- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
24.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod—
(a)nad yw’r myfyriwr cymwys wedi ei hepgor o fod â’r hawl gan unrhyw un o’r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a
(b)bod y myfyriwr cymwys yn bodloni amodau’r hawl i gael y grant penodol y mae’n gwneud cais amdano.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod odano.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon o ran—
(a)blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari;
(b)blwyddyn academaidd cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—
(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;
(ii)sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu
(iii)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 ac yr oedd y myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs,
pan fo cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb llawnamser, gan gynnwys presenoldeb at ddiben ymarfer addysgu, yn llai na 6 wythnos;
(c)cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion sydd yn parhau am lai nag un flwyddyn academaidd.
(4) Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys at ddibenion bod â hawl i gael grant at gostau byw myfyriwr anabl o dan reoliad 25.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), nid oes hawl gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 i gael grant o dan y Rhan hon.
(6) Nid yw paragraff (5) yn gymwys at ddibenion rheoliadau 25 i 31, i fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio ar gwrs mynediad graddedig carlam.
(7) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.
(8) At ddibenion paragraff (7), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw—
(a)gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;
(b)gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy’n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy’n darparu cyfleusterau neu sy’n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;
(c)gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu’r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;
(d)ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr cymwys sy’n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o’i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu
(e)gwasanaeth di-dâl gydag unrhyw un o’r canlynol—
(i)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1);
(ii)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 22 o’r Ddeddf honno(2);
(iii)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3);
(iv)Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol neu’r Asiantaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a Llesiant Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adrannau 7 a 12 o Ddeddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009(4);
(v)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Grŵp Comisiynu Clinigol a sefydlwyd o dan adran 1I o’r Ddeddf honno(5); neu
(vi)y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth mewn Gofal a sefydlwyd o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 neu’r Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 252 o’r Ddeddf honno(6).
(9) Yn ddarostyngedig i baragraff (10), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliadau 36 i 43 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
(10) Nid yw paragraff (9) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol o ran blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw—
(a)bod y flwyddyn academaidd honno yn flwyddyn Erasmus yn unol â rheoliad 18(2); neu
(b)bod y cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.
(11) Ym mharagraff (9) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliadau 36 i 43, yw benthyciad at ffioedd.
(12) Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol yn unol â’r Rhan hon mewn perthynas â rhan o’r flwyddyn academaidd honno ond nid oes gan y myfyriwr hwnnw hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(13) Y digwyddiadau yw—
(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(c)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
(14) Yn ddarostyngedig i baragraff (15), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os yw’n garcharor.
(15) Nid yw paragraff (14) yn gymwys o ran grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy’n daladwy mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012.
(16) Rhaid trin myfyriwr y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben bod â hawl i gael y grantiau canlynol—
(a)grantiau ar gyfer dibynyddion;
(b)grant at gostau byw myfyrwyr anabl;
(c)grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;
(d)grant addysg uwch.
(17) Mae paragraff (16) yn gymwys i’r canlynol—
(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
(b)myfyriwr cymwys anabl—
(i)nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd; ac
(c)myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.
(18) Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell yr hawl i gael unrhyw grant o dan y Rhan hon ac eithrio (pan fo’n briodol) grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn unol â rheoliad 25.
1978 p. 29, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
2006 p. 41; mewnosodwyd adrannau 1H ac 1I gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), adrannau 9 a 10.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: