Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1932 (Cy. 290)

Tai, Cymru

Gorchymyn Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi’u trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (Dyddiad Penodedig) 2015

Gwnaed

18 Tachwedd 2015

Enw

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi’u trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (Dyddiad Penodedig) 2015.

Dyddiad Penodedig

2.  Y dyddiad penodedig ar gyfer dwyn i rym God Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi’u trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (y cymeradwywyd drafft ohono drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Tachwedd 2015) yw 23 Tachwedd 2015.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

18 Tachwedd 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adran 40(1) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ymarfer yn pennu safonau sy’n ymwneud â gosod a rheoli eiddo ar rent. Unwaith y mae wedi ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) o dan adran 40(6) o Ddeddf 2014, mae’r cod yn dod i rym ar ddyddiad a bennir drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.

Mae Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi’u trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Cod”) wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad ar 3 Tachwedd. Mae’r Gorchymyn hwn yn penodi 23 Tachwedd 2015 fel y dyddiad y daw’r Cod a ddyroddir i rym.

Mae’r Cod yn cynnwys gofynion ac argymhellion mewn perthynas â safonau ar gyfer gosod a rheoli eiddo ar rent. Mae’r Cod yn cynnwys gofynion sy’n rhwymedigaethau statudol presennol. Rhaid i landlordiaid ac asiantau sy’n drwyddedig gydymffurfio â’r gofynion hyn, fel arall mae perygl y caiff eu trwyddedau eu dirymu. Mae’r Cod hefyd yn cynnwys argymhellion ynghylch arferion gorau ond ni fydd peidio â chydymffurfio â’r argymhellion hyn yn arwain at drwyddedau yn cael eu dirymu. Mae’r Awdurdod Trwyddedu (fel y’i dynodir o dan adran 3 o’r Ddeddf) yn gyfrifol am bob penderfyniad mewn perthynas â chofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantau gan gynnwys dirymu trwyddedau.

Mae adran 2 o’r Cod yn nodi’r gofynion y mae’n rhaid i landlordiaid neu asiantau gydymffurfio â hwy cyn i eiddo gael ei osod. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion mewn perthynas â phenodi asiant, ac wrth farchnata neu hysbysebu eiddo.

Mae adran 3 o’r Cod yn ymwneud â’r gofynion wrth sefydlu tenantiaeth, gan gynnwys tystlythyrau a gwiriadau i’w gwneud, dogfennaeth atodol i’w darparu a gofynion ynghylch cytundebau tenantiaeth a blaendaliadau.

Mae adran 4 o’r Cod hefyd yn esbonio’r hyn sy’n ofynnol ar ddechrau’r denantiaeth ac wedyn dros gyfnod y denantiaeth. Mae hyn yn cynnwys gofynion mewn perthynas â chyflwr yr eiddo, casglu rhent a darparu manylion cyswllt.

Mae adran 5 o’r Cod yn ymwneud â therfynu tenantiaeth, pa un ai gan y tenantiaid, y landlordiaid neu’r asiantau.

Gellir cael copi electronig o’r Cod oddi ar wefan Llywodraeth Cymru, a gellir cael copi caled oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.