RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AR GYFER FFIOEDD
PENNOD 3BENTHYCIADAU AT FFIOEDD
Benthyciadau at ffioedd mewn cysylltiad â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012: myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes ganddynt hawl i gael grant at ffioedd19.
(1)
Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy ganddo mewn perthynas â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2)
Oni bai bod paragraff (3) yn gymwys, rhaid i swm benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)
£3,465 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(5) yn gymwys, £1,725; a
(b)
y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(3)
Os oes gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael benthyciad at ffioedd o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i swm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)
£3,805 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(5) yn gymwys, £1,895; a
(b)
y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall,
(4)
Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm perthnasol sy’n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.
(5)
Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr os oes ganddo hawl i gael grant at ffioedd a bod y cwrs yn gwrs dynodedig cymhwysol.
(6)
Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012.
(7)
Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.