NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion mewn perthynas â lleoli plant mewn llety diogel.

Mae rheoliad 2 yn nodi’r cyfnod hwyaf y caniateir i awdurdod lleol gadw plentyn mewn llety diogel heb awdurdodiad gan lys. Mae rheoliad 3 yn gosod gofynion gweithdrefnol ar yr awdurdod lleol mewn perthynas â threfniadau o’r fath.

Mae rheoliad 4 yn gosod cyfyngiadau ar bwy gaiff wneud cais i lys am awdurdodiad i gadw plentyn mewn llety diogel. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn hysbysu pobl benodol wrth wneud cais o’r fath, ac mae rheoliadau 6 a 7 yn nodi’r cyfnodau hwyaf y caiff llys eu hawdurdodi.

Mae rheoliad 8 yn atal awdurdod lleol rhag lleoli plentyn mewn llety diogel yn unman ac eithrio mewn cartref plant sydd wedi ei gofrestru at y diben hwnnw. Mae rheoliadau 9, 10 ac 11 yn ymdrin â’r gofynion i hysbysu ynghylch lleoliad o’r fath a’r gofynion ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i adolygu lleoliadau diogel. Rhaid i’r personau sy’n adolygu lleoliad wneud argymhelliad i’r awdurdod lleol ynghylch pa un a ddylai’r lleoliad barhau ai peidio. Mae rheoliad 12 yn nodi’r cofnodion y mae’n rhaid eu cynnal mewn perthynas â lleoliadau diogel.

Mae rheoliadau 13 i 16 yn ymdrin â’r modd y cymhwysir adran 119 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) i grwpiau penodol o blant. Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru cyn lleoli plentyn sydd o dan 13 oed mewn llety diogel. Mae rheoliad 14 yn nodi categorïau penodol o blant nad yw adran 119 o’r Ddeddf yn gymwys iddynt a rheoliad 15 yn nodi rhai plant yr addesir ar eu cyfer y prawf a nodir yn adran 119. Mae rheoliad 16 yn darparu ar gyfer ceisiadau am gadw plentyn mewn llety diogel gan bersonau ac eithrio awdurdodau lleol sy’n gofalu am blant, ac ar gyfer addasu darpariaethau adran 119 i ffitio’r amgylchiadau hynny.

Mae rheoliadau 17, 18 ac 19 yn ymdrin â diwygiadau canlyniadol ac achlysurol i reoliadau sy’n gymwys o ran Cymru cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.