RHAN 2Dŵr mwynol naturiol

Hysbysiad o newidiadauI17

Rhaid i awdurdod bwyd hysbysu’r Asiantaeth ar unwaith—

a

os bydd yn rhoi neu’n adfer cydnabyddiaeth o ddŵr mwynol naturiol neu’n tynnu cydnabyddiaeth yn ôl; neu

b

os caiff ei hysbysu o unrhyw newid i ddisgrifiad masnachol o ddŵr mwynol naturiol neu i enw ffynnon yr echdynnwyd dŵr mwynol naturiol ohoni.