ATODLEN 1Cydnabod dŵr mwynol naturiol
RHAN 1Dŵr mwynol naturiol a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru
I11
Rhaid i berson sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru fel dŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54 wneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal, gan roi’r wybodaeth a ganlyn—
a
y manylion a bennir ym mharagraff 10(a) o Ran 3;
b
y wybodaeth a geir o ganlyniad i’r arolygon a’r dadansoddiad y gofynnir amdanynt o dan baragraff 10(b) ac (c), fel y’i darllenir gyda pharagraff 11, o Ran 3; ac
c
tystiolaeth i ddangos nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.
I22
Pan fydd yn ofynnol rhoi gwybodaeth ar yr anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac yr elfennau hybrin yn unol â pharagraff 1(b), rhaid mynegi crynodiad bob anion, catïon, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio ac elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf y tablau yn Rhan 4 o’r Atodlen hon yn yr uned fesur a bennir yn ail golofn y tablau yn Rhan 4.
I33
Pan fydd gwybodaeth a ofynnir gan baragraff 1 wedi’i rhoi, rhaid i’r awdurdod bwyd ei hasesu a chydnabod y dŵr y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef yn ddŵr mwynol naturiol os yw wedi’i fodloni—
a
bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy’n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2009/54;
b
bod nodweddion y dŵr wedi eu hasesu yn unol â’r canlynol—
i
y pwyntiau a rifir 1 i 4 ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2009/54;
ii
y manylion a’r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen hon, a
iii
dulliau gwyddonol cydnabyddedig.
I44
Rhaid i’r awdurdod bwyd, wrth roi cydnabyddiaeth i ddŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 3, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o’r fath a’r rhesymau dros ei roi yn y London Gazette.
RHAN 2Dŵr mwynol naturiol a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE
I55
Rhaid i berson sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE yn ddŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54 wneud cais ysgrifenedig i’r Asiantaeth, gan roi’r wybodaeth ganlynol—
a
y manylion a bennir ym mharagraff 10(a) o Ran 3;
b
y wybodaeth a geir o ganlyniad i’r arolygon a’r dadansoddiad y gofynnir amdanynt o dan baragraff 10(b) ac (c), fel y’i darllenir gyda pharagraff 11, o Ran 3; ac
c
tystiolaeth i ddangos nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.
I66
Pan fydd yn ofynnol rhoi gwybodaeth ar yr anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac yr elfennau hybrin yn unol â pharagraff 5(b), rhaid mynegi crynodiad bob anion, catïon, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio ac elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf y tablau yn Rhan 4 o’r Atodlen hon yn yr uned fesur a bennir yn ail golofn y tablau yn Rhan 4.
I77
Rhaid i’r Asiantaeth gydnabod y cyfryw ddŵr os bydd yr awdurdod cyfrifol yn y wlad yr echdynnir y dŵr ohoni wedi ardystio—
a
ei fod wedi’i fodloni—
i
bod y gofynion ym mharagraffau 10(b) ac (c) o Ran 3 wedi’u sefydlu;
ii
gyda’r dystiolaeth a roddir yn unol â pharagraff 5(c); a
b
bod archwiliadau cyfnodol wedi cael eu gwneud i ganfod—
i
bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy’n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;
ii
bod nodweddion y dŵr wedi’u hasesu yn unol â’r canlynol—
aa
y pwyntiau a rifir 1 i 4 ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;
bb
y manylion a’r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen hon; ac
cc
dulliau gwyddonol cydnabyddedig; a
iii
bod darpariaethau Atodlen 4 yn cael eu cymhwyso gan y person sy’n datblygu’r ffynnon.
I88
Bydd cydnabyddiaeth o’r cyfryw ddŵr yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o bum mlynedd oni fydd awdurdod cyfrifol y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi adnewyddu’r ardystiad sy’n ofynnol gan baragraff 7.
I99
Rhaid i’r Asiantaeth, pan fydd yn cydnabod dŵr yn unol â’r Rhan hon, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o’r fath yn y London Gazette, yr Edinburgh Gazette a’r Belfast Gazette.
RHAN 3Gofynion a meini prawf ar gyfer cydnabod dŵr mwynol naturiol
I1010
Rhaid i berson sy’n ceisio cael dŵr wedi’i gydnabod fel dŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 neu baragraff 5 o Ran 2 o’r Atodlen hon gynnal—
a
arolygon daearegol a hydroddaearegol sy’n cynnwys y manylion canlynol—
i
union safle’r dalgylch gan ddangos ei uchder ar fap â graddfa heb fod yn fwy na 1:1,000;
ii
adroddiad daearegol manwl ar darddiad a natur y tir;
iii
stratigraffeg yr haen hydroddaearegol;
iv
disgrifiad o weithrediadau’r dalgylch; a
v
darnodi’r ardal neu fanylion o fesurau eraill sy’n diogelu’r ffynnon rhag llygredd.
b
arolygon ffisegol, cemegol a ffisigo-cemegol y mae’n rhaid iddynt sefydlu—
i
cyfradd llif y ffynnon;
ii
tymheredd y dŵr yn ei ffynhonnell a thymheredd yr awyrgylch;
iii
y berthynas rhwng natur y tir a natur a math y mwynau yn y dŵr;
iv
y gweddillion sych ar 180ºC a 260ºC;
v
y dargludedd neu wrthedd trydanol, gan bennu mesur y tymheredd;
vi
y crynodiad ïonau hydrogen (pH);
vii
yr anionau a’r catïonau;
viii
yr elfennau sydd heb eu hïoneiddio;
ix
yr elfennau hybrin;
x
y priodweddau radio-actinolegol yn y ffynhonnell;
xi
pan fydd yn briodol, lefelau isotop perthnasol elfennau ansoddol y dŵr, ocsigen (16O–18O) a hydrogen (protiwm, dewteriwm, tritiwm); a
xii
gwenwyndra rhai elfennau ansoddol y dŵr, gan gymryd i ystyriaeth y terfynau a osodir ar gyfer pob un ohonynt;
c
dadansoddiad microbiolegol yn y ffynhonnell y mae’n rhaid iddo ddangos—
i
absenoldeb parasitiaid a micro-organebau pathogenig;
ii
penderfyniad meintiol cyfrif cytref y gellir ei adfywio sy’n dangos halogi ysgarthol, ac sy’n dangos absenoldeb—
aa
Escherichia coli a cholifformau eraill mewn 250ml ar 37ºC a 44.5ºC,
bb
streptococi ysgarthol mewn 250ml,
cc
anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn 50ml, a
dd
Pseudomonas aeruginosa mewn 250ml; a
iii
cyfanswm cyfrif cytref y gellir ei adfywio fesul ml o ddŵr—
aa
ar 20 i 22ºC mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin, a
bb
ar 37ºC mewn 24 awr ar agar-agar.
I1111
1
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i berson sy’n ceisio cael dŵr wedi’i gydnabod fel dŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 neu baragraff 5 o Ran 2 o’r Atodlen hon gynnal dadansoddiad clinigol a ffarmacolegol yn unol â dulliau gwyddonol cydnabyddedig a ddylai weddu i nodweddion arbennig y dŵr mwynol naturiol a’i effaith ar y corff dynol, megis troethlif, swyddogaethau gastrig a choluddol, a gwneud iawn am ddiffygion mwynol.
2
Caniateir i ddadansoddiadau clinigol, mewn achosion priodol, gael eu cynnal yn lle’r dadansoddiadau ffarmacolegol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), ar yr amod bod cysondeb a chytundeb nifer sylweddol o arsylliadau clinigol yn galluogi bod modd cael yr un canlyniadau.
I77RHAN 4Manylion am anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac elfennau hybrin
Anionau | Uned fesur |
---|---|
Borad BO3 - | mg/l |
Carbonad CO32- | mg/l |
Clorid Cl- | mg/l |
Fflworid F - | mg/l |
Hydrogen Carbonad HCO3- | mg/l |
Nitrad NO3 - | mg/l |
Nitrid NO2 - | mg/l |
Ffosffad PO BO4 3- | mg/l |
Silicad SiO2 2- | mg/l |
Sylffad SO4 2- | mg/l |
Sylffid S2- | mg/l |
Catïonau | Uned fesur |
---|---|
Alwminiwm Al | mg/l |
Amoniwm NH4 + | mg/l |
Calsiwm Ca | mg/l |
Magnesiwm Mg | mg/l |
Potasiwm K | mg/l |
Sodiwm Na | mg/l |
Cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio | Uned fesur |
---|---|
Cyfanswm carbon organig C | mg/l |
Carbon deuocsid rhydd CO2 | mg/l |
Silica SiO2 | mg/l |
Elfennau hybrin | Uned fesur |
---|---|
Bariwm Ba | mg/l |
Bromin (cyfanswm) Br | mg/l |
Cobalt Co | mg/l |
Copr Cu | mg/l |
Ïodin (cyfanswm) I | mg/l |
Haearn Fe | mg/l |
Lithiwm Li | mg/l |
Manganîs Mn | mg/l |
Molybdenwm Mo | mg/l |
Strontiwm Sr | mg/l |
Zinc Zn | mg/l |
ATODLEN 2Triniaeth tynnu fflworid
I121
Ni chaiff neb roi triniaeth tynnu fflworid ar ddŵr mwynol naturiol na dŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y driniaeth honno wedi ei hawdurdodi gan yr awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal.
I132
Rhaid i berson sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth tynnu fflworid—
a
gwneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal;
b
caniatáu i gynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw archwilio’r dull o drin arfaethedig a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; ac
c
darparu’r wybodaeth honno i gefnogi’r cais fel y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.
I143
Rhaid i’r awdurdod bwyd asesu’r cais ac unrhyw wybodaeth gefnogol a rhaid iddo awdurdodi’r driniaeth tynnu fflworid os yw’n fodlon—
a
bod y driniaeth yn cydymffurfio ag Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010; a
b
na fydd i’r driniaeth gamau diheintio.
I154
Pan fydd yr awdurdod bwyd yn penderfynu awdurdodi triniaeth tynnu fflworid yn unol â pharagraff 3, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig a datgan y dyddiad pan fydd yr awdurdodiad ar gyfer defnydd o’r driniaeth yn effeithiol.
I165
Pan fydd yr awdurdod bwyd yn penderfynu gwrthod awdurdodi triniaeth tynnu fflworid yn unol â pharagraff 3, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig, gan ddatgan ei resymau.
I176
Pan fydd triniaeth tynnu fflworid wedi cael ei hawdurdodi yn unol â pharagraff 3, rhaid i’r person sy’n cyflawni’r driniaeth, er mwyn galluogi’r awdurdod bwyd i asesu p’un a yw’r amodau ym mharagraff 3 yn parhau i gael eu bodloni—
a
caniatáu cynrychiolwyr yr awdurdod i archwilio dull y driniaeth a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; a
b
darparu’r wybodaeth honno ynghylch y driniaeth y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.
I187
Caiff yr awdurdod bwyd dynnu awdurdodiad triniaeth tynnu fflworid yn ôl os yw’n cael ei fodloni nad yw’r amodau a bennir ym mharagraff 3 yn cael eu bodloni mwyach, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person sy’n gweithredu’r driniaeth gan ddatgan y rhesymau dros dynnu’n ôl.
I198
Pan fydd yr awdurdod bwyd yn hysbysu person sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth tynnu fflworid o benderfyniad yr awdurdod i wrthod awdurdodi triniaeth o dan baragraff 3, neu’n hysbysu’r person sy’n gweithredu triniaeth o’i benderfyniad i dynnu awdurdodiad yn ôl o dan baragraff 7, caiff y person hwnnw wneud cais i’r Asiantaeth am adolygiad o fewn 6 mis i gael ei hysbysu o’r penderfyniad.
I209
Rhaid i’r Asiantaeth, ar ôl cael cais o dan baragraff 8, wneud y canlynol o fewn 3 mis i ddyddiad y cais hwnnw—
a
ymchwilio i’r mater fel y mae’r Asiantaeth yn ystyried sy’n briodol;
b
ystyried canlyniadau’r ymchwiliadau hynny ac unrhyw ffeithiau perthnasol eraill; ac
c
un ai—
i
cadarnhau’r penderfyniad; neu
ii
cyfarwyddo’r awdurdod bwyd i roi neu adfer awdurdodiad o driniaeth tynnu fflworid fel y bo’n briodol.
I2110
Rhaid i’r awdurdod bwyd gydymffurfio â chyfarwyddyd yr Asiantaeth o dan baragraff 9(c)(ii) ar unwaith.
ATODLEN 3Triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn
I221
Ni chaiff neb roi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn i ddŵr mwynol naturiol na dŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai—
a
ei fod at ddibenion gwahanu cyfansoddion haearn, manganîs, sylffwr ac arsenig o ddŵr lle y maent yn digwydd yn naturiol yn y ffynhonnell;
b
bod gofynion paragraffau 3, 4 a 5 o Atodlen 4 yn cael eu bodloni cyn y driniaeth; ac
c
na fydd i’r driniaeth gamau diheintio.
I232
Rhaid i driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn beidio â gwneud y canlynol—
a
addasu cyfansoddiad ffisigo-cemegol y dŵr o ran ei ansoddau nodweddiadol; neu
b
gadael gweddillion yn y dŵr a allai fod yn risg i iechyd cyhoeddus, neu, yn achos y sylweddau a restrir isod, yn uwch na’r lefelau penodedig.
Gweddillion y driniaeth | Terfyn uchaf ug/l |
---|---|
Osôn toddedig | 50 |
Bromad | 3 |
Bromofform | 1 |
I243
Rhaid i berson sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn—
a
gwneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal;
b
caniatáu i gynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw archwilio’r dull o drin arfaethedig a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; ac
c
darparu’r wybodaeth honno i gefnogi’r cais fel y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.
I254
Rhaid i’r awdurdod bwyd asesu’r cais ac unrhyw wybodaeth gefnogol a rhaid iddo awdurdodi’r driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn os yw’n fodlon—
a
bod cyfiawnhad i broses y driniaeth oherwydd cyfansoddiad y dŵr yn ei ffynhonnell o ran cyfansoddion haearn, manganîs, sylffwr ac arsenig;
b
bod y person sy’n gwneud y driniaeth yn cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod y driniaeth yn effeithiol ac yn ddiogel; ac
c
bod y driniaeth fel arall yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2.
I265
Pan fydd yr awdurdod bwyd yn penderfynu awdurdodi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig a datgan y dyddiad pan fydd yr awdurdodiad ar gyfer defnydd o’r driniaeth yn effeithiol.
I276
Pan fydd yr awdurdod bwyd yn gwrthod awdurdodi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig, gan ddatgan ei resymau.
I287
Pan fydd triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn wedi cael ei hawdurdodi yn unol â pharagraff 4, rhaid i’r person sy’n cyflawni’r driniaeth, er mwyn galluogi’r awdurdod bwyd i asesu p’un a yw’r amodau ym mharagraff 4(a) a (b) yn parhau i gael eu bodloni—
a
caniatáu cynrychiolwyr yr awdurdod i archwilio dull y driniaeth a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; a
b
darparu’r wybodaeth honno ynghylch y driniaeth y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.
I298
Caiff yr awdurdod bwyd dynnu awdurdodiad triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn ôl os yw’n cael ei fodloni nad yw’r amodau a bennir ym mharagraff 4 yn cael eu bodloni mwyach, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person sy’n gweithredu’r driniaeth gan ddatgan y rheswm dros dynnu’n ôl.
I309
Pan fydd yr awdurdod bwyd yn hysbysu person sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn o benderfyniad yr awdurdod i wrthod awdurdodi triniaeth o dan baragraff 4, neu’n hysbysu’r person sy’n gweithredu triniaeth o’i benderfyniad i dynnu awdurdodiad yn ôl o dan baragraff 8, caiff y person hwnnw wneud cais i’r Asiantaeth am adolygiad o fewn 6 mis i gael ei hysbysu o’r penderfyniad.
I3110
Rhaid i’r Asiantaeth, ar ôl cael cais o dan baragraff 9, wneud y canlynol o fewn 3 mis i ddyddiad y cais hwnnw—
a
ymchwilio i’r mater fel y mae’r Asiantaeth yn ystyried sy’n briodol;
b
ystyried canlyniadau’r ymchwiliadau hynny ac unrhyw ffeithiau perthnasol eraill; ac
c
un ai—
i
cadarnhau’r penderfyniad; neu
ii
cyfarwyddo’r awdurdod bwyd i roi neu adfer awdurdodiad o driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn fel y bo’n briodol.
I3211
Rhaid i’r awdurdod bwyd gydymffurfio â chyfarwyddyd yr Asiantaeth o dan baragraff 10(c)(ii) ar unwaith.
ATODLEN 4Gofynion datblygu a photelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol a dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”
I331
Rhaid i gyfarpar ar gyfer datblygu’r dŵr gael ei osod mewn modd sy’n osgoi unrhyw bosibilrwydd o halogi ac i ddiogelu’r priodweddau sy’n cyfateb i’r rheini a briodolir iddo sydd gan y dŵr yn ei ffynhonnell.
I342
Rhaid amddiffyn y ffynnon neu’r allanfa rhag risg llygredd.
I353
Rhaid i’r dalgylch, y pibellau a’r cronfeydd fod o ddeunyddiau sy’n addas ar gyfer dŵr ac o wneuthuriad sy’n rhwystro unrhyw newid cemegol, ffisigo-cemegol neu ficrobiolegol i’r dŵr.
I364
Rhaid i’r amodau ar gyfer y datblygu, yn enwedig yr offer golchi a photelu, fodloni gofynion hylendid, yn cynnwys, yn benodol, bod rhaid i’r cynwysyddion fod wedi’u trin neu eu gweithgynhyrchu mewn modd sy’n osgoi effeithiau andwyol ar nodweddion microbiolegol a chemegol y dŵr.
I375
1
Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), rhaid peidio â chludo dŵr mewn cynwysyddion heblaw’r rhai a awdurdodwyd ar gyfer dosbarthu i’r defnyddiwr olaf.
2
Caniateir cludo dŵr mwynol naturiol o’r ffynnon i’r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i’r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o’r ffynnon honno yn y fath fodd cyn 17 Gorffennaf 1980.
3
Caniateir cludo dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, o’r ffynnon i’r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i’r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o’r ffynnon honno yn y fath fodd ar neu cyn 13 Rhagfyr 1996.
I386
1
Rhaid i gyfanswm cyfrif cytref y dŵr y gellir ei adfywio yn ei ffynhonnell, a benderfynir yn unol ag is-baragraff (2), gydymffurfio â chyfrif cytref hyfyw arferol y dŵr hwnnw a rhaid iddo beidio â dangos bod ffynhonnell y dŵr hwnnw’n halogedig
2
Y cyfrif cytref yw hwnnw a benderfynwyd fesul ml o ddŵr—
a
ar 20 i 22ºC mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a
b
ar 37ºC mewn 24 awr ar agar-agar.
I397
1
Ar ôl potelu, ni chaiff cyfanswm cyfrif cytref y dŵr yn ei ffynhonnell fod yn fwy na—
a
100 fesul ml ar 20 i 22ºC mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a
b
20 fesul ml ar 37ºC mewn 24 awr ar agar-agar.
2
Rhaid mesur cyfanswm cyfrif cytref y dŵr o fewn y cyfnod o 12 awr ar ôl potelu, gan gadw’r dŵr ar 4ºC +/- 1ºC yn ystod y cyfnod hwnnw.
I408
Rhaid bod y dŵr yn rhydd o—
a
parasitiaid a micro-organebau pathogenig;
b
Escherichia coli a cholifformau a streptococi ysgarthol eraill mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir;
c
anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50ml a archwilir; a
d
Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir.
ATODLEN 5Ansoddau dŵr mwynol naturiol
I78RHAN 1Terfynau uchaf ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol
Atod. 5 Rhn. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Ansoddau(1) | Terfynau uchaf (mg/l) |
---|---|
Antimoni | 0.0050 |
Arsenig | 0.010 (fel cyfanswm) |
Bariwm | 1.0 |
Cadmiwm | 0.003 |
Cromiwm | 0.050 |
Copr | 1.0 |
Cyanid | 0.070 |
Fflworid | 5.0 |
Plwm | 0.010 |
Manganîs | 0.50 |
Mercwri | 0.0010 |
Nicel | 0.020 |
Nitrad | 50 |
Nitrid | 0.1 |
Seleniwm | 0.010 |
(1) Mae’r ansoddau a ddisgrifir uchod yn cyfeirio at ansoddau sy’n bresennol yn naturiol yn y dŵr yn ei ffynhonnell ac nid at sylweddau sy’n bresennol o ganlyniad i halogi. |
I79RHAN 2Nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi’r ansoddau yn Rhan 1
Atod. 5 Rhn. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Ansoddy(1) | Cywirdeb y gwerth paramedrig mewn %(2) | Trachywiredd y gwerth paramedrig (3) | Terfyn canfod y gwerth paramedrig mewn % (4) |
---|---|---|---|
Antimoni | 25 | 25 | 25 |
Arsenig | 10 | 10 | 10 |
Bariwm | 25 | 25 | 25 |
Cadmiwm | 10 | 10 | 10 |
Cromiwm | 10 | 10 | 10 |
Copr | 10 | 10 | 10 |
Cyanid(5) | 10 | 10 | 10 |
Fflworid | 10 | 10 | 10 |
Plwm | 10 | 10 | 10 |
Manganîs | 10 | 10 | 10 |
Mercwri | 20 | 10 | 20 |
Nicel | 10 | 10 | 10 |
Nitrad | 10 | 10 | 10 |
Nitrid | 10 | 10 | 10 |
Seleniwm | 10 | 10 | 10 |
(1) Rhaid bod y dull dadansoddi a ddefnyddir i fesur crynodiad yr ansoddau yn Rhan 1 yn gallu mesur crynodiadau sy’n hafal i’r gwerthoedd paramedrig gyda’r cywirdeb penodedig, a’r terfynau trachywiredd a chanfod. Bid a fo am sensitifrwydd y dull dadansoddi, rhaid mynegi’r canlyniad i o leiaf yr un nifer o leoedd degol â’r terfyn uchaf a osodir yn Rhan 1 ar gyfer yr ansoddyn penodol sy’n cael ei ddadansoddi. | |||
(2) Cywirdeb yw’r gwall systematig ac mae’n cynrychioli’r gwahaniaeth rhwng y gwerth cyfartalog o nifer fawr o fesuriadau mynych a’r union werth. | |||
(3) Mae trachywiredd yn cynrychioli’r gwall ar hap a mynegir ef yn gyffredinol fel y gwyriad safonol (mewn swp a rhwng sypiau) o sampl o ganlyniadau o’r cyfartaledd. Mae trachywiredd derbyniol yn hafal i ddwywaith y gwyriad safonol perthynol. | |||
(4) O ran y terfyn canfod— | |||
(a) mae’n dair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o sampl naturiol sy’n cynnwys crynodiad isel o’r ansoddyn; neu | |||
(b) mae’n bum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o’r newydd. | |||
(5) Dylai’r dull ei gwneud yn bosibl canfod cyanid ar ei holl ffurfiau. |
I80ATODLEN 6Mynegiadau labelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol
Atod. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Mynegiad | Meini prawf |
---|---|
Cynnwys isel o fwynau | Cynnwys halwyn mwynol, wedi’i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 500 mg/l |
Cynnwys isel iawn o fwynau | Cynnwys halwyn mwynol, wedi’i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 50 mg/l |
Cyfoethog mewn halwynau mwynol | Cynnwys halwyn mwynol, wedi’i gyfrifo fel gweddill penodol, mwy na 1500 mg/l |
Yn cynnwys bicarbonad | Cynnwys bicarbonad sy’n fwy na 600 mg/l |
Yn cynnwys sylffad | Cynnwys sylffad sy’n fwy na 200 mg/l |
Yn cynnwys clorid | Cynnwys clorid sy’n fwy na 200 mg/l |
Yn cynnwys calsiwm | Cynnwys calsiwm sy’n fwy na 150 mg/l |
Yn cynnwys magnesiwm | Cynnwys magnesiwm sy’n fwy na 50 mg/l |
Yn cynnwys fflworid | Cynnwys fflworid sy’n fwy na 1 mg/l |
Yn cynnwys haearn | Cynnwys deufalent haearn sy’n fwy na 1 mg/l |
Asidig | Cynnwys carbon deuocsid rhydd sy’n fwy na 250 mg/l |
Yn cynnwys sodiwm | Cynnwys sodiwm sy’n fwy na 200 mg/l |
Addas ar gyfer deiet isel mewn sodiwm | Cynnwys sodiwm sy’n llai na 20 mg/l |
ATODLEN 7Gofynion ar gyfer dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu gan gynnwys crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd o’r paramedrau
RHAN 1Gofynion ar gyfer dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu
I411
Mae dŵr yn bodloni gofynion yr Atodlen hon—
a
os nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw ficro-organebau (heblaw paramedr) neu barasit, neu unrhyw briodwedd, elfen neu sylwedd (heblaw paramedr) mewn crynodiad neu werth a fyddai’n golygu perygl posibl i iechyd dynol;
b
os nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd (p’un a ydyw’n baramedr ai peidio) ar grynodiad neu werth a fyddai, ar y cyd ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb arall y mae’n eu cynnwys (p’un a ydyw’n baramedr ai peidio), yn golygu perygl posibl i iechyd dynol; ac
c
os nad yw’r dŵr yn cynnwys crynodiadau neu werthoedd o unrhyw rai o’r paramedrau a restrir yn y tablau yn Rhan 2, Rhan 3 a Rhan 4 o’r Atodlen hon yn fwy na’r crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd.
I422
Rhaid darllen crynodiadau neu werthoedd y paramedrau a restrir yn y tablau yn Rhan 2, Rhan 3 a Rhan 4 o’r Atodlen hon ar y cyd â’r nodiadau ar y tablau hynny.
I81RHAN 2Gwerthoedd paramedrig ar gyfer paramedrau microbiolegol a chemegol
Atod. 7 Rhn. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Eitem | Paramedr | Unedau Mesur | Crynodiad neu Werth Mwyaf |
---|---|---|---|
1. | Escherichia coli (E coli) | nifer/250 ml | 0/250 ml |
2. | Enterococi | nifer/250 ml | 0/250 ml |
3. | Pseudomonas aeruginosa | nifer/250ml | 0/250 ml |
4. | Cyfrif cytref 22ºC | nifer/ml | |
5. | Cyfrif cytref 37ºC | nifer/ml | |
(1) Dylid mesur y cyfanswm cyfrif cytref hyfyw o fewn 12 awr ar ôl potelu, gan gadw’r sampl dŵr ar dymheredd cyson yn ystod y cyfnod hwnnw o 12 awr. Ni ddylai unrhyw gynnydd yng nghyfanswm cyfrif cytref hyfyw’r dŵr rhwng y 12 awr ar ôl ei botelu ac adeg y gwerthu fod yn fwy na’r hyn a ddisgwylir yn arferol. | |||
(2) Mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin. | |||
(3) Mewn 24 awr ar agar-agar. |
Eitem | Paramedr | Unedau Mesur | Crynodiad neu Werth Mwyaf |
---|---|---|---|
1. | Acrylamid | µg/l | 0.10 (1) |
2. | Antimoni | µg Sb/l | 5 |
3. | Arsenig | µg As/l | 10 |
4. | Bensen | µg/l | 1.0 |
5. | Benso (a) pyren | µg/l | 0.010 |
6. | Boron | mg/l | 1.0 |
7. | Bromad | µg/l BrO3/l | 10 |
8. | Cadmiwm | µg Cd/l | 5 |
9. | Cromiwm | µg Cr/l | 50 |
10. | Copr | mg Cu/l | 2 |
11. | Cyanid | µg CN/l | 50 |
12. | 1,2-dicloroethan | µg/l | 3.0 |
13. | Epicolorohydrin | µg/l | 0.10 (1) |
14. | Fflworid | mg F/l | 1.5 |
15. | Plwm | µg Pb/l | 10 |
16. | Mercwri | µg Hg/l | 1 |
17. | Nicel | µg Ni/l | 20 |
18. | Nitrad | mg NO3/l | 50 (2) |
19. | Nitrid | mg NO2/l | 0.5 (2) |
20. | Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol: | ||
- sylweddau unigol | µg/l | ||
- cyfanswm y sylweddau | µg/l | ||
21. | Hydrocarbonau aromatig polysyclig | µg/l | 0.1 swm crynodiadau cyfansoddion penodedig (6) |
22. | Seleniwm | µg Se/l | 10 |
23. | Tetracloroethen a Thricloroethen | µg/l | 10 (7) |
24. | Tricloromethen, Dicolrorbromomethan, Dibromocolromethan a Thribromomethan | µg/l | 100 (7) |
25. | Finyl clorid | µg/l | 0.50 (1) |
(1) Mae’r gwerth paramedrig yn cyfeirio at y crynodiad monomer gweddilliol yn y dŵr fel y’i cyfrifir yn unol â manylebau mwyafswm y gollyngiad o’r polymer cyfatebol sydd mewn cyffyrddiad â’r dŵr. | |||
(2) Rhaid i grynodiad (mg/l) nitrad wedi’i rannu â 50 a ychwanegir i grynodiad (mg/l) o nitrid wedi’i rannu â 3 beidio â bod yn fwy nag 1. | |||
(3) Ystyr “Plaleiddiad” yw: | |||
– pryfleiddiad organig, | |||
– chwynleiddiad organig, | |||
– ffyngleiddiad organig, | |||
– nematoleiddiad organig, | |||
– gwiddonleiddiaid organig, | |||
– algaleiddiaid organig, | |||
– llygodleiddiaid organig, | |||
– llysnafeddleiddiaid organig, a | |||
– cynhyrchion perthynol (inter alia, rheoleiddwyr tyfiant) a’u metabolion, eu cynnyrch diraddio ac adweithio perthnasol. | |||
Dim ond y plaleiddiaid hynny sy’n debygol o fod yn bresennol mewn dŵr penodol sydd angen eu monitro. | |||
(4) Mae mwyafswm crynodiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol. Yn achos aldrin, deueldrin, heptaclor a heptaclor epocsid mwyafswm y crynodiad yw 0.030 μg/l. | |||
(5) Mae mwyafswm y crynodiad ar gyfer “cyfanswm y sylweddau” yn cyfeirio at swm y crynodiadau o bob plaleiddiad unigol a ganfyddir ac a feintolir yn y weithdrefn fonitro. | |||
(6) Y cyfansoddion penodedig yw benso(b)fflworanthen, benso(k)fflworanthen, benso(ghi)perylen, indeno(1.2,3-cd) pyren. | |||
(7) Mae’r crynodiad mwyaf a bennir yn gymwys i swm crynodiadau’r paramedrau penodedig. |
I82RHAN 3Gwerthoedd paramedrig ar gyfer paramedrau dangosol
Atod. 7 Rhn. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Eitem | Paramedr | Unedau Mesur | Crynodiad neu Werth Mwyaf |
---|---|---|---|
1. | Alwminiwm | µg/l | 200 |
2. | Amoniwm | mg/l | 0.50 |
3. | Clorid | mg/l | 250 (1) |
4. | Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) | nifer/100ml | 0 (2) |
5. | Lliw | graddfa Mg/1 Pt/Co | 20 |
6. | Dargludedd | µS cm-1 ar 20°C | 2500 (1) |
7. | Crynodiad ïonau hydrogen | unedau pH | 4.5 (lleiaf) 9.5 (mwyaf) (1) |
8. | Haearn | µg/l | 200 |
9. | Manganîs | µg/l | 50 |
10. | Arogl | Rhif gwanediad | 3 at 25°C |
11. | Ocsidioldeb | mg/l O2 | 5 (3) |
12. | Sylffad | mg/l | 250 (1) |
13. | Sodiwm | mg/l | 200 |
14. | Blas | Rhif gwanediad | 3 ar 25°C |
15. | Cyfrif cytref 22°C | Dim newid annormal | |
16. | Bacteria Colifform | nifer/250ml | 0 |
17. | Cyfanswm Carbon Organig | Dim newid annormal | |
18. | Cymylogrwydd | Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal | |
(1) Rhaid i’r dŵr beidio bod yn ffyrnig. | |||
(2) Dim ond yn angenrheidiol os yw’r dŵr yn deillio o ddŵr arwyneb neu’n cael ei ddylanwadu gan ddŵr arwyneb. | |||
(3) Nid oes angen mesur y paramedr hwn os yw Cyfanswm Carbon Organig y paramedr yn cael ei ddadansoddi. | |||
(4) Nid oes angen mesur y paramedr hwn ar gyfer cyflenwadau o lai na 10,000m3 y dydd. |
I83RHAN 4Gwerthoedd paramedrig ar gyfer radon, tritiwm a dogn dangosiadol (ID)
Atod. 7 Rhn. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Eitem | Paramedr | Uned Fesur | Crynodiad neu Werth Mwyaf |
---|---|---|---|
1. | Radon | Bq/l | 100 (1) |
2. | Tritiwm | Bq/l | 100 (2) |
3. | Dogn Dangosiadol | mSv | 0.10 |
(1) Bernir bod cyfiawnhad i gamau adferol ar sail diogelwch radiolegol, heb ystyriaeth bellach, pan fo crynodiadau radon yn fwy na 1000 Bq/l. | |||
(2) Gallai lefelau ymgodol o dritiwm ddangos presenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill. Os bydd y crynodiad tritiwm yn uwch na’i werth paramedrig, bydd dadansoddiad o bresenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill yn ofynnol. |
ATODLEN 8Monitro ar gyfer paramedrau heblaw sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu
RHAN 1Gwiriadau
Samplu
I431
Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau yn unol â’r Rhan hon.
I442
Ystyr gwirio yw samplu dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, ar gyfer bob paramedr a restrir yn Nhabl 1 yn yr amgylchiadau a restrir yn y tabl hwnnw er mwyn—
a
penderfynu a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd parametrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7;
b
darparu gwybodaeth ar ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac
c
sefydlu effeithiolrwydd y driniaeth, gan gynnwys diheintiad.
Paramedr | Amgylchiadau |
---|---|
Alwminiwm | Angenrheidiol pan y’i defnyddir fel clystyrdd yn unig. |
Amoniwm | Ym mhob cyflenwad |
Lliw | Ym mhob cyflenwad |
Dargludedd | Ym mhob cyflenwad |
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborynau) | Dim ond yn angenrheidiol os yw’r dŵr yn deillio o ddŵr arwyneb neu’n cael ei ddylanwadu gan ddŵr arwyneb. |
Escherichia coli (E. Coli) | Ym mhob cyflenwad |
Crynodiad ïonau hydrogen | Ym mhob cyflenwad |
Haearn | Angenrheidiol pan y’i defnyddir fel clystyrdd yn unig. |
Nitrad | Angenrheidiol pan ddefnyddir cloramineiddio i ddiheintio. |
Arogl | Ym mhob cyflenwad |
Pseudomonas aeruginosa | Ym mhob cyflenwad |
Blas | Ym mhob cyflenwad |
Cyfrif cytref 22ºC a 37ºC | Ym mhob cyflenwad |
Bacteria colifform | Ym mhob cyflenwad |
Cymylogrwydd | Ym mhob cyflenwad |
Amlder y sampluI453
Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn Nhabl 2.
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir i’w gynnig ar werth mewn poteli neu gynwysyddion bob diwrnod (m3)(1) | Nifer o samplau bob blwyddyn |
---|---|
≤ 10 | 1 |
> 10 ≤ 60 | 12 |
> 60 | 1 am bob 5m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
(1) Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaledd dros flwyddyn galendr. |
RHAN 2Monitro archwiliad
Samplu
I464
Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro archwiliadau yn unol â’r Rhan hon.
I475
Ystyr monitro archwiliad yw samplu dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed mewn potel, ar gyfer bob paramedr a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7 (heblaw paramedrau sy’n cael eu samplu’n barod drwy wiriadau) er mwyn—
a
darparu’r wybodaeth y mae ei hangen er mwyn penderfynu a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a
b
gwneud yn siŵr bod unrhyw sgil-gynhyrchion diheintio yn cael eu cadw cyn ised â phosibl heb beryglu’r diheintio, os defnyddir diheintiad yn achos dŵr yfed wedi’i botelu.
Amlder y sampluI486
Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn Nhabl 3.
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir i’w gynnig ar werth mewn poteli neu gynwysyddion bob diwrnod (m3)(1) | Nifer o samplau bob blwyddyn |
---|---|
≤ 10 | 1 |
> 10 ≥ 60 | 1 |
> 60 | 1 am bob 100 m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
(1) Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaledd dros flwyddyn galendr. |
ATODLEN 9Monitro ar gyfer sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu
RHAN 1Cyffredinol
I491
Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, ar gyfer radon, tritiwm a dogn dangosiadol yn unol â’r Rhan hon.
Radon
I502
Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal arolygon cynrychioliadol er mwyn penderfynu ar raddfa a natur cysylltiad tebygol â radon o wahanol fathau o ffynonellau dŵr daear a ffynhonnau mewn gwahanol ardaloedd daearegol.
I513
Rhaid i’r arolygon cynrychioliadol gael eu cynllunio mewn modd sy’n golygu bod modd adnabod paramedrau gwaelodol, gan gynnwys daeareg a hydroleg yr ardal, ymbelydredd y graig neu’r pridd a math y ffynnon a’u defnyddio i gyfeirio camau pellach i ardaloedd lle mae cyswllt uchel yn debygol.
I524
Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ar gyfer radon os oes rheswm i gredu, ar sail canlyniadau’r arolygon cynrychioliadol neu wybodaeth ddibynadwy arall, y gallai gwerth paramedrig y radon fod yn uwch na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.
Tritiwm
I535
Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ar gyfer tritiwm os oes ffynhonnell anthropogenig o dritiwm neu radioniwclid artiffisial arall yn bresennol o fewn y dalgylch ac ni ellir ei ddangos ar sail rhaglenni gwyliadwriaeth nac ymchwiliadau eraill bod lefel y tritiwm yn is na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.
I546
Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn y Tabl yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.
I557
Os yw’r crynodiad o dritiwm yn uwch na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd ymchwilio i bresenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill.
Dogn dangosiadol
I568
Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ar gyfer dogn dangosiadol os oes ffynhonnell o ymbelydredd artiffisial neu ymbelydredd naturiol uchel yn bresennol ac na ellir dangos ar sail rhaglenni monitro cynrychioliadol nac ymchwiliadau eraill bod lefel y dogn dangosiadol yn is na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.
I579
Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn y Tabl yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.
I5810
Caiff yr awdurdod bwyd ddefnyddio amrywiol strategaethau sgrinio dibynadwy er mwyn monitro gwerth dangosydd paramedrig y dogn dangosiadol.
I5911
Os yw’r awdurdod bwyd yn sgrinio am radioniwclid unigol neu radioniwclidau penodol ac—
a
mae un o’r crynodiadau gweithgaredd yn uwch na 20% o’r gwerth deilliadol cyfatebol a bennir yn Nhabl 1 yn Rhan 2 o Atodlen 11; neu
b
pan fo’n briodol, mae crynodiad y tritiwm yn uwch na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd ymchwilio i bresenoldeb radioniwclidau eraill, fel y penderfynir gan yr awdurdod bwyd, gan roi ystyriaeth i bob gwybodaeth berthnasol ynghylch ffynonellau tebygol o ymbelydredd.
I6012
1
Os yw’r awdurdod bwyd yn sgrinio am weithgaredd alffa gros a gweithgaredd beta gros ac—
a
mae’r lefel sgrinio ar gyfer gweithgaredd alffa gros yn uwch na 0.1 Bq/l; neu
b
mae’r lefel sgrinio ar gyfer gweithgaredd beta gros yn uwch na 1.0 Bq/l,
rhaid i’r awdurdod bwyd ymchwilio i bresenoldeb radioniwclidau eraill fel y penderfynir gan yr awdurdod bwyd, gan roi ystyriaeth i bob gwybodaeth berthnasol arall ynghylch ffynonellau tebygol o ymbelydredd.
2
Caiff yr awdurdod bwyd osod lefelau sgrinio amgen ar gyfer gweithgaredd alffa gros a gweithgaredd beta gros os gall ddangos bod y lefelau amgen yn cydymffurfio â dogn dangosiadol o 0.1mSv.
3
Os canfyddir lefelau uwch o dritiwm sy’n dangos presenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill, rhaid mesur tritiwm, gweithgaredd alffa gros a gweithgaredd beta gros yn yr un sampl.
4
Os yw’r gweithgaredd alffa gros a’r gweithgaredd beta gros yn llai na 0.1 Bq/l ac 1.0 Bq/l yn ôl eu trefn, caiff yr awdurdod bwyd dybio bod y dogn dangosiadol yn is na’r gwerth paramedrig o 0.1 mSv ac os digwydd hynny nid oes angen ymchwiliad radiolegol pellach oni bai ei bod yn hysbys o ffynonellau gwybodaeth eraill bod radioniwclidau penodol yn bresennol yn y dŵr sy’n dueddol i achosi dos dangosiadol sy’n uwch na 0.1 mSv.
Esemptiad o’r monitroI6113
Nid yw’n ofynnol i awdurdod bwyd fonitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, na dŵr yfed wedi’i botelu, ar gyfer radon, tritiwm na dogn dangosiadol—
a
os yw’n fodlon ar sail arolygon cynrychioladol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall, y bydd y paramedr dan sylw yn aros islaw’r priod werth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7 am gyfnod o 5 mlynedd o leiaf; a
b
os yw’n hysbysu’r Asiantaeth o’r penderfyniad hwnnw ac yn rhoi copi o’r arolygon cynrychioliadol, y data monitro neu’r wybodaeth ddibynadwy arall y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) i’r Asiantaeth.
Trin dŵr yfed wedi’i boteluI6214
Pan fo dŵr yfed wedi’i botelu wedi ei drin er mwyn gostwng lefel y radioniwclidau, rhaid i’r awdurdod bwyd fonitro ar yr amlderau a ddynodir yn y Tabl yn Rhan 2 er mwyn sicrhau bod y driniaeth honno yn parhau i fod yn effeithiol.
CyfartaledduI6315
Os bydd y gwerth paramedrig mewn sampl o ddŵr yn uwch na’r gwerth a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd gymryd mwy o samplau fel y bo’n briodol, gan roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan yr Asiantaeth, er mwyn sicrhau bod y gwerthoedd a fesurwyd yn cynrychioli crynodiad gweithgaredd cyfartalog blwyddyn gyfan.
I84RHAN 2Amlderau gofynnol samplu a dadansoddi
Atod. 9 Rhn. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir bob dydd o fewn parth cyflenwi (1)(2) m3 | Nifer y samplau y flwyddyn (3) |
---|---|
cyfaint ≤ 100 | 1 |
100 < cyfaint ≤ 100 | 1 |
1,000 < cyfaint ≤ 10,000 | 1 +1 am bob 3,300m3/d a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
10, 000 < cyfaint ≤ 100,000 | 3 +1 am bob 10,000 m3/d a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
cyfaint > 100,000 | 10 +1 am bob 25,000 m3/d a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
(1) Parth cyflenwi yw ardal ddaearyddol ddiffiniedig y daw dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl o un ffynhonnell neu fwy ohoni ac y gellid ystyried bod ansawdd y dŵr oddi mewn iddi yn weddol unffurf. | |
(2) Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaleddau dros flwyddyn galendr. | |
(3) Dylai nifer y samplau gael eu dosbarthu’n gyfartal o ran amser a lleoliad cyn belled ag y bo’n bosibl. |
ATODLEN 10Samplu a dadansoddi paramedrau heblaw sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu
RHAN 1Cyffredinol
Dadansoddi samplauI641
1
Rhaid i’r awdurdod bwyd sicrhau bod bob sampl yn cael ei ddadansoddi’n unol ag Atodiad III i Gyfarwyddeb 98/83 a’r Atodlen hon.
2
Am bob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, pennir y dull dadansoddi yn yr ail golofn o’r tabl hwnnw.
3
Am bob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull dadansoddi yn un sy’n gallu—
a
mesur crynodiadau a gwerthoedd gyda’r cywirdeb a’r trachywiredd a bennir yn ail a thrydedd golofn y tabl hwnnw; a
b
canfod paramedr ar y terfyn canfod a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl hwnnw.
4
Ar gyfer ionau hydrogen, rhaid i’r dull dadansoddi allu mesur gwerth gyda chywirdeb o 0.2pH uned a thrachywiredd o 0.2pH uned.
5
Rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir ar gyfer paramedrau aroglau a blas allu mesur gwerthoedd cyfartal i’r gwerth paramedrig gyda thrachywiredd o 1 rhif gwanhad o 25ºC.
6
At ddibenion y paragraff hwn—
“cywirdeb” (“trueness”) (y gwall systematig) yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth cymedr y nifer fawr o fesuriadau mynych a’r union werth;
“terfyn canfod” (“limit of detection”) yw—
- a
tair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o sampl naturiol sy’n cynnwys crynodiad is o’r paramedr; neu
- b
pum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o sampl gwag;
- a
“trachywiredd” (“precision”) (y gwall ar hap) yw ddwywaith y gwyriad safonol (o fewn swp a rhwng sypiau) o wasgariad y canlyniadau o amgylch y cymedr.
Awdurdodiad ar gyfer dulliau dadansoddi amgenI652
1
Caiff yr Asiantaeth awdurdodi dull sy’n wahanol i’r un a nodir yn Rhan 2 yr Atodlen hon os yw’n fodlon ei fod o leiaf mor ddibynadwy.
2
Caniateir bod cyfyngiad amser ar awdurdodiad a chaniateir ei ddirymu ar unrhyw adeg.
Samplu a dadansoddi gan bersonau heblaw awdurdodau bwydI663
1
Caiff awdurdod bwyd ymrwymo i gytundeb er mwyn i unrhyw berson gymryd a dadansoddi samplau ar ei ran.
2
Ni chaiff awdurdod bwyd ymrwymo i gytundeb o dan is-baragraff (1) oni bai—
a
ei fod yn fodlon y bydd y dasg yn cael ei chynnal yn brydlon gan berson sy’n gymwys i’w pherfformio; a
b
ei fod wedi gwneud trefniadau i sicrhau bod unrhyw achos o dorri’r Rheoliadau hyn yn cael ei gyfathrebu iddo ar unwaith, a bod unrhyw ganlyniad arall yn cael ei gyfathrebu iddo o fewn 28 diwrnod.
I85RHAN 2Dulliau dadansoddi a nodweddion perfformiad
Atod. 10 Rhn. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Paramedr | Dull |
---|---|
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) | Hidlo drwy bilen ac yna deor y bilen yn anerobig ar m-CP agar(1) ar 44 ±1ºC am 21± 3 awr. Cyfrif y cytrefi melyn di-draidd sy’n troi’n binc neu’n goch ar ôl cyswllt ag anweddau amoniwm hydrocsid am 20 i 30 eiliad. |
Bacteria colifform | BS-EN ISO 9308-1 |
Cyfrif cytref 22ºC – cyfrif o’r micro-organebau meithrinadwy | BS-EN ISO 6222 |
Cyfrif cytref 37ºC – cyfrif o’r micro-organebau meithrinadwy | BS-EN ISO 6222 |
Enterococi | BS-EN ISO 7899-2 |
Escherichia coli (E. Coli) | BS-EN ISO 9308-1 |
Pseudomonas aeruginosa | BS-EN ISO 12780 |
Gwnewch gyfrwng gwaelodol sy’n cynnwys— | |
Tryptose | 30.0g |
Rhin Burum | 20.0g |
Swcros | 5.0g |
L-cystein hydroclorid | 1.0g |
MgSO4.7H2O | 0.1g |
Bromocresol porffor | 40.0mg |
Agar | 15.0g |
Dŵr | 1,000.0ml |
Toddwch y cynhwysion o gyfrwng gwaelodol, addasu’r pH i 7.6 ac awtoclafio ar 121ºC am 15 munud. Gadewch i’r cyfrwng oeri. | Toddwch— |
D-cycloserin | 400.0mg |
Polymyxine-B sylffad | 25.0mg |
Indoxl-β-D-glwcosid | 60.0mg |
i 8ml o ddŵr diheintiedig a’i ychwanegu i’r cyfrwng. | |
Hydoddiant ffenolffthalein diffosohad 0.5% wedi ei sterileiddio â hidlen | 20.0ml |
4.5% FeCl3.6H2O wedi ei stereleiddio â hidlen | 2.0ml |
(1) Defnyddiwch y dull canlynol i wneud m-CP agar: |
Nodweddion perfformiad rhagnodedig ar gyfer dulliau dadansoddi
Paramedrau | % Cywirdeb y crynodiad neu’r gwerth neu’r fanyleb a ragnodwyd | % Trachywiredd y crynodiad neu’r gwerth neu’r fanyleb a ragnodwyd | % Terfyn canfod y crynodiad neu’r gwerth neu’r fanyleb a ragnodwyd |
---|---|---|---|
Alwminiwm | 10 | 10 | 10 |
Amoniwm | 10 | 10 | 10 |
Antimoni | 25 | 25 | 25 |
Arsenig | 10 | 10 | 10 |
Bensen | 25 | 25 | 25 |
Benso(a)pyren | 25 | 25 | 25 |
Boron | 10 | 10 | 10 |
Bromad | 25 | 25 | 25 |
Cadmiwm | 10 | 10 | 10 |
Clorid | 10 | 10 | 10 |
Cromiwm | 10 | 10 | 10 |
Dargludedd | 10 | 10 | 10 |
Copr | 10 | 10 | 10 |
Cyanid(1) | 10 | 10 | 10 |
1,2-dicloroethan | 25 | 25 | 10 |
Fflworid | 10 | 10 | 10 |
Haearn | 10 | 10 | 10 |
Plwm | 10 | 10 | 10 |
Manganîs | 10 | 10 | 10 |
Mercwri | 20 | 10 | 20 |
Nicel | 10 | 10 | 10 |
Nitrad | 10 | 10 | 10 |
Nitrid | 10 | 10 | 10 |
Ocsidioldeb(2) | 25 | 25 | 10 |
Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol(3) | 25 | 25 | 25 |
Hydrocarbonau aromatig polysyclig(4) | 25 | 25 | 25 |
Seleniwm | 10 | 10 | 10 |
Sodiwm | 10 | 10 | 10 |
Sylffad | 10 | 10 | 10 |
Tetracloroethen(5) | 25 | 25 | 10 |
Tricloroethen(5) | 25 | 25 | 10 |
Trihalomethanau(4) | 25 | 25 | 10 |
(1) Dylai’r dull dadansoddi benderfynu cyfanswm y cyanid ar bob ffurf. | |||
(2) Dylai ocsideiddio gael ei gynnal am 10 munud ar 100°C o dan amodau asid gan ddefnyddio permanganad. | |||
(3) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol a bydd yn ddibynnol ar y plaleiddiad dan sylw. | |||
(4) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol y pennir ei fod yn 25% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B yn Rhan 2, Atodlen 7. | |||
(5) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylwedd unigol y pennir ei fod yn 50% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B yn Rhan 2, Atodlen 7. |
ATODLEN 11Samplu a dadansoddi ar gyfer dogn dangosiadol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu
RHAN 1Cyffredinol
Dadansoddi samplau
I671
Rhaid i’r awdurdod bwyd sicrhau bod pob sampl yn cael ei ddadansoddi ar gyfer dogn dangosiadol yn unol ag Atodiad III i Gyfarwyddeb 2013/51 a’r Rhan hon.
I682
Ar gyfer bob paramedr a radioniwclid a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, pennir cyfeirnod y crynodiad a’r dogn deilliadol ar gyfer cyfrifo’r dogn dangosiadol yn ail golofn y tabl hwnnw.
I693
Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, rhaid i’r dull dadansoddi fod yn un sy’n gallu canfod y paramedr ar y terfyn canfod a bennir yn ail golofn y tabl hwnnw.
I704
Os bodlonir y fformiwla ganlynol, ystyrir y bydd y dogn dangosiadol yn llai na gwerth paramedrig 0.1 mSv ac nid oes angen mwy o ymchwil—
pan fo
Ci(obs) = crynodiad radioniwclid a arsylwyd i
Ci(der) = crynodiad radioniwclid deilliadol i
n = nifer y radioniwclidau a ganfuwyd
I86RHAN 2Dulliau dadansoddi a nodweddion perfformiad
Atod. 11 Rhn. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Tarddiad | Niwclid | Crynodiad deilliadol |
---|---|---|
Naturiol | U-238(1) | 3.0 Bq/l |
U-234(1) | 2.8 Bq/l | |
Ra-226 | 0.5 Bq/l | |
Ra-228 | 0.2 Bq/l | |
Pb-210 | 0.2 Bq/l | |
Po-210 | 0.1 Bq/l | |
Artiffisial | C-14 | 240 Bq/l |
Sr-90 | 4.9 Bq/l | |
Pu-239/Pu-240 | 0.6 Bq/l | |
Am-241 | 0.7 Bq/l | |
Co-60 | 40 Bq/l | |
Cs-134 | 7.2 Bq/l | |
Cs-137 | 11 Bq/l | |
I-131 | 6.2 Bq/l | |
(1) Mae’r tabl hwn yn caniatáu ar gyfer nodweddion radiolegol wraniwm yn unig, nid ei wenwyndra cemegol. |
Paramedrau a radioniwclidau | |
---|---|
Tritiwm | 10 Bq/l (3) |
Radon | 10 Bq/l (3) |
gweithgaredd alffa gros gweithgaredd beta gros | 0.04 Bq/l (4) 0.4 Bq/l (4) |
U-238 | 0.02 Bq/l |
U-234 | 0.02 Bq/l |
Ra-226 | 0.04 Bq/l |
Ra-228 | 0.02 Bq/l (5) |
Pb-210 | 0.02 Bq/l |
Po-210 | 0.01 Bq/l |
C-14 | 20 Bq/l |
Sr-90 | 0.4 Bq/l |
Pu-239/Pu-240 | 0.04 Bq/l |
Am-241 | 0.06 Bq/l |
Co-60 | 0.5 Bq/l |
Cs-134 | 0.5 Bq/l |
Cs-137 | 0.5 Bq/l |
I-131 | 0.5 Bq/l |
(1) Cyfrifir y terfyn canfod yn unol â safon ISO 11929: Penderfynu ar derfynau’r nodweddion (trothwy penderfynu, terfyn canfod a therfynau’r cyfnod hyder) ar gyfer mesuriadau ymbelydredd ïoneiddio - Sylfeini a chymhwysiad, gyda thebygolrwydd o wallau o’r math 1af a’r 2ail o 0.05 yr un. | |
(2) Cyfrifir ansicrwydd yn y mesuriadau a’u hadrodd fel ansicrwydd safonol cyflawn, neu fel ansicrwydd safonol | |
ehangedig gyda ffactor ehangiad o 1.96, yn ôl Canllaw ISO ar gyfer Mynegiant o Ansicrwydd mewn Mesuriadau. | |
(3) Y terfyn canfod ar gyfer tritiwm a radon yw 10% o’i werth paramedrig o 100 Bq/l. | |
(4) Y terfyn canfod ar gyfer gweithgaredd alffa gros a gweithgaredd beta gros yw 40% o’r gwerthoedd sgrinio o 0.1 ac 1.0 Bq/l yn ôl eu trefn. | |
(5) Mae’r cyfyngiad canfod yn gymwys i sgrinio cychwynnol ar gyfer dogn dangosiadol ar gyfer ffynhonnell ddŵr newydd yn unig. Os yw’r gwirio cychwynnol yn dangos nad yw’n debygol bod Ra-228 yn uwch na 20% o’r crynodiad deilliadol, caniateir cynyddu’r terfyn canfod i 0.08 Bq/l ar gyfer mesuriadau niwclid Ra-228 benodol arferol, hyd nes bod angen ail-wiriad dilynol. |
I87ATODLEN 12Cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf
Atod. 12 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Darpariaethau’r Ddeddf | Addasiadau |
---|---|
Adran 10(1) a (2) (hysbysiadau gwella) |
|
Darpariaethau’r Ddeddf | Addasiadau |
---|---|
Adran 32(1) i (7) (pwerau mynediad) | Yn is-adran (1), yn lle paragraffau (a) i (c) rhodder—
|
Darpariaethau’r Ddeddf | Addasiadau |
---|---|
Adran 224(ystyr estynedig “sale” etc.) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. Yn is-adran (2), yn lle “This Act” rhodder “The Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi’i fwriadu i bobl ei fwyta) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall) | Yn lle “any of the preceding provisions of this part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015,”. |
Adran 21(1) a (5)25 (amddiffyn diwydrwydd dyladwy) | Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015,”. |
Adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes) | Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 29 (caffael samplau) | Ym mharagraff (b)(ii), ar ôl “under section 32 below”, mewnosoder “as applied by regulation 34 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 30(6) a (8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth tystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd) | Yn is-adran (8), yn lle “this Act” rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 35(1)26 a (2) (cosbi troseddau) | Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above” mewnosoder “, as applied and modified by regulation 35 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015,”. Ar ôl is-adran (1), mewnosoder—
Yn is-adran (2), yn y geiriau agoriadol, yn lle “any other offence under this Act” rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 35 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015,”. |
Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 36A27 (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd) | Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 37(1) a (6) (apelau) | Yn lle is-adran (1) rhodder—
Yn is-adran (6)— yn lle “(3) and (4)” rhodder “(1)”; ac ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”. |
Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) | Yn lle is-adran (1) rhodder—
Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”. |
Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll) | Yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
ATODLEN 13Diwygiadau i ddeddfwriaeth arall
Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010
I711
Mae Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 201028 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
I722
Yn rheoliad 3(a), yn lle “Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed Wedi’i Botelu (Cymru) 2007” rhodder “Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed Wedi’i Botelu (Cymru) 2015”.
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013
I733
Mae Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 201329 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
I744
Yn Atodlen 1, hepgorer y cyfeiriad at “Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed Wedi’i Botelu (Cymru) 2007”.
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
I755
Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 201430 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
I766
Yn Atodlen 7, hepgorer paragraffau 49 a 50.
Atod. 1 Rhn. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)