3.—(1) Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Sir Gwynedd
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
(2) Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru.
(3) Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru.