RHAN 2Dŵr mwynol naturiol
Cydnabyddiaeth fel dŵr mwynol naturiolI14
1
Dim ond os caiff ei gydnabod yn unol â pharagraff (2) y caniateir gwerthu dŵr mwynol naturiol fel dŵr mwynol naturiol.
2
Cydnabyddir bod dŵr yn ddŵr mwynol naturiol—
a
yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear yng Nghymru, pan roddir cydnabyddiaeth gan awdurdod bwyd yn unol â Rhan 1 o Atodlen 1;
b
yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig, pan gydnabyddir ef yn unol â Chyfarwyddeb 2009/54 gan awdurdod cyfrifol y rhan honno o’r Deyrnas Unedig;
c
yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn Gwladwriaeth AEE heblaw’r Deyrnas Unedig, pan gydnabyddir ef yn unol â Chyfarwyddeb 2009/54 gan awdurdod cyfrifol o’r Wladwriaeth AEE honno;
d
yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE—
i
pan gydnabyddir ef gan yr Asiantaeth, yn unol â Rhan 2 o Atodlen 1; neu
ii
pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol a roddir gan awdurdod cyfrifol—
aa
rhan arall o’r Deyrnas Unedig; neu
bb
Gwladwriaeth AEE heblaw’r Deyrnas Unedig.
3
Mae cyhoeddiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd o enw unrhyw ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir yn yr Undeb Ewropeaidd at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54 yn dystiolaeth derfynol bod dŵr yn cael ei gydnabod at ddibenion y Gyfarwyddeb honno, ac eithrio pan roddir y gydnabyddiaeth yn unol ag Atodlen 1.