2015 Rhif 1878 (Cy. 275)
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2015.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973.
Symiau diwygiedig y taliad colli cartref2
Pan fo’r dyddiad dadleoli ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ei ôl—
a
£53,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf;
b
£5,300 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf; ac
c
£5,300 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.
Dirymu ac arbedion3
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 20083 wedi eu dirymu.
2
Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)