Search Legislation

Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1990 (Cy. 300)

Anifeiliaid, Cymru

Lles Anifeiliaid

Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015

Gwnaed

3 Rhagfyr 2015

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol mewn perthynas â Chymru(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(2).

Yn unol ag adran 12(6) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy.

Yn unol ag adran 61(2) o’r Ddeddf honno(3), mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015

(2Maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar yr ail ddiwrnod ar hugain ar ôl y diwrnod y’u gwneir.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw—

(a)

mewn perthynas â chi cymorth (o fewn yr ystyr a roddir i “assistance dog” gan adran 173(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(4))—

(i)

hyd nes bo’r ci yn peidio â gweithio fel ci cymorth, y corff sy’n gyfrifol am ei hyfforddi a’i ddyrannu;

(ii)

wedi i’r ci beidio â gweithio fel ci cymorth, y person y mae’r ci yn preswylio gydag ef fel arfer;

(b)

mewn perthynas â chi bach newydd-anedig, perchennog yr ast a roddodd enedigaeth iddo; ac

(c)

mewn perthynas ag unrhyw gi arall, y person y mae’r ci yn preswylio gydag ef fel arfer;

ystyr “microsglodynnwyd” (“microchipped”) yw microsglodynnwyd yn unol â rheoliad 3;

mae i “person awdurdodedig” (“authorised person”) yr ystyr a roddir gan reoliad 11.

Rhwymedigaeth i ficrosglodynnu cŵn

3.—(1Yn ddarostyngedig i dystysgrif a ddyroddir o dan baragraff (2) neu (3), o 6 Ebrill 2016 ymlaen, rhaid i geidwad pob ci nad oes microsglodyn wedi ei fewnblannu ynddo erbyn y dyddiad hwnnw ac—

(a)sy’n hŷn nag 8 wythnos; a

(b)nad yw’n gi gwaith ardystiedig yn yr ystyr o “certified working dog” at ddibenion adran 6(3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(5),

sicrhau y caiff ei ficrosglodynnu.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys am gyhyd ag y bo milfeddyg yn ardystio, ar ffurflen a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, y byddai microsglodynnu yn peryglu iechyd y ci yn sylweddol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), o 6 Ebrill 2016 ymlaen, rhaid i geidwad sy’n mewnforio ci sicrhau y caiff y ci ei ficrosglodynnu o fewn 30 diwrnod ar ôl mewnforio’r ci oni fydd milfeddyg yn ardystio, ar ffurflen a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, y byddai microsglodynnu yn peryglu iechyd y ci yn sylweddol.

(4Rhaid i dystysgrif a ddyroddir o dan baragraff (2) neu (3) ddatgan am ba gyfnod na fydd y ci yn ffit i’w ficrosglodynnu.

(5Mae ci wedi ei ficrosglodynnu pan fo—

(a)microsglodyn sy’n cydymffurfio â rheoliad 4 wedi ei fewnblannu yn y ci; a

(b)y manylion a bennir yn rheoliad 5 wedi eu cofnodi mewn cronfa ddata gan weithredwr cronfa ddata sy’n bodloni’r amodau a bennir yn rheoliad 6.

Ffurf y microsglodyn

4.  O’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym ymlaen rhaid i unrhyw ficrosglodyn a fewnblennir mewn ci fodloni’r gofynion canlynol—

(a)rhaid iddo gael rhif unigryw sy’n cynnwys cod y gwneuthurwr;

(b)rhaid iddo gydymffurfio â safon ISO 11784:1996 o safonau’r Sefydliad Safonau Rhyngwladol ar gyfer microsglodion(6);

(c)rhaid iddo gydymffurfio â safon ISO 11785:1996 o safonau’r Sefydliad Safonau Rhyngwladol ar gyfer microsglodion ac eithrio Atodiad A; a

(d)rhaid iddo ymateb i drosdderbynnydd sy’n gweithredu ar 134.2 cilohertz ac yn cydymffurfio â’r protocol FDXB a bennir yn y safonau ISO 11784:1996 ac 11785:1996.

Manylion sydd i’w cofnodi mewn cronfeydd data

5.—(1Y manylion sydd i’w cofnodi mewn cronfa ddata yw’r canlynol—

(a)enw a chyfeiriad llawn y ceidwad;

(b)os yw’n gymwys, y ffaith mai’r ceidwad yw’r bridiwr yn ogystal;

(c)os y ceidwad yw’r bridiwr ac yntau wedi ei drwyddedu gan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 (7)

(i)rhif trwydded y bridiwr; a

(ii)enw’r awdurdod lleol y’i trwyddedwyd ganddo;

(d)yr enw neu’r rhif adnabod gwreiddiol a roddwyd i’r ci;

(e)y rhif teleffon cyswllt (os oes un) ar gyfer y ceidwad;

(f)y cyfeiriad e-bost (os oes un) ar gyfer y ceidwad;

(g)yr enw a roddwyd i’r ci gan y ceidwad, os yw’n wahanol i’r manylion a gofnodwyd yn unol ag is-baragraff (d);

(h)rhyw y ci;

(i)brid y ci, neu ddisgrifiad ohono os yw’n gi croesfrid;

(j)lliw y ci;

(k)unrhyw nodweddion neilltuol i’r ci;

(l)yr amcangyfrif gorau posibl y gall y ceidwad ei roi o ddyddiad geni’r ci; ac

(m)rhif unigryw’r microsglodyn a fewnblannwyd yn y ci.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “bridiwr” (“breeder”) yw ceidwad unrhyw ast sy’n rhoi genedigaeth, pa un a yw’n cynnal busnes fel bridiwr cŵn ai peidio.

Yr amodau sydd i’w bodloni gan weithredwr cronfa ddata

6.—(1O’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym ymlaen, rhaid i weithredwr cronfa ddata—

(a)meddu digon o gynhwysedd cronfa ddata i storio yn electronig, ac adalw, yr holl fanylion a ddarperir iddo gan geidwaid yn unol â rheoliad 3;

(b)cadw copïau wrth gefn o’r holl ddata hyn yn ddyddiol, mewn cyfleuster diogel oddi ar y safle;

(c)darparu unrhyw wybodaeth yn rheoliad 5, y gofynnir amdani gan berson awdurdodedig;

(d)darparu unrhyw wybodaeth yn rheoliad 5 y gofynnir amdani gan geidwad ci, mewn perthynas â’r ci hwnnw;

(e)cynnal system ar gyfer adnabod pobl a awdurdodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn, sy’n gwneud ymholiadau ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion yn ei gronfa ddata;

(f)cynnal system ar gyfer adnabod ceidwaid cŵn, sy’n gwneud ymholiadau ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion yn ei gronfa ddata;

(g)cadw cofnodion i ddangos bod gweithredwr y gronfa ddata yn cydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn;

(h)cynnal system ar gyfer ateb ceisiadau teleffon a cheisiadau ar-lein am fanylion a gedwir yn ei gronfa ddata, drwy gydol yr amser;

(i)cynnal system ar gyfer ailgyfeirio ymholiadau teleffon ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion mewn cronfeydd data eraill sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)(a), at weithredwyr y cronfeydd data hynny; a

(j)gallu ailgyfeirio yn awtomatig unrhyw gais ar-lein, ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion mewn cronfeydd data eraill sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)(a), i’r cronfeydd data hynny.

(2Rhaid i weithredwr cronfa ddata—

(a)rhoi ar gael i weithredwyr cronfa ddata perthnasol eraill sy’n gweithredu yn unol â’r rheoliad hwn yr wybodaeth sydd ei hangen i ganiatáu i’r gweithredwyr cronfeydd data eraill hynny benderfynu pa rifau microsglodyn sy’n ymwneud â chŵn y cofnodir eu manylion yn y gronfa ddata honno; a

(b)meddu system ar gyfer ateb ymholwyr yn uniongyrchol ynglŷn ag unrhyw ymholiad a dderbynnir yn unol â pharagraff (1)(i) neu (1)(j).

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “gweithredwr cronfa ddata perthnasol” (“relevant database operator”) yw gweithredwr cronfa ddata—

(a)sy’n honni ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliad hwn; a

(b)nad yw Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad iddo o dan reoliad 7(2)(a).

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “cais ar-lein” (“on-line request”) yw cais a gyflwynir i weithredwr cronfa ddata yn y modd y darperir ar ei gyfer gan wefan y gweithredwr cronfa ddata.

Pwerau Gweinidogion Cymru

7.—(1O 6 Ebrill 2016 ymlaen, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i weithredwr cronfa ddata, sy’n gwneud yn ofynnol ei fod yn darparu iddynt—

(a)unrhyw wybodaeth a gofnodwyd yn y gronfa ddata;

(b)unrhyw wybodaeth ynglŷn â gweithrediad y drefn reoleiddio a sefydlir gan y Rheoliadau hyn;

(c)unrhyw wybodaeth sy’n angenrheidiol i ddangos bod y gweithredwr cronfa ddata yn bodloni’r amodau yn rheoliad 6.

(2Os bodlonir Gweinidogion Cymru nad yw gweithredwr cronfa ddata yn bodloni’r amodau yn rheoliad 6, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad sy’n gwneud yn ofynnol fod y gweithredwr—

(a)yn peidio â honni ei fod yn bodloni’r amodau yn rheoliad 6;

(b)yn darparu, i Weinidogion Cymru neu i weithredwr cronfa ddata arall, gopi electronig o’r holl ddata a gofnodwyd yn ei gronfa ddata yn unol â rheoliad 3(5)(b).

Newid ceidwad

8.—(1O 6 Ebrill 2016 ymlaen, pan drosglwyddir ci i geidwad newydd, rhaid i’r ceidwad newydd, oni fydd y ceidwad blaenorol eisoes wedi gwneud hynny, gofnodi enw a chyfeiriad llawn a rhif cyswllt teleffon (os oes un) y ceidwad newydd ac unrhyw newid yn enw’r ci, gyda’r gronfa ddata y cofnodwyd manylion y ci ynddi yn unol â rheoliad 3(5)(b).

(2O 6 Ebrill 2016 ni chaiff unrhyw geidwad drosglwyddo ci i geidwad newydd cyn bo’r ci wedi ei ficrosglodynnu, onid oes tystysgrif wedi ei dyroddi o dan reoliad 3(2) neu 3(3), sy’n datgan y byddai microsglodynnu yn peryglu iechyd y ci yn sylweddol.

Mewnblannu microsglodion

9.—(1Ni chaiff neb fewnblannu microsglodyn mewn ci, onid yw—

(a)yn filfeddyg neu’n nyrs filfeddygol yn gweithredu o dan gyfarwyddyd milfeddyg;

(b)yn fyfyriwr milfeddygaeth neu’n fyfyriwr nyrsio milfeddygol, ac yn y naill achos a’r llall yn gweithredu o dan gyfarwyddyd milfeddyg;

(c)wedi ei asesu’n foddhaol ar gwrs hyfforddi a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw; neu

(d)wedi cael hyfforddiant mewn mewnblannu, a oedd yn cynnwys profiad ymarferol o fewnblannu microsglodyn, cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(2Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar sail gwybodaeth a ddarparwyd yn unol â rheoliad 10 ac unrhyw wybodaeth arall, fod person, a allai fewnblannu microsglodion yn unol â pharagraff (1)(c) neu (1)(d), yn analluog i wneud hynny hyd at safon dderbyniol, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw yn ei wahardd rhag mewnblannu microsglodion mewn cŵn—

(a)hyd nes bo’r person hwnnw wedi cael hyfforddiant pellach ar gwrs a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru; neu

(b)byth eto.

(3Mae paragraff (1)(d) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau gyda’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(4Yn y rheoliad hwn—

ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon, neu’r gofrestr filfeddygol atodol, a gedwir o dan Ddeddf Milfeddygon 1966;

mae i “myfyriwr milfeddygaeth” (“student of veterinary surgery”) yr ystyr a roddir i “student of veterinary surgery” yn rheoliad 3 o’r Atodlen i’r Gorchymyn Cyfrin Gyngor Rheoliadau Milfeddygon (Ymarfer gan Fyfyrwyr) 1981(8);

mae i “myfyriwr nyrsio milfeddygol” (“student veterinary nurse”) a “nyrs filfeddygol” (“veterinary nurse”) yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “student veterinary nurse” a “veterinary nurse” gan Atodlen 3 i Ddeddf Milfeddygon1966(9).

Adweithiau anffafriol

10.—(1Rhaid i unrhyw un sy’n canfod adwaith anffafriol i ficrosglodyn, neu fethiant microsglodyn, adrodd am yr adwaith neu’r methiant hwnnw wrth Weinidogion Cymru.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “adwaith anffafriol” (“adverse reaction”) yw—

(a)unrhyw boen neu ddioddefaint diangen, neu unrhyw batholeg ar ran ci a achoswyd gan, neu sy’n ymddangos wedi ei achosi gan, fewnblannu microsglodyn; neu

(b)ymfudiad microsglodyn o safle’r mewnblaniad.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “methiant microsglodyn” (“failure of a microchip”) yw methiant i drawsyrru’r rhif a amgodiwyd yn y microsglodyn pan sganiwyd y microsglodyn gan drosdderbynnydd addas.

Person awdurdodedig

11.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, awdurdodi unrhyw berson (“person awdurdodedig”) (“anauthorised person”) i weithredu at y diben o orfodi’r Rheoliadau hyn.

(2Caiff awdurdod lleol, ynglŷn â chŵn a gedwir yn ei ardal, awdurdodi, mewn ysgrifen, unrhyw berson (“person awdurdodedig”) (“anauthorised person”) weithredu at y diben o orfodi’r Rheoliadau hyn.

(3Mae unrhyw gwnstabl yr heddlu neu swyddog cymorth cymunedol hefyd yn berson awdurdodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog cymorth cymunedol” (“community support officer”) yw unrhyw un a ddynodwyd felly o dan adran 38(1) o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002(10).

Pwerau person awdurdodedig

12.  Caiff person awdurdodedig, ar ôl dangos, os gofynnir iddo, yr awdurdodiad ysgrifenedig a grybwyllir yn rheoliad 11(1) neu 11(2) neu ddogfen adnabod swyddogol arall yn achos cwnstabl yr heddlu neu swyddog cymorth cymunedol (fel y’i diffinnir yn rheoliad 11(4))—

(a)cyflwyno hysbysiad i geidwad unrhyw gi nad yw wedi ei ficrosglodynnu, sy’n gwneud yn ofynnol bod y ceidwad yn sicrhau bod y wedi ei ficrosglodynnu y ci o fewn 21 diwrnod;

(b)os yw ceidwad ci yn methu â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff (a), heb gydsyniad y ceidwad—

(i)trefnu i ficrosglodynnu’r ci; a

(ii)adennill y gost o wneud hynny oddi ar y ceidwad;

(c)cymryd meddiant o gi heb gydsyniad y ceidwad at y diben o wirio pa un a yw’r ci wedi ei ficrosglodynnu ai peidio, neu at y diben o’i ficrosglodynnu yn unol â pharagraff (b)(i).

Troseddau

13.—(1Cyflawnir trosedd y gellir ei chosbi, yn dilyn collfarn ddiannod, â dirwy na fydd yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol, os methir â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 7.

(2Cyflawnir trosedd y gellir ei chosbi, yn dilyn collfarn ddiannod, â dirwy na fydd yn fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol, os—

(a)methir â chydymffurfio â rheoliad 8(2);

(b)methir â chydymffurfio â rheoliad 9(1);

(c)methir â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 9(2);

(d)methir ag adrodd am adwaith anffafriol neu fethiant microsglodyn, yn unol â rheoliad 10(1);

(e)methir â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 12(a);

(f)rhwystrir person awdurdodedig rhag arfer pŵer o dan reoliad 12(b) neu 12(c).

Apelau

14.—(1Caiff gweithredwr cronfa ddata apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 7.

(2Caiff ceidwad apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 12(a).

(3Caiff person a awdurdodwyd i fewnblannu microsglodion o dan reoliad 9(1)(c) neu 9(1)(d) apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 9(2).

(4Mae apêl o dan y rheoliad hwn yn atal dros dro effaith yr hysbysiad yr apelir yn ei erbyn, hyd nes penderfynir yr apêl neu y’i tynnir yn ôl.

(5Mewn apêl, caiff Tribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai gadarnhau, amrywio neu ddirymu’r hysbysiad yr apelir yn ei erbyn.

Troseddau gan gyrff corfforaethol, partneriaethau neu gymdeithasau anghorfforedig

15.—(1Pan fo—

(a)trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni gan gorff corfforaethol, partneriaeth, partneriaeth Albanaidd neu gymdeithas anghorfforedig arall, a

(b)profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran, unigolyn perthnasol (gan gynnwys person sy’n honni gweithredu yn rhinwedd swydd unigolyn perthnasol),

mae’r unigolyn perthnasol yn ogystal â’r corff corfforaethol, partneriaeth, partneriaeth Albanaidd neu gymdeithas anghorfforedig arall, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “unigolyn perthnasol” (“relevant individual”) yw—

(a)mewn perthynas â chorff corfforaethol—

(i)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff hwnnw;

(ii)os aelodau’r corff sy’n rheoli ei faterion, aelod;

(b)mewn perthynas â phartneriaeth neu bartneriaeth Albanaidd, partner;

(c)mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth Albanaidd, person sy’n ymwneud â rheolaeth neu reoli’r gymdeithas.

(3Caniateir dwyn achos cyfreithiol am drosedd dan y Rheoliadau hyn, yr honnir iddi gael ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(4At ddibenion achosion cyfreithiol yn unol â pharagraff (3), mae’r darpariaethau canlynol yn gymwys fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol—

(a)rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau;

(b)adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(11); ac

(c)Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(12).

(5Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn dilyn collfarn am drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig.

Diwygio Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cŵn Gwaith (Cymru) 2007

16.  Yn lle paragraff (1)(b) o reoliad 5 o Reoliadau Tocio Cynffonnau Cŵn Gwaith (Cymru) 2007(13) rhodder—

(b)gyda microsglodyn—

(i)sydd â rhif unigryw sy’n cynnwys cod y gwneuthurwr;

(ii)sy’n cydymffurfio â safon ISO 11784:1996 o safonau’r Sefydliad Safonau Rhyngwladol ar gyfer microsglodion;

(iii)sy’n cydymffurfio â’r cyfan o safon ISO 11785:1996 o safonau’r Sefydliad Safonau Rhyngwladol ar gyfer microsglodion ac eithrio Atodiad A; a

(iv)sy’n ymateb i drosdderbynnydd sy’n gweithredu ar 134.2 cilohertz ac yn cydymffurfio â’r protocol FDXB a bennir yn y safonau ISO 11784:1996 ac 11785:1996.

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

3 Rhagfyr 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer microsglodynnu cŵn yn orfodol a chofnodi manylion adnabod pob ci a manylion cyswllt ei geidwad mewn cronfa ddata.

Mae rheoliad 3 yn gosod dyletswydd ar bob ceidwad ci i sicrhau bod ei gi wedi ei ficrosglodynnu a gwybodaeth wedi ei chofnodi mewn cronfa ddata. Yn ôl y diffiniad o geidwad yn y Rheoliadau hyn, ystyrir mai bridiwr yw ceidwad cyntaf ci bach, os y bridiwr yw perchennog yr ast a roddodd enedigaeth i’r ci bach hwnnw. Gan hynny, mae’r bridiwr o dan ddyletswydd i sicrhau y microsglodynnir ci bach o’r fath yn unol â rheoliad 3. Mae rheoliad 4 yn pennu’r gofynion o ran y microsglodion a ddefnyddir, a rheoliad 5 yn pennu’r wybodaeth sydd i’w chofnodi mewn cronfa ddata.

Mae rheoliad 6 yn pennu’r amodau sydd i’w bodloni gan weithredwyr cronfeydd data.

Mae rheoliad 7 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ofyn am wybodaeth o’r cronfeydd data. Yn ogystal, mewn amgylchiadau pan fo gweithredwr cronfa ddata yn methu a chyflawni gofynion rheoliad 6, mae rheoliad 7 rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i gyflwyno hysbysiad i weithredwr cronfa ddata, sy’n gwneud yn ofynnol ei fod yn peidio â honni ei fod yn bodloni gofynion y Rheoliadau. Caiff yr hysbysiad wneud yn ofynnol hefyd ei fod yn darparu copi electronig, i Weinidogion Cymru neu i weithredwr cronfa ddata arall, o’r data a gofnodwyd yn unol â’r Rheoliadau hyn,.

Mae rheoliad 8 yn gwneud yn ofynnol fod ceidwad newydd yn diweddaru’r wybodaeth yn y gronfa ddata pan fo ceidwadaeth ci yn cael ei throsglwyddo, ac yn gwahardd trosglwyddo ci i geidwad newydd cyn bo’r ci wedi ei ficrosglodynnu. Bydd unrhyw geidwad newydd sy’n methu â diweddaru cronfa ddata drwy gynnwys y manylion perthnasol yn peri na fydd y ci wedi ei ficrosglodynnu’n briodol yn unol â rheoliad 3, a gellir cymryd camau gorfodi yn erbyn y ceidwad newydd. Mae rheoliad 9 yn pennu safonau hyfforddiant ar gyfer pobl sy’n mewnblannu microsglodion. Mae rheoliad 10 yn darparu ar gyfer adrodd am unrhyw achosion o adwaith anffafriol i ficrosglodyn neu ymfudiad neu fethiant microsglodyn. Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer penodi personau awdurdodedig i arfer pwerau o dan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 12 yn rhoi i bersonau awdurdodedig y pŵer: i gyflwyno hysbysiad i geidwad ci i ficrosglodynnu’r ci; i ficrosglodynnu ci ac adennill y gost o wneud hynny oddi ar y ceidwad; ac i gymryd meddiant o gi at y diben o’i ficrosglodynnu.

Mae rheoliad 13 yn cynnwys troseddau. Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer apelau i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn gwahanol hysbysiadau. Mae rheoliad 15 yn darparu ar gyfer troseddau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol, partneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig.

Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth ar gyfer diwygiadau canlyniadol.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch drafft o’r Rheoliadau hyn ar 16 Mehefin 2015 yn unol â’r Gyfarwyddeb Safonau Technegol (Cyfarwyddeb 98/34/EC fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, cynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono o Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

Diffinnir “appropriate national authority” yn adran 62(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

(3)

2006 p. 45. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 34 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno, mae’r cyfeiriad at “House of Parliament” yn adran 61(2) yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)

ISO Central Secretariat, International Organization for Standardization (ISO), 1 rue de Varembé, Case postale 56, CH-1211, Geneva 20, Switzerland.

(8)

O.S. 1981/988. Amnewidiwyd rheoliad 3 gan yr Atodlen i O.S. 1995/2397.

(9)

1966 p. 36. Mewnosodwyd paragraff 6 o Atodlen 3 i Ddeddf Milfeddygon 1966 gan O.S. 1991/1412, amnewidiwyd y paragraff hwnnw gan O.S. 2002/1479 a diwygiwyd ef gan baragraff 18 o’r Atodlen i O.S. 2008/1824. Mewnosodwyd paragraff 7 o Atodlen 3 i Ddeddf Milfeddygon 1966 gan O.S. 2002/1479.

(10)

2002 p. 30. Diwygiwyd adran 38(1) gan adran 99 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol (p. 13) a pharagraffau 277 a 292 o Ran 3 o Atodlen 16, i’r Ddeddf honno.

(11)

1925 p. 86. Diddymwyd is-adrannau (1), (2) a (5) gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55), adran 132 ac Atodlen 6; diwygiwyd is-adran (3) gan Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23), adran 56(1) ac Atodlen 8, Rhan 2, paragraff 19; diwygiwyd is-adran (4) gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39), adran 109(1) a (3), Atodlen 8, paragraff 71 ac Atodlen 10.

(12)

1980 p. 43. Diddymwyd paragraff 2(a) o Atodlen 3 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44), adrannau 41 a 332, Atodlen 3, Rhan 2, paragraff 51(1) ac (13)(a), ac Atodlen 37, Rhan 4. Diddymwyd paragraff 5 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53), adrannau 25(2) a 101(2) ac Atodlen 13; diwygiwyd paragraff 6 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 41, Atodlen 3, Rhan 2, paragraff 51(1) ac (13)(b).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources