Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015

Camau adferolLL+C

26.—(1Os bydd awdurdod bwyd yn penderfynu nad yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd paramedrig a bennir yn Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd—

(a)ymchwilio ar unwaith i’r diffyg cydymffurfio er mwyn canfod yr achos;

(b)asesu a yw’r diffyg cydymffurfio yn peryglu iechyd pobl gan olygu bod angen camau gweithredu;

(c)ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y busnes gymryd camau adferol cyn gynted ag y bo modd er mwyn adfer ansawdd y dŵr pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd pobl;

(d)mewn cysylltiad ag unrhyw baramedr a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7, hysbysu’r cyhoedd o’r camau adferol a gymerir, oni bai bod yr awdurdod bwyd yn ystyried bod y diffyg cydymffurfio â’r gwerth paramedrig yn ddibwys; ac

(e)mewn cysylltiad ag unrhyw baramedr a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, hysbysu’r cyhoedd o’r risgiau a’r camau adferol a gymerir a rhoi cyngor i’r cyhoedd am unrhyw fesurau rhagofal a allai fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd pobl mewn cysylltiad â sylweddau ymbelydrol.

(2Os yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn golygu perygl posibl i iechyd pobl, boed yn bodloni’r gwerthoedd paramedrig perthnasol yn Atodlen 7 ai peidio, rhaid i’r awdurdod bwyd—

(a)atal neu gyfyngu ar gyflenwad y dŵr hwnnw yn ei ardal neu gymryd camau eraill fel y bo’r angen er mwyn diogelu iechyd pobl; a

(b)hysbysu’r cyhoedd yn ddi-oed o’r ffaith a rhoi cyngor pan fo angen.

(3Nid oes rhaid i awdurdod bwyd atal neu gyfyngu ar gyflenwad dŵr o dan baragraff (2)(a) os yw’n ystyried y byddai gwneud hynny yn arwain at risg annerbyniol i iechyd pobl.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 26 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)