ATODLEN 7Gofynion ar gyfer dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu gan gynnwys crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd o’r paramedrau
RHAN 1Gofynion ar gyfer dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu
1.
Mae dŵr yn bodloni gofynion yr Atodlen hon—
(a)
os nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw ficro-organebau (heblaw paramedr) neu barasit, neu unrhyw briodwedd, elfen neu sylwedd (heblaw paramedr) mewn crynodiad neu werth a fyddai’n golygu perygl posibl i iechyd dynol;
(b)
os nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd (p’un a ydyw’n baramedr ai peidio) ar grynodiad neu werth a fyddai, ar y cyd ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb arall y mae’n eu cynnwys (p’un a ydyw’n baramedr ai peidio), yn golygu perygl posibl i iechyd dynol; ac
(c)
os nad yw’r dŵr yn cynnwys crynodiadau neu werthoedd o unrhyw rai o’r paramedrau a restrir yn y tablau yn Rhan 2, Rhan 3 a Rhan 4 o’r Atodlen hon yn fwy na’r crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd.
2.
Rhaid darllen crynodiadau neu werthoedd y paramedrau a restrir yn y tablau yn Rhan 2, Rhan 3 a Rhan 4 o’r Atodlen hon ar y cyd â’r nodiadau ar y tablau hynny.