2015 Rhif 380 (Cy. 39) (C. 21)
Tai, Cymru

Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2015

Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 20141.

Enwi a dehongli1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2015.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.

Diwrnod penodedig2.

25 Chwefror 2015 yw’r diwrnod penodedig y bydd y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf yn dod i rym—

(a)

adran 101 (asesu anghenion llety);

(b)

adran 102 (adroddiad yn dilyn asesiad);

(c)

adran 105 (darparu gwybodaeth ar gais);

(d)

adran 106 (canllawiau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(e)

adran 107 (dyletswyddau mewn perthynas â strategaethau tai);

(f)

adran 108 (dehongli);

(g)

adran 109 (pŵer i ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr); a

(h)

adran 110 (diwygiadau canlyniadol) a Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf.

Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 25 Chwefror 2015 Ran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”), ac eithrio adrannau 103 a 104 ac yn dwyn i rym adran 106 at y dibenion sy’n weddill. Mae’r gorchymyn hefyd yn cychwyn diwygiadau canlyniadol yn Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf (mewn perthynas â Sipsiwn a Theithwyr).

Dyma’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 2 yn cychwyn, at bob diben, adrannau 101, 102, 105, 107 i 110 a Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf. Mae erthygl 2(d) yn dwyn adran 106 i rym at y dibenion sy’n weddill.

Mae adran 101 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol gynnal asesiadau o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn eu hardal neu sy’n ymweld â hi o dro i dro.

Mae adran 102 yn darparu bod rhaid i awdurdodau tai lleol gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt gymeradwyo asesiad yr awdurdod o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu sy’n cyrchu yno.

Mae adran 105 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol ddarparu ar gais i Weinidogion Cymru y gyfryw wybodaeth i’w galluogi i gyflawni’u swyddogaethau o dan Ran 3 o’r Ddeddf.

Mae adran 106 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol, wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 3 o’r Ddeddf, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

Mae adran 107 yn nodi’r dyletswyddau ar awdurdodau tai lleol mewn perthynas ag anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr pan fo awdurdod tai lleol yn paratoi strategaeth dai o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

Mae adran 108 yn diffinio’r prif ymadroddion a ddefnyddir yn Rhan 3 o’r Ddeddf.

Mae adran 109 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr o dan adran 108 a gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i adlewyrchu newidiadau pellach i’r diffiniad.

Mae adran 110 yn cyflwyno Rhan 2 o Atodlen 3 sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â Rhan 3 o’r Ddeddf.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym yn llawn (oni nodir fel arall) gan orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Darpariaeth

Dyddiad cychwyn

Rhif O.S.

Adran 2 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 3 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 5 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 6 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 7 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 8 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 10 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 12 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 14 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 15 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 16 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 19 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 20 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 21 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 23 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 29 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 34 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 40 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 41 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 42 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 46 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 49 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 50 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 57 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 59 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 64 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 72 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 78 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 80 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 81 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 86 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 95 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 98 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 99 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 106 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adrannau 111 i 128

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 130 a Rhan 3 o Atodlen 3

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 131(4)(c)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 137

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 140

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 141 a Rhan 5 o Atodlen 3

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 144

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Paragraff 1 o Atodlen 2 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Gweler hefyd adran 145(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 145(2) ar gyfer y darpariaethau hynny a ddaeth i rym ddeufis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.