Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Aelodaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol

11.—(1Rhaid i aelodaeth bwrdd partneriaeth rhanbarthol gynnwys y canlynol—

(a)o leiaf un aelod etholedig o awdurdod lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(b)o leiaf un aelod o Fwrdd Iechyd Lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(c)y person a benodwyd yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol o dan adran 144 o’r Ddeddf mewn cysylltiad â phob awdurdod lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, neu ei gynrychiolydd enwebedig;

(d)cynrychiolydd i’r Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(e)dau berson sy’n cynrychioli buddiannau sefydliadau’r trydydd sector yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(f)o leiaf un person sy’n cynrychioli buddiannau darparwyr gofal yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(g)un person i gynrychioli pobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;.

(h)un person i gynrychioli gofalwyr(1) yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

(2Caiff bwrdd partneriaeth rhanbarthol gyfethol unrhyw bersonau eraill y mae’n meddwl eu bod yn briodol i fod yn aelodau o’r bwrdd.

(3Caiff y cyrff partneriaeth dalu taliadau cydnabyddiaeth ariannol a lwfansau i aelodau byrddau partneriaeth rhanbarthol.

(4At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “darparwr gofal” (“care provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth (o fewn ystyr y Ddeddf honno);

mae i “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yr un ystyr ag yn adran 16(2) o’r Ddeddf.

(1)

Diffinnir “gofalwr” yn adran 3(4) o’r Ddeddf.