xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
13.—(1) Cyflawnir trosedd y gellir ei chosbi, yn dilyn collfarn ddiannod, â dirwy na fydd yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol, os methir â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 7.
(2) Cyflawnir trosedd y gellir ei chosbi, yn dilyn collfarn ddiannod, â dirwy na fydd yn fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol, os—
(a)methir â chydymffurfio â rheoliad 8(2);
(b)methir â chydymffurfio â rheoliad 9(1);
(c)methir â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 9(2);
(d)methir ag adrodd am adwaith anffafriol neu fethiant microsglodyn, yn unol â rheoliad 10(1);
(e)methir â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 12(a);
(f)rhwystrir person awdurdodedig rhag arfer pŵer o dan reoliad 12(b) neu 12(c).