RHAN 2Dŵr mwynol naturiol
Potelu dŵr mwynol naturiolI110
1
Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol—
a
oni bai bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni;
b
mewn cynhwysydd heblaw cynhwysydd sydd â chaeadau a luniwyd i osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddifwyno neu halogi; ac
c
sydd, ar adeg ei botelu, yn cynnwys unrhyw un o’r sylweddau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.
2
Rhaid i’r dulliau a ddefnyddir ar gyfer canfod y sylweddau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 gydymffurfio â’r nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 5.