xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 4(2)(a) a 4(2)(d)(i)
1. Rhaid i berson sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru fel dŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54 wneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal, gan roi’r wybodaeth a ganlyn—
(a)y manylion a bennir ym mharagraff 10(a) o Ran 3;
(b)y wybodaeth a geir o ganlyniad i’r arolygon a’r dadansoddiad y gofynnir amdanynt o dan baragraff 10(b) ac (c), fel y’i darllenir gyda pharagraff 11, o Ran 3; ac
(c)tystiolaeth i ddangos nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.
2. Pan fydd yn ofynnol rhoi gwybodaeth ar yr anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac yr elfennau hybrin yn unol â pharagraff 1(b), rhaid mynegi crynodiad bob anion, catïon, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio ac elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf y tablau yn Rhan 4 o’r Atodlen hon yn yr uned fesur a bennir yn ail golofn y tablau yn Rhan 4.
3. Pan fydd gwybodaeth a ofynnir gan baragraff 1 wedi’i rhoi, rhaid i’r awdurdod bwyd ei hasesu a chydnabod y dŵr y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef yn ddŵr mwynol naturiol os yw wedi’i fodloni—
(a)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy’n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2009/54;
(b)bod nodweddion y dŵr wedi eu hasesu yn unol â’r canlynol—
(i)y pwyntiau a rifir 1 i 4 ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2009/54;
(ii)y manylion a’r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen hon, a
(iii)dulliau gwyddonol cydnabyddedig.
4. Rhaid i’r awdurdod bwyd, wrth roi cydnabyddiaeth i ddŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 3, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o’r fath a’r rhesymau dros ei roi yn y London Gazette.
5. Rhaid i berson sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE yn ddŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54 wneud cais ysgrifenedig i’r Asiantaeth, gan roi’r wybodaeth ganlynol—
(a)y manylion a bennir ym mharagraff 10(a) o Ran 3;
(b)y wybodaeth a geir o ganlyniad i’r arolygon a’r dadansoddiad y gofynnir amdanynt o dan baragraff 10(b) ac (c), fel y’i darllenir gyda pharagraff 11, o Ran 3; ac
(c)tystiolaeth i ddangos nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.
6. Pan fydd yn ofynnol rhoi gwybodaeth ar yr anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac yr elfennau hybrin yn unol â pharagraff 5(b), rhaid mynegi crynodiad bob anion, catïon, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio ac elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf y tablau yn Rhan 4 o’r Atodlen hon yn yr uned fesur a bennir yn ail golofn y tablau yn Rhan 4.
7. Rhaid i’r Asiantaeth gydnabod y cyfryw ddŵr os bydd yr awdurdod cyfrifol yn y wlad yr echdynnir y dŵr ohoni wedi ardystio—
(a)ei fod wedi’i fodloni—
(i)bod y gofynion ym mharagraffau 10(b) ac (c) o Ran 3 wedi’u sefydlu;
(ii)gyda’r dystiolaeth a roddir yn unol â pharagraff 5(c); a
(b)bod archwiliadau cyfnodol wedi cael eu gwneud i ganfod—
(i)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy’n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;
(ii)bod nodweddion y dŵr wedi’u hasesu yn unol â’r canlynol—
(aa)y pwyntiau a rifir 1 i 4 ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;
(bb)y manylion a’r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen hon; ac
(cc)dulliau gwyddonol cydnabyddedig; a
(iii)bod darpariaethau Atodlen 4 yn cael eu cymhwyso gan y person sy’n datblygu’r ffynnon.
8. Bydd cydnabyddiaeth o’r cyfryw ddŵr yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o bum mlynedd oni fydd awdurdod cyfrifol y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi adnewyddu’r ardystiad sy’n ofynnol gan baragraff 7.
9. Rhaid i’r Asiantaeth, pan fydd yn cydnabod dŵr yn unol â’r Rhan hon, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o’r fath yn y London Gazette, yr Edinburgh Gazette a’r Belfast Gazette.
10. Rhaid i berson sy’n ceisio cael dŵr wedi’i gydnabod fel dŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 neu baragraff 5 o Ran 2 o’r Atodlen hon gynnal—
(a)arolygon daearegol a hydroddaearegol sy’n cynnwys y manylion canlynol—
(i)union safle’r dalgylch gan ddangos ei uchder ar fap â graddfa heb fod yn fwy na 1:1,000;
(ii)adroddiad daearegol manwl ar darddiad a natur y tir;
(iii)stratigraffeg yr haen hydroddaearegol;
(iv)disgrifiad o weithrediadau’r dalgylch; a
(v)darnodi’r ardal neu fanylion o fesurau eraill sy’n diogelu’r ffynnon rhag llygredd.
(b)arolygon ffisegol, cemegol a ffisigo-cemegol y mae’n rhaid iddynt sefydlu—
(i)cyfradd llif y ffynnon;
(ii)tymheredd y dŵr yn ei ffynhonnell a thymheredd yr awyrgylch;
(iii)y berthynas rhwng natur y tir a natur a math y mwynau yn y dŵr;
(iv)y gweddillion sych ar 180ºC a 260ºC;
(v)y dargludedd neu wrthedd trydanol, gan bennu mesur y tymheredd;
(vi)y crynodiad ïonau hydrogen (pH);
(vii)yr anionau a’r catïonau;
(viii)yr elfennau sydd heb eu hïoneiddio;
(ix)yr elfennau hybrin;
(x)y priodweddau radio-actinolegol yn y ffynhonnell;
(xi)pan fydd yn briodol, lefelau isotop perthnasol elfennau ansoddol y dŵr, ocsigen (16O–18O) a hydrogen (protiwm, dewteriwm, tritiwm); a
(xii)gwenwyndra rhai elfennau ansoddol y dŵr, gan gymryd i ystyriaeth y terfynau a osodir ar gyfer pob un ohonynt;
(c)dadansoddiad microbiolegol yn y ffynhonnell y mae’n rhaid iddo ddangos—
(i)absenoldeb parasitiaid a micro-organebau pathogenig;
(ii)penderfyniad meintiol cyfrif cytref y gellir ei adfywio sy’n dangos halogi ysgarthol, ac sy’n dangos absenoldeb—
(aa)Escherichia coli a cholifformau eraill mewn 250ml ar 37ºC a 44.5ºC,
(bb)streptococi ysgarthol mewn 250ml,
(cc)anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn 50ml, a
(dd)Pseudomonas aeruginosa mewn 250ml; a
(iii)cyfanswm cyfrif cytref y gellir ei adfywio fesul ml o ddŵr—
(aa)ar 20 i 22ºC mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin, a
(bb)ar 37ºC mewn 24 awr ar agar-agar.
11.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i berson sy’n ceisio cael dŵr wedi’i gydnabod fel dŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 neu baragraff 5 o Ran 2 o’r Atodlen hon gynnal dadansoddiad clinigol a ffarmacolegol yn unol â dulliau gwyddonol cydnabyddedig a ddylai weddu i nodweddion arbennig y dŵr mwynol naturiol a’i effaith ar y corff dynol, megis troethlif, swyddogaethau gastrig a choluddol, a gwneud iawn am ddiffygion mwynol.
(2) Caniateir i ddadansoddiadau clinigol, mewn achosion priodol, gael eu cynnal yn lle’r dadansoddiadau ffarmacolegol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), ar yr amod bod cysondeb a chytundeb nifer sylweddol o arsylliadau clinigol yn galluogi bod modd cael yr un canlyniadau.
Anionau | Uned fesur |
---|---|
Borad BO3 - | mg/l |
Carbonad CO32- | mg/l |
Clorid Cl- | mg/l |
Fflworid F - | mg/l |
Hydrogen Carbonad HCO3- | mg/l |
Nitrad NO3 - | mg/l |
Nitrid NO2 - | mg/l |
Ffosffad PO BO4 3- | mg/l |
Silicad SiO2 2- | mg/l |
Sylffad SO4 2- | mg/l |
Sylffid S2- | mg/l |
Catïonau | Uned fesur |
---|---|
Alwminiwm Al | mg/l |
Amoniwm NH4 + | mg/l |
Calsiwm Ca | mg/l |
Magnesiwm Mg | mg/l |
Potasiwm K | mg/l |
Sodiwm Na | mg/l |
Cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio | Uned fesur |
---|---|
Cyfanswm carbon organig C | mg/l |
Carbon deuocsid rhydd CO2 | mg/l |
Silica SiO2 | mg/l |
Elfennau hybrin | Uned fesur |
---|---|
Bariwm Ba | mg/l |
Bromin (cyfanswm) Br | mg/l |
Cobalt Co | mg/l |
Copr Cu | mg/l |
Ïodin (cyfanswm) I | mg/l |
Haearn Fe | mg/l |
Lithiwm Li | mg/l |
Manganîs Mn | mg/l |
Molybdenwm Mo | mg/l |
Strontiwm Sr | mg/l |
Zinc Zn | mg/l |