xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
34.—(1) Mae darpariaethau adran 32 o’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 o Atodlen 12 yn gymwys at ddibenion galluogi y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, i alluogi swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd—
(a)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes un o ddarpariaethau Rheoliad 115/2010 a grybwyllir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw yn cael neu wedi cael ei dorri;
(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaethau o’r fath wedi eu torri; ac
(c)wrth arfer pŵer mynediad o dan y darpariaethau yn adran 32 a gymhwysir, i arfer y pwerau cysylltiedig yn is-adrannau (5) a (6) mewn perthynas â chofnodion.
(2) Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith cymhwyso adran 32 o’r Ddeddf at ddibenion ar wahân i’r rhai a bennir ym mharagraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 34 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)