- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) O’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym ymlaen, rhaid i weithredwr cronfa ddata—
(a)meddu digon o gynhwysedd cronfa ddata i storio yn electronig, ac adalw, yr holl fanylion a ddarperir iddo gan geidwaid yn unol â rheoliad 3;
(b)cadw copïau wrth gefn o’r holl ddata hyn yn ddyddiol, mewn cyfleuster diogel oddi ar y safle;
(c)darparu unrhyw wybodaeth yn rheoliad 5, y gofynnir amdani gan berson awdurdodedig;
(d)darparu unrhyw wybodaeth yn rheoliad 5 y gofynnir amdani gan geidwad ci, mewn perthynas â’r ci hwnnw;
(e)cynnal system ar gyfer adnabod pobl a awdurdodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn, sy’n gwneud ymholiadau ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion yn ei gronfa ddata;
(f)cynnal system ar gyfer adnabod ceidwaid cŵn, sy’n gwneud ymholiadau ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion yn ei gronfa ddata;
(g)cadw cofnodion i ddangos bod gweithredwr y gronfa ddata yn cydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn;
(h)cynnal system ar gyfer ateb ceisiadau teleffon a cheisiadau ar-lein am fanylion a gedwir yn ei gronfa ddata, drwy gydol yr amser;
(i)cynnal system ar gyfer ailgyfeirio ymholiadau teleffon ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion mewn cronfeydd data eraill sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)(a), at weithredwyr y cronfeydd data hynny; a
(j)gallu ailgyfeirio yn awtomatig unrhyw gais ar-lein, ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion mewn cronfeydd data eraill sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)(a), i’r cronfeydd data hynny.
(2) Rhaid i weithredwr cronfa ddata—
(a)rhoi ar gael i weithredwyr cronfa ddata perthnasol eraill sy’n gweithredu yn unol â’r rheoliad hwn yr wybodaeth sydd ei hangen i ganiatáu i’r gweithredwyr cronfeydd data eraill hynny benderfynu pa rifau microsglodyn sy’n ymwneud â chŵn y cofnodir eu manylion yn y gronfa ddata honno; a
(b)meddu system ar gyfer ateb ymholwyr yn uniongyrchol ynglŷn ag unrhyw ymholiad a dderbynnir yn unol â pharagraff (1)(i) neu (1)(j).
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gweithredwr cronfa ddata perthnasol” (“relevant database operator”) yw gweithredwr cronfa ddata—
(a)sy’n honni ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliad hwn; a
(b)nad yw Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad iddo o dan reoliad 7(2)(a).
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “cais ar-lein” (“on-line request”) yw cais a gyflwynir i weithredwr cronfa ddata yn y modd y darperir ar ei gyfer gan wefan y gweithredwr cronfa ddata.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: