2015 Rhif 1937 (Cy. 291)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)2 mewn perthynas ag atal ac adfer difrod amgylcheddol ac maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y’i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno3.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”)4. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. At ddibenion Rheoliadau 2009 fel y maent yn cael effaith fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i offerynnau’r UE y cyfeirir atynt yn Rheoliadau 2009 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2015.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Rhagfyr 2015.

Diwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

2

Mae Rheoliadau Difrod (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.

3

Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

a

yn y diffiniad o “cynefin naturiol” (“natural habitat”) yn lle paragraff (a) rhodder—

a

cynefinoedd rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC ar warchod adar gwyllt5, neu yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno, neu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt6;

b

ar gyfer y diffiniad o “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) rhodder—

  • ystyr “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) yw rhywogaethau o fath a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC neu a restrir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;

4

Yn Atodlen 1 (Difrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig), yn lle paragraff 5 rhodder—

Awdurdodiad pendant5

Nid yw difrod i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol, a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, yn cynnwys difrod a achoswyd gan weithred a awdurdodwyd yn bendant gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 19817 neu Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 20108.

5

Yn Atodlen 2 (Gweithgareddau sy’n achosi difrod)—

a

yn lle paragraff 2 (Gweithredu gweithfeydd a ganiateir) rhodder—

Gweithredu gweithfeydd a ganiateir2

Gweithredu gweithfeydd sy’n ddarostyngedig i drwydded yn unol â Chyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch allyriadau diwydiannol (dulliau integredig o atal a rheoli llygredd)9.

b

ym mharagraff 3(2) (Gweithrediadau rheoli gwastraff) yn lle’r geiriau “Gyfarwyddeb 2000/76/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylosgi gwastraff” rhodder “Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (dulliau integredig o atal a rheoli llygredd).”;

c

ym mharagraff 5(2) (Gollyngiadau y mae’n ofynnol cael awdurdodiad ar eu cyfer) ar ôl y gair “penodol” mewnosoder “neu Gyfarwyddeb 2006/118/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a dirywiad10”;

d

(ch) ym mharagraff 7(ch) (Sylweddau peryglus, cynhyrchion diogelu planhigion a chynhyrchion bywleiddiol) ar ôl y gair “farchnad”, mewnosoder “neu fel y’u diffinir yn Erthygl 3(1)(a) o Reoliad Rhif 528/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion bywleiddiol ar gael ar y farchnad a’r defnydd ohonynt11”.

e

yn lle paragraff 8 rhodder—

Cludiant8

Cludo ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffyrdd mewndirol, ar y môr neu drwy’r awyr nwyddau peryglus; neu nwyddau llygru fel y’u diffinnir yn—

a

Cyfarwyddeb 2002/59/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sefydlu system fonitro traffig a gwybodaeth llestrau Cymunedol12; a

b

Cyfarwyddeb 2008/68/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gludo nwyddau peryglus ar y tir13

f

Yn Atodlen 2 ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

11Gweithredu safleoedd storio carbon deuocsid

Gweithredu safleoedd storio carbon deuocsid yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar storio daearegol o garbon deuocsid14.

Carl SargeantY Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”) sy’n parhau i weithredu Cyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol o ran atal ac adfer difrod amgylcheddol.

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniadau “cynefin naturiol (“natural habitat”) a “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) i adlewyrchu’r ffaith bod Cyfarwyddeb 2009/147/EC yn cydgrynhoi ac yn disodli Cyfarwyddeb 79/407/EEC.

Mae rheoliad 4 yn diwygio paragraff 5 o Atodlen 1 i Reoliadau 2009 i ddiweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y gellir awdurdodi gwneud difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol, a difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, o dani.

Mae rheoliad 5 yn diweddaru’r rhestr o ddeddfwriaeth yr UE yn Atodlen 2 i Reoliadau 2009, sy’n cyfeirio at y gweithgareddau a fydd yn denu atebolrwydd caeth. Nid effeithir ar natur y gweithgareddau yn y rhestr.

Mae cyfeiriadau at holl ddeddfwriaeth yr UE, ac eithrio Cyfarwyddeb 2004/35/EC yn gyfeiriadau at ddeddfwriaeth fel y’i diwygir o dro i dro.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.