfonwyd o dan baragraff (2) ac anfon tystysgrif dadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth i’r swyddog awdurdodedig.
(4) Rhaid i unrhyw dystysgrif a anfonir gan Gemegydd y Llywodraeth gael ei llofnodi gan neu ar ran Cemegydd y Llywodraeth, ond caniateir cynnal y dadansoddiad gan berson o dan gyfarwyddyd y person sy’n llofnodi’r dystysgrif.
(5) Ar ôl derbyn y dystysgrif, a chyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid i’r swyddog awdurdodedig roi copi ohoni i lys yr ynadon ac i dderbynnydd yr hysbysiad gwella.
(6) Pan wneir cais o dan baragraff (2)(b), caiff y swyddog awdurdodedig ofyn i dderbynnydd yr hysbysiad gwella dalu ffi a bennir yn ysgrifenedig i dalu rhai o gostau Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni’r swyddogaethau o dan baragraff (3), neu’r holl gostau.
(7) Pan fydd hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff (6) a derbynnydd yr hysbysiad gwella yn gwrthod talu’r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â’r cais a wnaed o dan baragraff (2)(b).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 31 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
O.S. 2013/479 (Cy. 55), diwygiwyd gan O.S. 2013/2493 (Cy. 242).