ATODLEN 9LL+CMonitro ar gyfer sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu

RHAN 1LL+CCyffredinol

CyfartaledduLL+C

15.  Os bydd y gwerth paramedrig mewn sampl o ddŵr yn uwch na’r gwerth a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd gymryd mwy o samplau fel y bo’n briodol, gan roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan yr Asiantaeth, er mwyn sicrhau bod y gwerthoedd a fesurwyd yn cynrychioli crynodiad gweithgaredd cyfartalog blwyddyn gyfan.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9 para. 15 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)