Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru oni ddynodir i’r gwrthwyneb;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “llety diogel” (“secure accommodation”) yw llety yng Nghymru a ddarperir at y diben o gyfyngu ar ryddid plant y mae adran 119 o’r Ddeddf yn gymwys iddynt;
ystyr “ymwelydd annibynnol” (“independent visitor”) yw person a benodir gan awdurdod lleol o dan adran 98 o’r Ddeddf.
(5) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at gofrestru cartref plant, neu at berson a gofrestrir mewn perthynas â chartref plant, yn gyfeiriad at gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.