xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 6LL+CGorfodi ac amrywiol ddarpariaethau

GorfodiLL+C

32.  Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 32 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso’r Ddeddf: hysbysiadau gwellaLL+C

33.—(1Mae darpariaethau adran 10 o’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 o Atodlen 12 yn gymwys at ddiben y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd i gyflwyno hysbysiad gwella i unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â rheoliadau 8 i 22 o’r Rheoliadau hyn neu un o ddarpariaethau Rheoliad 115/2010 a grybwyllir yng ngholofn 2 o Dabl 1 o Atodlen 12.

(2Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith cymhwyso adran 10 o’r Ddeddf at ddibenion ar wahân i’r rhai a bennir ym mharagraff (1).

(3Ni chaniateir i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad gwella o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir yn unol â pharagraff (1)—

(a)os byddai’r hysbysiad gwella yn gysylltiedig â dŵr a gafodd ei botelu a’i labelu cyn 28 Tachwedd 2015; a

(b)os na fyddai’r materion sy’n peri’r tramgwydd honedig yn cyfrif fel trosedd o dan y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37.

(4Os nad yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn bodloni gofynion paragraff 1(c) o Ran 1 o Atodlen 7, ni chaniateir i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad gwella o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir yn unol â pharagraff (1)—

(a)os cafodd y dŵr dan sylw ei botelu neu ei werthu mewn Gwladwriaeth AEE ar wahân i’r Deyrnas Unedig; a

(b)os oedd y dŵr yn cydymffurfio â’r gyfraith yn y Wladwriaeth AEE honno pan gafodd ei botelu neu ei werthu.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 33 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso’r Ddeddf: pwerau mynediadLL+C

34.—(1Mae darpariaethau adran 32 o’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 o Atodlen 12 yn gymwys at ddibenion galluogi y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, i alluogi swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd—

(a)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes un o ddarpariaethau Rheoliad 115/2010 a grybwyllir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw yn cael neu wedi cael ei dorri;

(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaethau o’r fath wedi eu torri; ac

(c)wrth arfer pŵer mynediad o dan y darpariaethau yn adran 32 a gymhwysir, i arfer y pwerau cysylltiedig yn is-adrannau (5) a (6) mewn perthynas â chofnodion.

(2Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith cymhwyso adran 32 o’r Ddeddf at ddibenion ar wahân i’r rhai a bennir ym mharagraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 34 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso darpariaethau eraill y DdeddfLL+C

35.  Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 o Atodlen 12 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 35 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Arbedion a darpariaethau trosiannolLL+C

36.—(1Bydd unrhyw gydnabyddiaeth o ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a roddwyd o dan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol 1985, Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu 1999, neu Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2007 ac sy’n bodoli ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)yn achos dŵr a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru, yn cael ei drin fel pe byddai’n gydnabyddiaeth a roddwyd gan yr awdurdod bwyd o dan reoliad 4(2)(a); a

(b)yn achos dŵr a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad ar wahân i Wladwriaeth AEE, yn cael ei drin fel pe byddai’n gydnabyddiaeth a roddwyd gan yr Asiantaeth o dan reoliad 4(2)(d)(i).

(2Nid yw dirymiad y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw awdurdodiad, cydnabyddiaeth na hysbysiad a wnaed neu a roddwyd gan yr Asiantaeth neu’r awdurdod bwyd fel yr awdurdod perthnasol o dan y Rheoliadau hynny, ac mae unrhyw awdurdodiad, cydnabyddiaeth neu hysbysiad o’r fath yn parhau i gael effaith.

(3Pan fo cais wedi ei wneud o dan y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37 i awdurdod bwyd am gydnabyddiaeth i ddŵr fel dŵr mwynol naturiol, mae’r cais i’w drin fel pe byddai wedi ei wneud o dan Rannau 1 neu 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 36 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

DirymiadauLL+C

37.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2007(1);

(b)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2009(2);

(c)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2010(3);

(d)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Diwygio) 2011(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 37 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i ddeddfwriaeth arallLL+C

38.  Mae Atodlen 13 (diwygiadau i ddeddfwriaeth arall) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 38 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)