RHAN 1Rhagarweiniol

Esemptiadau3

1

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ddŵr—

a

sy’n gynnyrch meddyginiaethol o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2001/83 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar god y Gymuned sy’n ymwneud â chynnyrch meddyginiaethol i’w defnyddio gan bobl17;

b

sy’n ddŵr mwynol naturiol a ddefnyddir yn ei ffynhonnell at ddibenion iachaol mewn sefydliadau thermol neu hydrofwynol;

c

nas bwriadwyd ar gyfer ei werthu i’w yfed gan bobl; neu

d

sy’n ddŵr mwynol naturiol y bwriedir ei allforio i wlad heblaw Gwladwriaeth AEE.

2

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddognau o rew a becynnwyd y bwriedir eu defnyddio i oeri bwyd.