- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
24.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i weithredu cronfa ddata ganolog gyfrifiadurol ar gyfer cofnodi symudiadau anifeiliaid, a fydd â’r gallu i dderbyn hysbysiadau o symudiadau yn electronig.
(2) Yn y Rhan hon, ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog.
(3) Mae gweithredwyr lladd-dai, marchnadoedd, canolfannau casglu a chanolfannau crynhoi wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru fel pwyntiau cofnodi canolog, a rhaid i’r gweithredwyr hyn hysbysu ynghylch symudiadau anifeiliaid, i mewn i’w mangreoedd ac allan ohonynt, yn electronig.
(4) Caniateir i geidwaid eraill hysbysu yn electronig ynghylch symudiadau anifeiliaid i mewn i’w mangreoedd ac allan ohonynt.
(5) Pan fo ceidwad yn hysbysu, yn electronig, ynghylch symud anifail o’i ddaliad, rhaid iddo gofnodi’r manylion sy’n ofynnol gan Adran C o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor, ac eithrio llofnod y ceidwad, yn y gronfa ddata ganolog o fewn 3 diwrnod ar ôl y symudiad.
(6) Pan fo gweithredwr pwynt cofnodi canolog yn hysbysu yn electronig ynghylch symud anifeiliaid a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10, rhaid i’r gweithredwr, yn ychwanegol—
(a)cofnodi yn y gronfa ddata ganolog yr holl ddynodiadau unigol ar gyfer yr anifeiliaid hynny; a
(b)cynnwys yn y ddogfen symud niferoedd cyfanswm yr anifeiliaid a adnabuwyd sydd â phob nod geifre neu nod diadell.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (9) a (10), pan fo ceidwad yn symud anifail o’i ddaliad rhaid iddo lenwi dogfen symud yn unol ag Adran C o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor a hynny mewn ffurf a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddo ddarparu copi o’r ddogfen i’r cludwr.
(8) Pan fo ceidwad yn hysbysu yn electronig ynghylch symud anifail o’i ddaliad, nid oes rhaid iddo lofnodi’r ddogfen symud.
(9) Pan fo ceidwad yn hysbysu yn electronig ynghylch symudiad o’i ddaliad, a bod y cludwr, ar ei hynt, yn gallu argraffu dogfen mewn perthynas â’r holl anifeiliaid a gludir, sy’n rhoi—
(a)yr holl wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (5); a
(b)mewn perthynas â’r anifeiliaid a symudir o farchnadoedd, canolfannau casglu a chanolfannau crynhoi ac a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (6)(b),
nid oes rhaid i’r ceidwad lenwi dogfen symud.
(10) Caniateir i fanylion adnabod anifail gael eu cofnodi yn y daliad ar ben y daith os—
(a)pwynt cofnodi canolog yw’r daliad ar ben y daith; a
(b)cludir yr anifail yn unol ag Adran C.2(a) o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor.
(11) Pan fo gweithredwr pwynt cofnodi canolog wedi cofnodi manylion adnabod anifail yn unol â pharagraff (10), rhaid i’r gweithredwr hysbysu ceidwad y daliad y symudwyd yr anifail ohono ynghylch manylion adnabod yr anifail, yn unol ag Adran C.2(c) o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor.
(12) Rhaid i geidwad, y symudir anifail i’w ddaliad, gadw copi o’r ddogfen symud a ddarperir iddo gan gludwr yr anifail hwnnw, am dair blynedd—
(a)oni hysbysir yn electronig ynghylch y symudiad o’r daliad blaenorol a’r symudiad i ddaliad y ceidwad, neu
(b)oni fydd y ceidwad yn sganio’r ddogfen symud ac yn cadw copi electronig ohoni am dair blynedd,
a rhaid i’r ceidwad gadw unrhyw gopïau o’r fath yn eu trefn gronolegol.
25.—(1) Pan symudir anifail i ddaliad, rhaid i gludwr yr anifail hwnnw roi i’r ceidwad yn y daliad hwnnw—
(a)copi o’r ddogfen symud, neu
(b)os, yn unol ag erthygl 24(9), nad oes dogfen symud, allbrint o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn yr erthygl honno.
(2) Rhaid i weithredwr pwynt cofnodi canolog hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch symudiadau anifeiliaid i mewn ac allan o’i fangre, yn electronig, o fewn 3 diwrnod ar ôl y symudiad.
(3) Pan nad yw’r daliad ar ben y daith yn bwynt cofnodi canolog, rhaid i’r ceidwad yn y daliad ar ben y daith hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch cael yr anifeiliaid hynny, mewn unrhyw fodd a ganiateir gan Weinidogion Cymru, o fewn 3 diwrnod ar ôl cael yr anifeiliaid.
(4) Yn achos anifail a symudir o ddaliad i borthladd ac a fwriedir ar gyfer ei draddodi allan o Brydain Fawr, rhaid i’r ceidwad yn y daliad hwnnw hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch y symudiad hwnnw, mewn unrhyw fodd a ganiateir gan Weinidogion Cymru, o fewn 3 diwrnod ar ôl symud yr anifail.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: