Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Trefniadau ar gyfer datrys anghydfodau at ddibenion adran 47(8) o Ddeddf 2014
4.—(1) Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â datrys anghydfodau rhwng yr awdurdod a chorff iechyd ynghylch pa un a yw’n ofynnol darparu gwasanaeth neu gyfleuster o dan ddeddfiad iechyd ai peidio.
(2) Rhaid i drefniadau o’r fath gynnwys trefniadau mewn cysylltiad â datrys anghydfodau ynghylch—
(a)penderfyniadau o ran cymhwystra person am Ofal Iechyd Parhaus y GIG;
(b)cyfraniad corff iechyd neu awdurdod lleol at becyn gofal ar y cyd i berson nad yw’n gymwys am Ofal Iechyd Parhaus y GIG.
(3) Rhaid i’r trefniadau gynnwys—
(a)gweithdrefn ar gyfer datrys anghydfodau o’r fath y cytunwyd arni â’r corff iechyd;
(b)darpariaeth ar gyfer diwallu anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef wrth aros i’r anghydfod gael ei ddatrys;
(c)gofyniad nad yw unrhyw anghydfod yn atal diwallu, yn achosi oedi cyn diwallu, yn ymyrryd â diwallu neu fel arall yn effeithio’n andwyol ar ddiwallu, anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef.
Back to top