5.—(1) Pan ganfyddir, o ran unrhyw ddŵr a gydnabuwyd o dan reoliad 4(2)(a) neu 4(2)(d)(i)—
(a)drwy ddadansoddiad yn unol â Rhan 3 o Atodlen 1, na fodlonir gofynion paragraff 10(a) o’r Rhan honno;
(b)na fodlonir gofynion Atodlen 4; neu
(c)nad yw cynnwys y dŵr yn unol â pharagraff 1(c) o Ran 1 neu, yn ôl y digwydd, paragraff 5(c) o Ran 2 o Atodlen 1,
caniateir i’r awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, yr Asiantaeth, dynnu’r gydnabyddiaeth honno yn ôl hyd nes y bodlonir y gofynion o dan sylw.
(2) Pan fydd yr awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, yr Asiantaeth yn gwrthod rhoi cydnabyddiaeth i ddŵr neu’n tynnu cydnabyddiaeth yn ôl, caniateir i’r person sy’n datblygu neu’n dymuno datblygu’r ffynnon y mae’r dŵr hwnnw yn dod ohoni, neu, os yn wahanol, y person sy’n berchen y tir y mae’r ffynnon honno ynddo, apelio yn erbyn y penderfyniad i berson a benodwyd at y diben hwnnw gan yr Asiantaeth o fewn 6 mis i gael ei hysbysu o’r penderfyniad.
(3) Rhaid i’r person a benodwyd ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a wneir gan yr awdurdod bwyd neu’r Asiantaeth, fel y bo’n briodol, ac adrodd yn ysgrifenedig i’r Asiantaeth o fewn 3 mis gan argymell camau gweithredu.
(4) Rhaid i’r Asiantaeth un ai—
(a)cadarnhau’r penderfyniad, ynghyd â’r rhesymau; neu
(b)cyfarwyddo’r awdurdod bwyd i roi neu adfer cydnabyddiaeth i’r dŵr dan sylw, neu ei adfer ei hun, fel y bo’n briodol.
(5) Pan gyfarwyddir awdurdod bwyd gan yr Asiantaeth i roi neu adfer cydnabyddiaeth o dan baragraff (4)(b), rhaid iddo gydymffurfio â’r cyfarwyddyd hwnnw ar unwaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)