xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

ATODLEN 1LL+CCydnabod dŵr mwynol naturiol

RHAN 2LL+CDŵr mwynol naturiol a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE

5.  Rhaid i berson sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE yn ddŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54 wneud cais ysgrifenedig i’r Asiantaeth, gan roi’r wybodaeth ganlynol—LL+C

(a)y manylion a bennir ym mharagraff 10(a) o Ran 3;

(b)y wybodaeth a geir o ganlyniad i’r arolygon a’r dadansoddiad y gofynnir amdanynt o dan baragraff 10(b) ac (c), fel y’i darllenir gyda pharagraff 11, o Ran 3; ac

(c)tystiolaeth i ddangos nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

6.  Pan fydd yn ofynnol rhoi gwybodaeth ar yr anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac yr elfennau hybrin yn unol â pharagraff 5(b), rhaid mynegi crynodiad bob anion, catïon, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio ac elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf y tablau yn Rhan 4 o’r Atodlen hon yn yr uned fesur a bennir yn ail golofn y tablau yn Rhan 4.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

7.  Rhaid i’r Asiantaeth gydnabod y cyfryw ddŵr os bydd yr awdurdod cyfrifol yn y wlad yr echdynnir y dŵr ohoni wedi ardystio—LL+C

(a)ei fod wedi’i fodloni—

(i)bod y gofynion ym mharagraffau 10(b) ac (c) o Ran 3 wedi’u sefydlu;

(ii)gyda’r dystiolaeth a roddir yn unol â pharagraff 5(c); a

(b)bod archwiliadau cyfnodol wedi cael eu gwneud i ganfod—

(i)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy’n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;

(ii)bod nodweddion y dŵr wedi’u hasesu yn unol â’r canlynol—

(aa)y pwyntiau a rifir 1 i 4 ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;

(bb)y manylion a’r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen hon; ac

(cc)dulliau gwyddonol cydnabyddedig; a

(iii)bod darpariaethau Atodlen 4 yn cael eu cymhwyso gan y person sy’n datblygu’r ffynnon.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

8.  Bydd cydnabyddiaeth o’r cyfryw ddŵr yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o bum mlynedd oni fydd awdurdod cyfrifol y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi adnewyddu’r ardystiad sy’n ofynnol gan baragraff 7.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

9.  Rhaid i’r Asiantaeth, pan fydd yn cydnabod dŵr yn unol â’r Rhan hon, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o’r fath yn y London Gazette, yr Edinburgh Gazette a’r Belfast Gazette.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)