Diwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009
3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “cynefin naturiol” (“natural habitat”) yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)cynefinoedd rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC ar warchod adar gwyllt(1), neu yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno, neu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(2);”;
(b)ar gyfer y diffiniad o “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) rhodder—
“ystyr “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) yw rhywogaethau o fath a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC neu a restrir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;”
OJ Rhif L 20, 26.01.2010, t.7; diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU (OJ Rhif L 158, 10.06.2013, t.193).
OJ Rhif L 206, 22.07.1992, t.7; diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU (OJ Rhif L 158, 10.06.2013, t.193).