16.—(1) Rhaid i’r cyrff partneriaeth ar gyfer pob un o’r trefniadau partneriaeth sefydlu tîm at ddiben arfer swyddogaethau cymorth i deuluoedd.
(2) Enw tîm a sefydlir o dan y rheoliad hwn fydd tîm integredig cymorth i deuluoedd.
(3) Caiff y cyrff partneriaeth neilltuo swyddogaethau cymorth i deuluoedd i’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.
(4) Rhaid i dîm integredig cymorth i deuluoedd gynnwys staff sydd â’r sgiliau a’r profiad addas gan roi sylw—
(a)i’r categorïau o achosion y gellir eu hatgyfeirio ato, a
(b)i’r angen am gymorth gweinyddol ar staff proffesiynol.