ATODLEN 8Monitro ar gyfer paramedrau heblaw sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu
RHAN 1Gwiriadau
Samplu
I11
Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau yn unol â’r Rhan hon.
I22
Ystyr gwirio yw samplu dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, ar gyfer bob paramedr a restrir yn Nhabl 1 yn yr amgylchiadau a restrir yn y tabl hwnnw er mwyn—
a
penderfynu a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd parametrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7;
b
darparu gwybodaeth ar ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac
c
sefydlu effeithiolrwydd y driniaeth, gan gynnwys diheintiad.
Paramedr | Amgylchiadau |
---|---|
Alwminiwm | Angenrheidiol pan y’i defnyddir fel clystyrdd yn unig. |
Amoniwm | Ym mhob cyflenwad |
Lliw | Ym mhob cyflenwad |
Dargludedd | Ym mhob cyflenwad |
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborynau) | Dim ond yn angenrheidiol os yw’r dŵr yn deillio o ddŵr arwyneb neu’n cael ei ddylanwadu gan ddŵr arwyneb. |
Escherichia coli (E. Coli) | Ym mhob cyflenwad |
Crynodiad ïonau hydrogen | Ym mhob cyflenwad |
Haearn | Angenrheidiol pan y’i defnyddir fel clystyrdd yn unig. |
Nitrad | Angenrheidiol pan ddefnyddir cloramineiddio i ddiheintio. |
Arogl | Ym mhob cyflenwad |
Pseudomonas aeruginosa | Ym mhob cyflenwad |
Blas | Ym mhob cyflenwad |
Cyfrif cytref 22ºC a 37ºC | Ym mhob cyflenwad |
Bacteria colifform | Ym mhob cyflenwad |
Cymylogrwydd | Ym mhob cyflenwad |
Amlder y sampluI33
Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn Nhabl 2.
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir i’w gynnig ar werth mewn poteli neu gynwysyddion bob diwrnod (m3)(1) | Nifer o samplau bob blwyddyn |
---|---|
≤ 10 | 1 |
> 10 ≤ 60 | 12 |
> 60 | 1 am bob 5m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
(1) Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaledd dros flwyddyn galendr. |
RHAN 2Monitro archwiliad
Samplu
I44
Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro archwiliadau yn unol â’r Rhan hon.
I55
Ystyr monitro archwiliad yw samplu dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed mewn potel, ar gyfer bob paramedr a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7 (heblaw paramedrau sy’n cael eu samplu’n barod drwy wiriadau) er mwyn—
a
darparu’r wybodaeth y mae ei hangen er mwyn penderfynu a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a
b
gwneud yn siŵr bod unrhyw sgil-gynhyrchion diheintio yn cael eu cadw cyn ised â phosibl heb beryglu’r diheintio, os defnyddir diheintiad yn achos dŵr yfed wedi’i botelu.
Amlder y sampluI66
Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn Nhabl 3.
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir i’w gynnig ar werth mewn poteli neu gynwysyddion bob diwrnod (m3)(1) | Nifer o samplau bob blwyddyn |
---|---|
≤ 10 | 1 |
> 10 ≥ 60 | 1 |
> 60 | 1 am bob 100 m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
(1) Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaledd dros flwyddyn galendr. |