RHAN 3Dŵr y bwriedir ei werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”
Datblygu ffynhonnau dŵr a photelu dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”I114
1
Ni chaiff neb botelu dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai—
a
bod y dŵr wedi ei echdynnu o ffynnon a’i botelu wrth y ffynhonnell;
b
bod y dŵr wedi ei fwriadu i’w yfed gan bobl yn ei gyflwr naturiol;
c
bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni; a
d
bod y dŵr yn bodloni gofynion Atodlen 7.
2
Pan ganfyddir yn ystod datblygu bod dŵr o ffynnon wedi ei lygru ac y byddai potelu’r dŵr yn mynd yn groes i baragraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu’r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes bod achos y llygredd wedi’i ddileu ac y byddai potelu’r dŵr yn cydymffurfio â’r paragraffau hynny.