xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Rheoliad 4(2)(a) a 4(2)(d)(i)

ATODLEN 1LL+CCydnabod dŵr mwynol naturiol

RHAN 1LL+CDŵr mwynol naturiol a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru

1.  Rhaid i berson sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru fel dŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54 wneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal, gan roi’r wybodaeth a ganlyn—LL+C

(a)y manylion a bennir ym mharagraff 10(a) o Ran 3;

(b)y wybodaeth a geir o ganlyniad i’r arolygon a’r dadansoddiad y gofynnir amdanynt o dan baragraff 10(b) ac (c), fel y’i darllenir gyda pharagraff 11, o Ran 3; ac

(c)tystiolaeth i ddangos nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

2.  Pan fydd yn ofynnol rhoi gwybodaeth ar yr anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac yr elfennau hybrin yn unol â pharagraff 1(b), rhaid mynegi crynodiad bob anion, catïon, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio ac elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf y tablau yn Rhan 4 o’r Atodlen hon yn yr uned fesur a bennir yn ail golofn y tablau yn Rhan 4.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

3.  Pan fydd gwybodaeth a ofynnir gan baragraff 1 wedi’i rhoi, rhaid i’r awdurdod bwyd ei hasesu a chydnabod y dŵr y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef yn ddŵr mwynol naturiol os yw wedi’i fodloni—LL+C

(a)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy’n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2009/54;

(b)bod nodweddion y dŵr wedi eu hasesu yn unol â’r canlynol—

(i)y pwyntiau a rifir 1 i 4 ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2009/54;

(ii)y manylion a’r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen hon, a

(iii)dulliau gwyddonol cydnabyddedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

4.  Rhaid i’r awdurdod bwyd, wrth roi cydnabyddiaeth i ddŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 3, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o’r fath a’r rhesymau dros ei roi yn y London Gazette.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDŵr mwynol naturiol a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE

5.  Rhaid i berson sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE yn ddŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54 wneud cais ysgrifenedig i’r Asiantaeth, gan roi’r wybodaeth ganlynol—LL+C

(a)y manylion a bennir ym mharagraff 10(a) o Ran 3;

(b)y wybodaeth a geir o ganlyniad i’r arolygon a’r dadansoddiad y gofynnir amdanynt o dan baragraff 10(b) ac (c), fel y’i darllenir gyda pharagraff 11, o Ran 3; ac

(c)tystiolaeth i ddangos nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

6.  Pan fydd yn ofynnol rhoi gwybodaeth ar yr anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac yr elfennau hybrin yn unol â pharagraff 5(b), rhaid mynegi crynodiad bob anion, catïon, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio ac elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf y tablau yn Rhan 4 o’r Atodlen hon yn yr uned fesur a bennir yn ail golofn y tablau yn Rhan 4.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

7.  Rhaid i’r Asiantaeth gydnabod y cyfryw ddŵr os bydd yr awdurdod cyfrifol yn y wlad yr echdynnir y dŵr ohoni wedi ardystio—LL+C

(a)ei fod wedi’i fodloni—

(i)bod y gofynion ym mharagraffau 10(b) ac (c) o Ran 3 wedi’u sefydlu;

(ii)gyda’r dystiolaeth a roddir yn unol â pharagraff 5(c); a

(b)bod archwiliadau cyfnodol wedi cael eu gwneud i ganfod—

(i)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy’n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;

(ii)bod nodweddion y dŵr wedi’u hasesu yn unol â’r canlynol—

(aa)y pwyntiau a rifir 1 i 4 ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;

(bb)y manylion a’r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen hon; ac

(cc)dulliau gwyddonol cydnabyddedig; a

(iii)bod darpariaethau Atodlen 4 yn cael eu cymhwyso gan y person sy’n datblygu’r ffynnon.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

8.  Bydd cydnabyddiaeth o’r cyfryw ddŵr yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o bum mlynedd oni fydd awdurdod cyfrifol y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi adnewyddu’r ardystiad sy’n ofynnol gan baragraff 7.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

9.  Rhaid i’r Asiantaeth, pan fydd yn cydnabod dŵr yn unol â’r Rhan hon, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o’r fath yn y London Gazette, yr Edinburgh Gazette a’r Belfast Gazette.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CGofynion a meini prawf ar gyfer cydnabod dŵr mwynol naturiol

10.  Rhaid i berson sy’n ceisio cael dŵr wedi’i gydnabod fel dŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 neu baragraff 5 o Ran 2 o’r Atodlen hon gynnal—LL+C

(a)arolygon daearegol a hydroddaearegol sy’n cynnwys y manylion canlynol—

(i)union safle’r dalgylch gan ddangos ei uchder ar fap â graddfa heb fod yn fwy na 1:1,000;

(ii)adroddiad daearegol manwl ar darddiad a natur y tir;

(iii)stratigraffeg yr haen hydroddaearegol;

(iv)disgrifiad o weithrediadau’r dalgylch; a

(v)darnodi’r ardal neu fanylion o fesurau eraill sy’n diogelu’r ffynnon rhag llygredd.

(b)arolygon ffisegol, cemegol a ffisigo-cemegol y mae’n rhaid iddynt sefydlu—

(i)cyfradd llif y ffynnon;

(ii)tymheredd y dŵr yn ei ffynhonnell a thymheredd yr awyrgylch;

(iii)y berthynas rhwng natur y tir a natur a math y mwynau yn y dŵr;

(iv)y gweddillion sych ar 180ºC a 260ºC;

(v)y dargludedd neu wrthedd trydanol, gan bennu mesur y tymheredd;

(vi)y crynodiad ïonau hydrogen (pH);

(vii)yr anionau a’r catïonau;

(viii)yr elfennau sydd heb eu hïoneiddio;

(ix)yr elfennau hybrin;

(x)y priodweddau radio-actinolegol yn y ffynhonnell;

(xi)pan fydd yn briodol, lefelau isotop perthnasol elfennau ansoddol y dŵr, ocsigen (16O–18O) a hydrogen (protiwm, dewteriwm, tritiwm); a

(xii)gwenwyndra rhai elfennau ansoddol y dŵr, gan gymryd i ystyriaeth y terfynau a osodir ar gyfer pob un ohonynt;

(c)dadansoddiad microbiolegol yn y ffynhonnell y mae’n rhaid iddo ddangos—

(i)absenoldeb parasitiaid a micro-organebau pathogenig;

(ii)penderfyniad meintiol cyfrif cytref y gellir ei adfywio sy’n dangos halogi ysgarthol, ac sy’n dangos absenoldeb—

(aa)Escherichia coli a cholifformau eraill mewn 250ml ar 37ºC a 44.5ºC,

(bb)streptococi ysgarthol mewn 250ml,

(cc)anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn 50ml, a

(dd)Pseudomonas aeruginosa mewn 250ml; a

(iii)cyfanswm cyfrif cytref y gellir ei adfywio fesul ml o ddŵr—

(aa)ar 20 i 22ºC mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin, a

(bb)ar 37ºC mewn 24 awr ar agar-agar.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

11.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i berson sy’n ceisio cael dŵr wedi’i gydnabod fel dŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 neu baragraff 5 o Ran 2 o’r Atodlen hon gynnal dadansoddiad clinigol a ffarmacolegol yn unol â dulliau gwyddonol cydnabyddedig a ddylai weddu i nodweddion arbennig y dŵr mwynol naturiol a’i effaith ar y corff dynol, megis troethlif, swyddogaethau gastrig a choluddol, a gwneud iawn am ddiffygion mwynol.LL+C

(2Caniateir i ddadansoddiadau clinigol, mewn achosion priodol, gael eu cynnal yn lle’r dadansoddiadau ffarmacolegol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), ar yr amod bod cysondeb a chytundeb nifer sylweddol o arsylliadau clinigol yn galluogi bod modd cael yr un canlyniadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CManylion am anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac elfennau hybrin

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 Rhn. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Tabl A

AnionauUned fesur
Borad BO3 -mg/l
Carbonad CO32-mg/l
Clorid Cl-mg/l
Fflworid F -mg/l
Hydrogen Carbonad HCO3-mg/l
Nitrad NO3 -mg/l
Nitrid NO2 -mg/l
Ffosffad PO BO4 3-mg/l
Silicad SiO2 2-mg/l
Sylffad SO4 2-mg/l
Sylffid S2-mg/l

Tabl B

CatïonauUned fesur
Alwminiwm Almg/l
Amoniwm NH4 +mg/l
Calsiwm Camg/l
Magnesiwm Mgmg/l
Potasiwm Kmg/l
Sodiwm Namg/l

Tabl C

Cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddioUned fesur
Cyfanswm carbon organig Cmg/l
Carbon deuocsid rhydd CO2mg/l
Silica SiO2mg/l

Tabl D

Elfennau hybrinUned fesur
Bariwm Bamg/l
Bromin (cyfanswm) Brmg/l
Cobalt Comg/l
Copr Cumg/l
Ïodin (cyfanswm) Img/l
Haearn Femg/l
Lithiwm Limg/l
Manganîs Mnmg/l
Molybdenwm Momg/l
Strontiwm Srmg/l
Zinc Znmg/l