2015 Rhif 1988 (Cy. 298)

Gofal Cymdeithasol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 104(4)(c) o Ddeddf Plant 19891 a pharagraff 4(1) o Atodlen 4, paragraff 7 o Atodlen 5 a pharagraff 10 o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, adran 22(8)(b) ac adran 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 20002 ac adrannau 87, 119(2) a (7) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20143 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.