xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 10

ATODLEN 5LL+CAnsoddau dŵr mwynol naturiol

RHAN 1LL+CTerfynau uchaf ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 Rhn. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Ansoddau(1)Terfynau uchaf (mg/l)
(1)

Mae’r ansoddau a ddisgrifir uchod yn cyfeirio at ansoddau sy’n bresennol yn naturiol yn y dŵr yn ei ffynhonnell ac nid at sylweddau sy’n bresennol o ganlyniad i halogi.

Antimoni0.0050
Arsenig0.010 (fel cyfanswm)
Bariwm1.0
Cadmiwm0.003
Cromiwm0.050
Copr1.0
Cyanid0.070
Fflworid5.0
Plwm0.010
Manganîs0.50
Mercwri0.0010
Nicel0.020
Nitrad50
Nitrid0.1
Seleniwm0.010

RHAN 2LL+CNodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi’r ansoddau yn Rhan 1

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 5 Rhn. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Ansoddy(1)Cywirdeb y gwerth paramedrig mewn %(2)Trachywiredd y gwerth paramedrig (3)Terfyn canfod y gwerth paramedrig mewn % (4)
(1)

Rhaid bod y dull dadansoddi a ddefnyddir i fesur crynodiad yr ansoddau yn Rhan 1 yn gallu mesur crynodiadau sy’n hafal i’r gwerthoedd paramedrig gyda’r cywirdeb penodedig, a’r terfynau trachywiredd a chanfod. Bid a fo am sensitifrwydd y dull dadansoddi, rhaid mynegi’r canlyniad i o leiaf yr un nifer o leoedd degol â’r terfyn uchaf a osodir yn Rhan 1 ar gyfer yr ansoddyn penodol sy’n cael ei ddadansoddi.

(2)

Cywirdeb yw’r gwall systematig ac mae’n cynrychioli’r gwahaniaeth rhwng y gwerth cyfartalog o nifer fawr o fesuriadau mynych a’r union werth.

(3)

Mae trachywiredd yn cynrychioli’r gwall ar hap a mynegir ef yn gyffredinol fel y gwyriad safonol (mewn swp a rhwng sypiau) o sampl o ganlyniadau o’r cyfartaledd. Mae trachywiredd derbyniol yn hafal i ddwywaith y gwyriad safonol perthynol.

(4)

O ran y terfyn canfod—

(a) mae’n dair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o sampl naturiol sy’n cynnwys crynodiad isel o’r ansoddyn; neu
(b) mae’n bum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o’r newydd.
(5)

Dylai’r dull ei gwneud yn bosibl canfod cyanid ar ei holl ffurfiau.

Antimoni252525
Arsenig101010
Bariwm252525
Cadmiwm101010
Cromiwm101010
Copr101010
Cyanid(5)101010
Fflworid101010
Plwm101010
Manganîs101010
Mercwri201020
Nicel101010
Nitrad101010
Nitrid101010
Seleniwm101010