5.—(1) Y manylion sydd i’w cofnodi mewn cronfa ddata yw’r canlynol—
(a)enw a chyfeiriad llawn y ceidwad;
(b)os yw’n gymwys, y ffaith mai’r ceidwad yw’r bridiwr yn ogystal;
(c)os y ceidwad yw’r bridiwr ac yntau wedi ei drwyddedu gan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 (1)—
(i)rhif trwydded y bridiwr; a
(ii)enw’r awdurdod lleol y’i trwyddedwyd ganddo;
(d)yr enw neu’r rhif adnabod gwreiddiol a roddwyd i’r ci;
(e)y rhif teleffon cyswllt (os oes un) ar gyfer y ceidwad;
(f)y cyfeiriad e-bost (os oes un) ar gyfer y ceidwad;
(g)yr enw a roddwyd i’r ci gan y ceidwad, os yw’n wahanol i’r manylion a gofnodwyd yn unol ag is-baragraff (d);
(h)rhyw y ci;
(i)brid y ci, neu ddisgrifiad ohono os yw’n gi croesfrid;
(j)lliw y ci;
(k)unrhyw nodweddion neilltuol i’r ci;
(l)yr amcangyfrif gorau posibl y gall y ceidwad ei roi o ddyddiad geni’r ci; ac
(m)rhif unigryw’r microsglodyn a fewnblannwyd yn y ci.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “bridiwr” (“breeder”) yw ceidwad unrhyw ast sy’n rhoi genedigaeth, pa un a yw’n cynnal busnes fel bridiwr cŵn ai peidio.