Enwi, cymhwyso a chychwyn1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2015, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 8 Ionawr 2016.
Diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 20132
Diwygir Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 20133 yn unol â rheoliadau 3 i 7.
Diwygio rheoliad 6 (dehongli)3
1
Yn rheoliad 6 (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder——
“ystyr “daliad a randdirymwyd” (“derogated holding”) yw daliad y mae gan randdirymiad effaith drosto
ystyr “rhanddirymiad” (“derogation”) yw rhanddirymiad a roddir o dan Ran 3A o derfyn y cyfanswm o nitrogen mewn tail da byw y gellir ei ddodi ar dir bob blwyddyn yn unol â pharagraff 2(b) o Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC a Phenderfyniad y Comisiwn 2013/781/EU4
ystyr “cais i randdirymu” (“derogation application”) yw cais am randdirymiad
2
yn y diffiniad “cynllun gwrteithio” ar ôl y geiriau “reoliad 14(1)(c)” mewnosoder—
“neu gynlluniau eraill cyffelyb sy’n ofynnol o dan Atodlen 5.
Diwygio rheoliad 12 (dodi tail da byw – y terfyn mewn perthynas â chyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad)4
Ar ddechrau paragraff (1) o reoliad 12 (dodi tail da byw – y terfyn mewn perthynas â chyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad) mewnosoder “Ac eithrio pan fo’r meddiannydd wedi cael rhanddirymiad,”.
Mewnosod Rhan 3A newydd5
Ar ôl Rhan 3 (Cyfyngu ar ddodi tail organig), mewnosoder—
RHAN 3ARhanddirymu
Cais i randdirymu13A
1
(1)Caiff meddiannydd unrhyw ddaliad neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd (“y ceisydd”) wneud cais i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru am randdirymiad pan cafodd 80% neu fwy o’r ardal amaethyddol ei hau â phorfa.
2
Mae’n rhaid i gais o dan y rheoliad hwn gynnwys gydag ef ddatganiad ysgrifenedig yn datgan y bydd y meddiannydd yn bodloni’r amodau a nodir yn Atodiad 5.
3
Rhaid i gais i randdirymu gael ei gyflwyno erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr o flaen honno y gwneir y cais ar ei chyfer.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r dull a’r ffurf y mae’n rhaid i’r cais gael ei wneud ynddynt.
5
Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ganiatáu neu wrthod cais i randdirymu cyn gynted ag y bo’n ymarferol a hysbysu’r ceisydd o’r penderfyniad yn ysgrifenedig ac, os bydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn gwrthod cais i randdirymu, rhaid iddo ar yr un pryd roi rhesymau dros wrthod.
6
Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru wrthod cais i randdirymu pan fo o’r farn y byddai caniatáu rhanddirymiad yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd—
a
safle Ewropeaidd; neu
b
safle morol alltraeth Ewropeaidd,
pan fo’r safleoedd hynny wedi bod yn ddarostyngedig i asesiad priodol o dan reoliad 61 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 20105.
7
Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi gwrthod caniatáu’r cais i randdirymu, caiff y ceisydd apelio yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 13B.
8
Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (yn ddarostyngedig i baragraff (8)) wrthod y cais os canfu bod y meddiannydd wedi torri amodau’r rhanddirymiad yn ystod y flwyddyn galendr o flaen honno y mae’r cais yn berthnasol iddi.
9
Os canfu bod y meddiannydd wedi torri amodau’r rhanddirymiad ar ôl dyddiad y cais ond cyn i benderfyniad gael ei wneud (a chyn y flwyddyn galendr y mae’r cais yn berthnasol iddi), caiff Corff Adnoddau Naturiol Cymru, gan ystyried difrifoldeb y drosedd, ddewis caniatáu neu wrthod y cais.
10
Os canfu bod y meddiannydd wedi torri amodau’r rhanddirymiad ar ôl i’r cais gael ei ganiatáu (ond cyn y flwyddyn galendr y mae’r cais yn berthnasol iddi), caiff Corff Adnoddau Naturiol Cymru, gan ystyried difrifoldeb y drosedd, ddirymu’r rhanddirymiad drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd cyn y flwyddyn galendr y caniatawyd y cais ar ei chyfer.
11
Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn caniatáu cais mewn achos yn unol â pharagraff (8) neu’n penderfynu peidio â dirymu rhanddirymiad mewn achos yn unol â pharagraff (9), rhaid iddo wrthod y cais nesaf a wneir o dan reoliad 13A gan neu ar ran y meddiannydd.
12
At ddibenion y rheoliad hwn, ystyrir bod person wedi torri amodau’r rhanddirymiad os—
a
yw’r person wedi ei gollfarnu o drosedd o dan reoliad 49 sy’n deillio o dorri’r amodau hynny ac naill ai na chaiff apêl pellach ei gwneud yn erbyn y gollfarn, neu lle gwnaed apêl, aeth y penderfyniad yn erbyn y person;
b
yw’r person wedi derbyn rhybudd syml am drosedd o’r fath.
13
Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi caniatáu’r cais i randdirymu, rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ddynodi’r daliad y mae’r rhanddirymiad yn gymwys ar ei gyfer yn ddaliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr y gwnaed y cais ar ei chyfer.
14
Rhaid i’r meddiannydd gadw cofnod o’r cais i randdirymu a’r penderfyniad.
15
Yn y rheoliad hwn—
a
ystyr “safle morol alltraeth Ewropeaidd” yw safle morol alltraeth Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 15 (ystyr safle morol alltraeth Ewropeaidd) o Reoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 20076; a
b
ystyr “safle Ewropeaidd” yw safle Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.
Apelio yn erbyn gwrthod cais i randdirymu13B
1
Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi gwrthod cais i randdirymu, caiff y ceisydd drwy hysbysiad apelio yn erbyn y penderfyniad i banel annibynnol a benodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.
2
Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei chyflwyno o fewn 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau drannoeth dyddiad y gwrthod.
3
Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei gwneud yn y dull a’r ffurf a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.
4
Rhaid i’r panel a gaiff ei benodi o dan y rheoliad hwn gynnwys odrif o bersonau (a rhaid iddo gynnwys o leiaf dri pherson).
5
Mae penderfyniad gan y panel i’w wneud drwy fwyafrif syml.
6
Rhaid i’r panel seilio ei benderfyniad ar—
a
dogfennau a gyflwynwyd iddo gan yr apelydd;
b
dogfennau a gyflwynwyd iddo gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru; ac
c
unrhyw wybodaeth ychwanegol gan yr apelydd neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru y mae’n ei hystyried sy’n angenrheidiol.
7
At ddibenion paragraff (6)(c), caiff y panel—
a
gofyn i’r apelydd neu i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ddarparu’r wybodaeth ychwanegol; neu
b
mewn amgylchiadau eithriadol, gynnal gwrandawiad llafar lle caiff yr apelydd a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru ymddangos.
8
Os bydd y panel yn caniatáu apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ddynodi’r daliad dan sylw fel daliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr y gwnaed y cais ar ei chyfer.
9
Ar ôl penderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r panel—
a
cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu Corff Adnoddau Naturiol Cymru, yr apelydd a Gweinidogion Cymru o’i benderfyniad yn ysgrifenedig; a
b
pan fo’n gwrthod yr apêl, rhoi’r rhesymau dros wrthod.
10
(Rhaid i bob parti mewn apêl o dan y rheoliad hwn ysgwyddo ei gostau ei hun.
Daliadau a randdirymwyd13C
Mae Atodlen 5 yn cael effaith mewn perthynas â daliadau a randdirymwyd.
Mewnosod Atodlen 5 newydd6
Ar ôl Atodlen 4 (Y cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), mewnosoder gynnwys yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Diwygio Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 20107
1
Yn rheoliad 101(1)(b) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 20107 yn lle “2008” rhodder “2013”.