Erthygl 16
1. Enw, cyfeiriad (gan gynnwys cod post), rhif ffacs (os yw’n gymwys), rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (os yw’n gymwys) y trethdalwr.
2. Cyfeiriad (gan gynnwys cod post) yr hereditament y gwneir cais am ryddhad ardrethi i fusnesau bach mewn cysylltiad ag ef ac, os yw hynny’n hysbys, ei rif cyfrif ardrethu annomestig.
3. Yn achos mangre a ddefnyddir ar gyfer gofal plant—
(a)cadarnhad—
(i)bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 uchod yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gofal plant fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn;
(ii)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl; a
(b)enw a chyfeiriad y darparwr cofrestredig a’i rif cofrestru.
4. Yn achos swyddfa bost, cadarnhad bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 uchod yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n rhannol at ddibenion swyddfa bost fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn.
5. Yn achos mangre fanwerthu—
(a)cadarnhad—
(i)bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 uchod yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion mangre fanwerthu fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn;
(ii)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;
(b)cyfeiriad llawn unrhyw hereditament arall neu hereditamentau eraill yng Nghymru y mae’r trethdalwr yn ei feddiannu neu’n eu meddiannu neu wedi ei feddiannu neu eu meddiannu ar unrhyw adeg ers y dyddiad ym mharagraff 7 isod;
(c)cadarnhad nad yw’r trethdalwr nac unrhyw un ar ei ran wedi rhoi hysbysiad o dan erthygl 16 o’r Gorchymyn hwn i unrhyw awdurdod bilio yng Nghymru mewn cysylltiad ag unrhyw hereditament arall;
(d)os na ellir rhoi’r cadarnhad yn is-baragraff (c), rhaid darparu manylion llawn unrhyw hysbysiad a roddwyd i awdurdod bilio; ac
(e)ymgymeriad gan y trethdalwr (neu os nad y trethdalwr yw’r person sy’n llofnodi’r hysbysiad, ymgymeriad ar ran y trethdalwr) y bydd y trethdalwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, yn ysgrifennu i hysbysu’r awdurdod bilio o’r canlynol—
(i)cyfeiriad unrhyw hereditament yng Nghymru y mae’r trethdalwr wedi dechrau ei feddiannu ers iddo roi’r hysbysiad;
(ii)y dyddiad pryd y dechreuodd y trethdalwr feddiannu’r hereditament hwnnw;
(iii)y dyddiad pryd y peidiodd y trethdalwr â meddiannu’r hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 at ddibenion mangre fanwerthu;
(iv)y dyddiad pryd y rhoddwyd hysbysiad i unrhyw awdurdod bilio yng Nghymru gan neu ar ran y trethdalwr o dan y Gorchymyn hwn mewn cysylltiad â hereditament ac eithrio’r un a grybwyllir ym mharagraff 2 a chyfeiriad yr hereditament arall hwnnw.
6. Ac eithrio yn achos swyddfa bost, cadarnhad nad yw’r hereditament yn eiddo a eithrir fel y’i disgrifir yn y Gorchymyn hwn.
7. Cadarnhad o’r naill neu’r llall o’r canlynol—
(a)y dyddiad pryd y cafodd yr hereditament ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir yn yr hysbysiad a’i fod wedi parhau i gael ei ddefnyddio felly hyd at ddyddiad yr hysbysiad; neu
(b)y dyddiad y bydd yr hereditament yn cael ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir uchod.
8. Ymgymeriad gan y trethdalwr (neu os nad y trethdalwr yw’r person sy’n llofnodi’r hysbysiad, ymgymeriad ar ran y trethdalwr) y bydd y trethdalwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, yn ysgrifennu i hysbysu’r awdurdod bilio os yw o’r farn y gallai beidio â bod mwyach yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi o dan y Gorchymyn hwn.
9. Awdurdodiad gan y trethdalwr yn awdurdodi’r awdurdod bilio y rhoddir yr hysbysiad iddo i gaffael gan unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn berthnasol at ddibenion cadarnhau unrhyw wybodaeth a roddir yn yr hysbysiad neu at ddibenion sicrhau mewn unrhyw ddull arall gymhwystra’r trethdalwr i gael rhyddhad mewn cysylltiad â’r hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2.
10. Llofnod y trethdalwr neu’r person wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
11. Disgrifiad o swyddogaeth y person sy’n llofnodi’r hysbysiad.
12. Dyddiad yr hysbysiad.