RHAN 2Dŵr mwynol naturiol

Datblygu ffynhonnau dŵr mwynol naturiolI18

1

Ni chaiff neb ddatblygu unrhyw ffynnon at ddibenion marchnata’r dŵr ohoni fel dŵr mwynol naturiol oni bai—

a

bod y dŵr a echdynnwyd o’r ffynnon honno’n ddŵr mwynol naturiol;

b

bod awdurdod bwyd yr ardal lle mae’r ffynnon wedi ei lleoli wedi rhoi caniatâd i’r ffynnon honno gael ei datblygu; ac

c

bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni.

2

Pan ganfyddir yn ystod y datblygu bod dŵr mwynol naturiol wedi ei lygru ac y byddai potelu’r dŵr yn mynd yn groes i baragraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu’r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes bod achos y llygredd wedi’i ddileu ac y byddai potelu’r dŵr yn cydymffurfio â’r paragraffau hynny.