2015 Rhif 507 (Cy. 42)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 182(2) a (3) a 203(9) a (10)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061, ac Atodlen 10 i’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.