2015 Rhif 1990 (Cy. 300)
Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol mewn perthynas â Chymru1, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 20062.
Yn unol ag adran 12(6) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy.
Yn unol ag adran 61(2) o’r Ddeddf honno3, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad.
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015
2
Maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar yr ail ddiwrnod ar hugain ar ôl y diwrnod y’u gwneir.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw—
- a
mewn perthynas â chi cymorth (o fewn yr ystyr a roddir i “assistance dog” gan adran 173(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 20104)—
- i
hyd nes bo’r ci yn peidio â gweithio fel ci cymorth, y corff sy’n gyfrifol am ei hyfforddi a’i ddyrannu;
- ii
wedi i’r ci beidio â gweithio fel ci cymorth, y person y mae’r ci yn preswylio gydag ef fel arfer;
- i
- b
mewn perthynas â chi bach newydd-anedig, perchennog yr ast a roddodd enedigaeth iddo; ac
- c
mewn perthynas ag unrhyw gi arall, y person y mae’r ci yn preswylio gydag ef fel arfer;
- a
ystyr “microsglodynnwyd” (“microchipped”) yw microsglodynnwyd yn unol â rheoliad 3;
mae i “person awdurdodedig” (“authorised person”) yr ystyr a roddir gan reoliad 11.
Rhwymedigaeth i ficrosglodynnu cŵn3
1
Yn ddarostyngedig i dystysgrif a ddyroddir o dan baragraff (2) neu (3), o 6 Ebrill 2016 ymlaen, rhaid i geidwad pob ci nad oes microsglodyn wedi ei fewnblannu ynddo erbyn y dyddiad hwnnw ac—
a
sy’n hŷn nag 8 wythnos; a
b
nad yw’n gi gwaith ardystiedig yn yr ystyr o “certified working dog” at ddibenion adran 6(3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 20065,
sicrhau y caiff ei ficrosglodynnu.
2
Nid yw paragraff (1) yn gymwys am gyhyd ag y bo milfeddyg yn ardystio, ar ffurflen a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, y byddai microsglodynnu yn peryglu iechyd y ci yn sylweddol.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), o 6 Ebrill 2016 ymlaen, rhaid i geidwad sy’n mewnforio ci sicrhau y caiff y ci ei ficrosglodynnu o fewn 30 diwrnod ar ôl mewnforio’r ci oni fydd milfeddyg yn ardystio, ar ffurflen a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, y byddai microsglodynnu yn peryglu iechyd y ci yn sylweddol.
4
Rhaid i dystysgrif a ddyroddir o dan baragraff (2) neu (3) ddatgan am ba gyfnod na fydd y ci yn ffit i’w ficrosglodynnu.
5
Mae ci wedi ei ficrosglodynnu pan fo—
a
microsglodyn sy’n cydymffurfio â rheoliad 4 wedi ei fewnblannu yn y ci; a
b
y manylion a bennir yn rheoliad 5 wedi eu cofnodi mewn cronfa ddata gan weithredwr cronfa ddata sy’n bodloni’r amodau a bennir yn rheoliad 6.
Ffurf y microsglodyn4
O’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym ymlaen rhaid i unrhyw ficrosglodyn a fewnblennir mewn ci fodloni’r gofynion canlynol—
a
rhaid iddo gael rhif unigryw sy’n cynnwys cod y gwneuthurwr;
b
rhaid iddo gydymffurfio â safon ISO 11784:1996 o safonau’r Sefydliad Safonau Rhyngwladol ar gyfer microsglodion6;
c
rhaid iddo gydymffurfio â safon ISO 11785:1996 o safonau’r Sefydliad Safonau Rhyngwladol ar gyfer microsglodion ac eithrio Atodiad A; a
d
rhaid iddo ymateb i drosdderbynnydd sy’n gweithredu ar 134.2 cilohertz ac yn cydymffurfio â’r protocol FDXB a bennir yn y safonau ISO 11784:1996 ac 11785:1996.
Manylion sydd i’w cofnodi mewn cronfeydd data5
1
Y manylion sydd i’w cofnodi mewn cronfa ddata yw’r canlynol—
a
enw a chyfeiriad llawn y ceidwad;
b
os yw’n gymwys, y ffaith mai’r ceidwad yw’r bridiwr yn ogystal;
c
os y ceidwad yw’r bridiwr ac yntau wedi ei drwyddedu gan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 7—
i
rhif trwydded y bridiwr; a
ii
enw’r awdurdod lleol y’i trwyddedwyd ganddo;
d
yr enw neu’r rhif adnabod gwreiddiol a roddwyd i’r ci;
e
y rhif teleffon cyswllt (os oes un) ar gyfer y ceidwad;
f
y cyfeiriad e-bost (os oes un) ar gyfer y ceidwad;
g
yr enw a roddwyd i’r ci gan y ceidwad, os yw’n wahanol i’r manylion a gofnodwyd yn unol ag is-baragraff (d);
h
rhyw y ci;
i
brid y ci, neu ddisgrifiad ohono os yw’n gi croesfrid;
j
lliw y ci;
k
unrhyw nodweddion neilltuol i’r ci;
l
yr amcangyfrif gorau posibl y gall y ceidwad ei roi o ddyddiad geni’r ci; ac
m
rhif unigryw’r microsglodyn a fewnblannwyd yn y ci.
2
Yn y rheoliad hwn, ystyr “bridiwr” (“breeder”) yw ceidwad unrhyw ast sy’n rhoi genedigaeth, pa un a yw’n cynnal busnes fel bridiwr cŵn ai peidio.
Yr amodau sydd i’w bodloni gan weithredwr cronfa ddata6
1
O’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym ymlaen, rhaid i weithredwr cronfa ddata—
a
meddu digon o gynhwysedd cronfa ddata i storio yn electronig, ac adalw, yr holl fanylion a ddarperir iddo gan geidwaid yn unol â rheoliad 3;
b
cadw copïau wrth gefn o’r holl ddata hyn yn ddyddiol, mewn cyfleuster diogel oddi ar y safle;
c
darparu unrhyw wybodaeth yn rheoliad 5, y gofynnir amdani gan berson awdurdodedig;
d
darparu unrhyw wybodaeth yn rheoliad 5 y gofynnir amdani gan geidwad ci, mewn perthynas â’r ci hwnnw;
e
cynnal system ar gyfer adnabod pobl a awdurdodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn, sy’n gwneud ymholiadau ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion yn ei gronfa ddata;
f
cynnal system ar gyfer adnabod ceidwaid cŵn, sy’n gwneud ymholiadau ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion yn ei gronfa ddata;
g
cadw cofnodion i ddangos bod gweithredwr y gronfa ddata yn cydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn;
h
cynnal system ar gyfer ateb ceisiadau teleffon a cheisiadau ar-lein am fanylion a gedwir yn ei gronfa ddata, drwy gydol yr amser;
i
cynnal system ar gyfer ailgyfeirio ymholiadau teleffon ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion mewn cronfeydd data eraill sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)(a), at weithredwyr y cronfeydd data hynny; a
j
gallu ailgyfeirio yn awtomatig unrhyw gais ar-lein, ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion mewn cronfeydd data eraill sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)(a), i’r cronfeydd data hynny.
2
Rhaid i weithredwr cronfa ddata—
a
rhoi ar gael i weithredwyr cronfa ddata perthnasol eraill sy’n gweithredu yn unol â’r rheoliad hwn yr wybodaeth sydd ei hangen i ganiatáu i’r gweithredwyr cronfeydd data eraill hynny benderfynu pa rifau microsglodyn sy’n ymwneud â chŵn y cofnodir eu manylion yn y gronfa ddata honno; a
b
meddu system ar gyfer ateb ymholwyr yn uniongyrchol ynglŷn ag unrhyw ymholiad a dderbynnir yn unol â pharagraff (1)(i) neu (1)(j).
3
Yn y rheoliad hwn, ystyr “gweithredwr cronfa ddata perthnasol” (“relevant database operator”) yw gweithredwr cronfa ddata—
a
sy’n honni ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliad hwn; a
b
nad yw Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad iddo o dan reoliad 7(2)(a).
4
Yn y rheoliad hwn ystyr “cais ar-lein” (“on-line request”) yw cais a gyflwynir i weithredwr cronfa ddata yn y modd y darperir ar ei gyfer gan wefan y gweithredwr cronfa ddata.
Pwerau Gweinidogion Cymru7
1
O 6 Ebrill 2016 ymlaen, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i weithredwr cronfa ddata, sy’n gwneud yn ofynnol ei fod yn darparu iddynt—
a
unrhyw wybodaeth a gofnodwyd yn y gronfa ddata;
b
unrhyw wybodaeth ynglŷn â gweithrediad y drefn reoleiddio a sefydlir gan y Rheoliadau hyn;
c
unrhyw wybodaeth sy’n angenrheidiol i ddangos bod y gweithredwr cronfa ddata yn bodloni’r amodau yn rheoliad 6.
2
Os bodlonir Gweinidogion Cymru nad yw gweithredwr cronfa ddata yn bodloni’r amodau yn rheoliad 6, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad sy’n gwneud yn ofynnol fod y gweithredwr—
a
yn peidio â honni ei fod yn bodloni’r amodau yn rheoliad 6;
b
yn darparu, i Weinidogion Cymru neu i weithredwr cronfa ddata arall, gopi electronig o’r holl ddata a gofnodwyd yn ei gronfa ddata yn unol â rheoliad 3(5)(b).
Newid ceidwad8
1
O 6 Ebrill 2016 ymlaen, pan drosglwyddir ci i geidwad newydd, rhaid i’r ceidwad newydd, oni fydd y ceidwad blaenorol eisoes wedi gwneud hynny, gofnodi enw a chyfeiriad llawn a rhif cyswllt teleffon (os oes un) y ceidwad newydd ac unrhyw newid yn enw’r ci, gyda’r gronfa ddata y cofnodwyd manylion y ci ynddi yn unol â rheoliad 3(5)(b).
2
O 6 Ebrill 2016 ni chaiff unrhyw geidwad drosglwyddo ci i geidwad newydd cyn bo’r ci wedi ei ficrosglodynnu, onid oes tystysgrif wedi ei dyroddi o dan reoliad 3(2) neu 3(3), sy’n datgan y byddai microsglodynnu yn peryglu iechyd y ci yn sylweddol.
Mewnblannu microsglodion9
1
Ni chaiff neb fewnblannu microsglodyn mewn ci, onid yw—
a
yn filfeddyg neu’n nyrs filfeddygol yn gweithredu o dan gyfarwyddyd milfeddyg;
b
yn fyfyriwr milfeddygaeth neu’n fyfyriwr nyrsio milfeddygol, ac yn y naill achos a’r llall yn gweithredu o dan gyfarwyddyd milfeddyg;
c
wedi ei asesu’n foddhaol ar gwrs hyfforddi a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw; neu
d
wedi cael hyfforddiant mewn mewnblannu, a oedd yn cynnwys profiad ymarferol o fewnblannu microsglodyn, cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
2
Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar sail gwybodaeth a ddarparwyd yn unol â rheoliad 10 ac unrhyw wybodaeth arall, fod person, a allai fewnblannu microsglodion yn unol â pharagraff (1)(c) neu (1)(d), yn analluog i wneud hynny hyd at safon dderbyniol, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw yn ei wahardd rhag mewnblannu microsglodion mewn cŵn—
a
hyd nes bo’r person hwnnw wedi cael hyfforddiant pellach ar gwrs a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru; neu
b
byth eto.
3
Mae paragraff (1)(d) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau gyda’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
4
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon, neu’r gofrestr filfeddygol atodol, a gedwir o dan Ddeddf Milfeddygon 1966;
mae i “myfyriwr milfeddygaeth” (“student of veterinary surgery”) yr ystyr a roddir i “student of veterinary surgery” yn rheoliad 3 o’r Atodlen i’r Gorchymyn Cyfrin Gyngor Rheoliadau Milfeddygon (Ymarfer gan Fyfyrwyr) 19818;
mae i “myfyriwr nyrsio milfeddygol” (“student veterinary nurse”) a “nyrs filfeddygol” (“veterinary nurse”) yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “student veterinary nurse” a “veterinary nurse” gan Atodlen 3 i Ddeddf Milfeddygon19669.
Adweithiau anffafriol10
1
Rhaid i unrhyw un sy’n canfod adwaith anffafriol i ficrosglodyn, neu fethiant microsglodyn, adrodd am yr adwaith neu’r methiant hwnnw wrth Weinidogion Cymru.
2
Yn y rheoliad hwn ystyr “adwaith anffafriol” (“adverse reaction”) yw—
a
unrhyw boen neu ddioddefaint diangen, neu unrhyw batholeg ar ran ci a achoswyd gan, neu sy’n ymddangos wedi ei achosi gan, fewnblannu microsglodyn; neu
b
ymfudiad microsglodyn o safle’r mewnblaniad.
3
Yn y rheoliad hwn, ystyr “methiant microsglodyn” (“failure of a microchip”) yw methiant i drawsyrru’r rhif a amgodiwyd yn y microsglodyn pan sganiwyd y microsglodyn gan drosdderbynnydd addas.
Person awdurdodedig11
1
Caiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, awdurdodi unrhyw berson (“person awdurdodedig”) (“anauthorised person”) i weithredu at y diben o orfodi’r Rheoliadau hyn.
2
Caiff awdurdod lleol, ynglŷn â chŵn a gedwir yn ei ardal, awdurdodi, mewn ysgrifen, unrhyw berson (“person awdurdodedig”) (“anauthorised person”) weithredu at y diben o orfodi’r Rheoliadau hyn.
3
Mae unrhyw gwnstabl yr heddlu neu swyddog cymorth cymunedol hefyd yn berson awdurdodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn.
4
Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog cymorth cymunedol” (“community support officer”) yw unrhyw un a ddynodwyd felly o dan adran 38(1) o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 200210.
Pwerau person awdurdodedig12
Caiff person awdurdodedig, ar ôl dangos, os gofynnir iddo, yr awdurdodiad ysgrifenedig a grybwyllir yn rheoliad 11(1) neu 11(2) neu ddogfen adnabod swyddogol arall yn achos cwnstabl yr heddlu neu swyddog cymorth cymunedol (fel y’i diffinnir yn rheoliad 11(4))—
a
cyflwyno hysbysiad i geidwad unrhyw gi nad yw wedi ei ficrosglodynnu, sy’n gwneud yn ofynnol bod y ceidwad yn sicrhau bod y wedi ei ficrosglodynnu y ci o fewn 21 diwrnod;
b
os yw ceidwad ci yn methu â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff (a), heb gydsyniad y ceidwad—
i
trefnu i ficrosglodynnu’r ci; a
ii
adennill y gost o wneud hynny oddi ar y ceidwad;
c
cymryd meddiant o gi heb gydsyniad y ceidwad at y diben o wirio pa un a yw’r ci wedi ei ficrosglodynnu ai peidio, neu at y diben o’i ficrosglodynnu yn unol â pharagraff (b)(i).
Troseddau13
1
Cyflawnir trosedd y gellir ei chosbi, yn dilyn collfarn ddiannod, â dirwy na fydd yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol, os methir â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 7.
2
Cyflawnir trosedd y gellir ei chosbi, yn dilyn collfarn ddiannod, â dirwy na fydd yn fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol, os—
a
methir â chydymffurfio â rheoliad 8(2);
b
methir â chydymffurfio â rheoliad 9(1);
c
methir â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 9(2);
d
methir ag adrodd am adwaith anffafriol neu fethiant microsglodyn, yn unol â rheoliad 10(1);
e
methir â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 12(a);
f
rhwystrir person awdurdodedig rhag arfer pŵer o dan reoliad 12(b) neu 12(c).
Apelau14
1
Caiff gweithredwr cronfa ddata apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 7.
2
Caiff ceidwad apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 12(a).
3
Caiff person a awdurdodwyd i fewnblannu microsglodion o dan reoliad 9(1)(c) neu 9(1)(d) apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 9(2).
4
Mae apêl o dan y rheoliad hwn yn atal dros dro effaith yr hysbysiad yr apelir yn ei erbyn, hyd nes penderfynir yr apêl neu y’i tynnir yn ôl.
5
Mewn apêl, caiff Tribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai gadarnhau, amrywio neu ddirymu’r hysbysiad yr apelir yn ei erbyn.
Troseddau gan gyrff corfforaethol, partneriaethau neu gymdeithasau anghorfforedig15
1
Pan fo—
a
trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni gan gorff corfforaethol, partneriaeth, partneriaeth Albanaidd neu gymdeithas anghorfforedig arall, a
b
profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran, unigolyn perthnasol (gan gynnwys person sy’n honni gweithredu yn rhinwedd swydd unigolyn perthnasol),
mae’r unigolyn perthnasol yn ogystal â’r corff corfforaethol, partneriaeth, partneriaeth Albanaidd neu gymdeithas anghorfforedig arall, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
2
Ym mharagraff (1), ystyr “unigolyn perthnasol” (“relevant individual”) yw—
a
mewn perthynas â chorff corfforaethol—
i
cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff hwnnw;
ii
os aelodau’r corff sy’n rheoli ei faterion, aelod;
b
mewn perthynas â phartneriaeth neu bartneriaeth Albanaidd, partner;
c
mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth Albanaidd, person sy’n ymwneud â rheolaeth neu reoli’r gymdeithas.
3
Caniateir dwyn achos cyfreithiol am drosedd dan y Rheoliadau hyn, yr honnir iddi gael ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
4
At ddibenion achosion cyfreithiol yn unol â pharagraff (3), mae’r darpariaethau canlynol yn gymwys fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol—
a
rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau;
b
adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 192511; ac
c
Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 198012.
5
Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn dilyn collfarn am drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig.
Diwygio Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cŵn Gwaith (Cymru) 200716
Yn lle paragraff (1)(b) o reoliad 5 o Reoliadau Tocio Cynffonnau Cŵn Gwaith (Cymru) 200713 rhodder—
b
gyda microsglodyn—
i
sydd â rhif unigryw sy’n cynnwys cod y gwneuthurwr;
ii
sy’n cydymffurfio â safon ISO 11784:1996 o safonau’r Sefydliad Safonau Rhyngwladol ar gyfer microsglodion;
iii
sy’n cydymffurfio â’r cyfan o safon ISO 11785:1996 o safonau’r Sefydliad Safonau Rhyngwladol ar gyfer microsglodion ac eithrio Atodiad A; a
iv
sy’n ymateb i drosdderbynnydd sy’n gweithredu ar 134.2 cilohertz ac yn cydymffurfio â’r protocol FDXB a bennir yn y safonau ISO 11784:1996 ac 11785:1996.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)