2015 Rhif 1904 (Cy. 276) (C. 117)
Tai, Cymru
Diogelu Defnyddwyr, Cymru
Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2015
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 100(3)(b) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 20151, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2015.
2
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 23 Tachwedd 2015
2
Mae Pennod 3 o Ran 3 (amrywiol a chyffredinol) o’r Ddeddf yn dod i rym ar 23 Tachwedd 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
3
Mae Atodlen 9 i’r Ddeddf yn dod i rym ar 23 Tachwedd 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Dirymu4
Mae Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 20152 wedi ei ddirymu.
Lesley GriffithsY Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)