- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 25 Chwefror 2015 Ran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”), ac eithrio adrannau 103 a 104 ac yn dwyn i rym adran 106 at y dibenion sy’n weddill. Mae’r gorchymyn hefyd yn cychwyn diwygiadau canlyniadol yn Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf (mewn perthynas â Sipsiwn a Theithwyr).
Dyma’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf.
Mae erthygl 2 yn cychwyn, at bob diben, adrannau 101, 102, 105, 107 i 110 a Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf. Mae erthygl 2(d) yn dwyn adran 106 i rym at y dibenion sy’n weddill.
Mae adran 101 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol gynnal asesiadau o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn eu hardal neu sy’n ymweld â hi o dro i dro.
Mae adran 102 yn darparu bod rhaid i awdurdodau tai lleol gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt gymeradwyo asesiad yr awdurdod o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu sy’n cyrchu yno.
Mae adran 105 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol ddarparu ar gais i Weinidogion Cymru y gyfryw wybodaeth i’w galluogi i gyflawni’u swyddogaethau o dan Ran 3 o’r Ddeddf.
Mae adran 106 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol, wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 3 o’r Ddeddf, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.
Mae adran 107 yn nodi’r dyletswyddau ar awdurdodau tai lleol mewn perthynas ag anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr pan fo awdurdod tai lleol yn paratoi strategaeth dai o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
Mae adran 108 yn diffinio’r prif ymadroddion a ddefnyddir yn Rhan 3 o’r Ddeddf.
Mae adran 109 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr o dan adran 108 a gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i adlewyrchu newidiadau pellach i’r diffiniad.
Mae adran 110 yn cyflwyno Rhan 2 o Atodlen 3 sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â Rhan 3 o’r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: