Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin

5.—(1Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

  • Cyngor Dinas a Sir Abertawe

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

(2Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin.

(3Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin.