xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ddŵr—
(a)sy’n gynnyrch meddyginiaethol o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2001/83 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar god y Gymuned sy’n ymwneud â chynnyrch meddyginiaethol i’w defnyddio gan bobl(1);
(b)sy’n ddŵr mwynol naturiol a ddefnyddir yn ei ffynhonnell at ddibenion iachaol mewn sefydliadau thermol neu hydrofwynol;
(c)nas bwriadwyd ar gyfer ei werthu i’w yfed gan bobl; neu
(d)sy’n ddŵr mwynol naturiol y bwriedir ei allforio i wlad heblaw Gwladwriaeth AEE.
(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddognau o rew a becynnwyd y bwriedir eu defnyddio i oeri bwyd.
OJ Rhif 311, 28.11.2001 t 67, diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2012/26/EU (OJ Rhif L 299, 27.10.2012, t 1).