RHAN 2LL+CGwerthoedd paramedrig ar gyfer paramedrau microbiolegol a chemegol
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 Rhn. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Tabl A: Paramedrau Microbiolegol
Eitem | Paramedr | Unedau Mesur | Crynodiad neu Werth Mwyaf |
---|---|---|---|
(1) Dylid mesur y cyfanswm cyfrif cytref hyfyw o fewn 12 awr ar ôl potelu, gan gadw’r sampl dŵr ar dymheredd cyson yn ystod y cyfnod hwnnw o 12 awr. Ni ddylai unrhyw gynnydd yng nghyfanswm cyfrif cytref hyfyw’r dŵr rhwng y 12 awr ar ôl ei botelu ac adeg y gwerthu fod yn fwy na’r hyn a ddisgwylir yn arferol. | |||
(2) Mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin. | |||
(3) Mewn 24 awr ar agar-agar. | |||
1. | Escherichia coli (E coli) | nifer/250 ml | 0/250 ml |
2. | Enterococi | nifer/250 ml | 0/250 ml |
3. | Pseudomonas aeruginosa | nifer/250ml | 0/250 ml |
4. | Cyfrif cytref 22ºC | nifer/ml | 100/ml (1) (2) |
5. | Cyfrif cytref 37ºC | nifer/ml | 20/ml(1) (3) |
Tabl B: Paramedrau Cemegol
Eitem | Paramedr | Unedau Mesur | Crynodiad neu Werth Mwyaf |
---|---|---|---|
(1) Mae’r gwerth paramedrig yn cyfeirio at y crynodiad monomer gweddilliol yn y dŵr fel y’i cyfrifir yn unol â manylebau mwyafswm y gollyngiad o’r polymer cyfatebol sydd mewn cyffyrddiad â’r dŵr. | |||
(2) Rhaid i grynodiad (mg/l) nitrad wedi’i rannu â 50 a ychwanegir i grynodiad (mg/l) o nitrid wedi’i rannu â 3 beidio â bod yn fwy nag 1. | |||
(3) Ystyr “Plaleiddiad” yw: | |||
– pryfleiddiad organig, | |||
– chwynleiddiad organig, | |||
– ffyngleiddiad organig, | |||
– nematoleiddiad organig, | |||
– gwiddonleiddiaid organig, | |||
– algaleiddiaid organig, | |||
– llygodleiddiaid organig, | |||
– llysnafeddleiddiaid organig, a | |||
– cynhyrchion perthynol (inter alia, rheoleiddwyr tyfiant) a’u metabolion, eu cynnyrch diraddio ac adweithio perthnasol. | |||
Dim ond y plaleiddiaid hynny sy’n debygol o fod yn bresennol mewn dŵr penodol sydd angen eu monitro. | |||
(4) Mae mwyafswm crynodiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol. Yn achos aldrin, deueldrin, heptaclor a heptaclor epocsid mwyafswm y crynodiad yw 0.030 μg/l. | |||
(5) Mae mwyafswm y crynodiad ar gyfer “cyfanswm y sylweddau” yn cyfeirio at swm y crynodiadau o bob plaleiddiad unigol a ganfyddir ac a feintolir yn y weithdrefn fonitro. | |||
(6) Y cyfansoddion penodedig yw benso(b)fflworanthen, benso(k)fflworanthen, benso(ghi)perylen, indeno(1.2,3-cd) pyren. | |||
(7) Mae’r crynodiad mwyaf a bennir yn gymwys i swm crynodiadau’r paramedrau penodedig. | |||
1. | Acrylamid | µg/l | 0.10 (1) |
2. | Antimoni | µg Sb/l | 5 |
3. | Arsenig | µg As/l | 10 |
4. | Bensen | µg/l | 1.0 |
5. | Benso (a) pyren | µg/l | 0.010 |
6. | Boron | mg/l | 1.0 |
7. | Bromad | µg/l BrO3/l | 10 |
8. | Cadmiwm | µg Cd/l | 5 |
9. | Cromiwm | µg Cr/l | 50 |
10. | Copr | mg Cu/l | 2 |
11. | Cyanid | µg CN/l | 50 |
12. | 1,2-dicloroethan | µg/l | 3.0 |
13. | Epicolorohydrin | µg/l | 0.10 (1) |
14. | Fflworid | mg F/l | 1.5 |
15. | Plwm | µg Pb/l | 10 |
16. | Mercwri | µg Hg/l | 1 |
17. | Nicel | µg Ni/l | 20 |
18. | Nitrad | mg NO3/l | 50 (2) |
19. | Nitrid | mg NO2/l | 0.5 (2) |
20. | Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol: | ||
- sylweddau unigol | µg/l | 0.10 (3) (4) | |
- cyfanswm y sylweddau | µg/l | 0.50 (3) (5) | |
21. | Hydrocarbonau aromatig polysyclig | µg/l | 0.1 swm crynodiadau cyfansoddion penodedig (6) |
22. | Seleniwm | µg Se/l | 10 |
23. | Tetracloroethen a Thricloroethen | µg/l | 10 (7) |
24. | Tricloromethen, Dicolrorbromomethan, Dibromocolromethan a Thribromomethan | µg/l | 100 (7) |
25. | Finyl clorid | µg/l | 0.50 (1) |